Y brif fantais yw hwyluso ymdrochi mewn meddygaeth wledig ac anghysbell er mwyn rhoi profiad i fyfyrwyr sydd â diddordeb i wneud penderfyniadau gwybodus am yrfa mewn cymunedau heb wasanaeth digonol o'r fath.
Os bydd myfyrwyr am ddilyn gyrfa mewn meddygaeth wledig ac anghysbell, bydd ymarfer mewn amgylchedd gwledig yn datblygu sgiliau a rhinweddau ychwanegol. Rhaid i ymarferwyr gwledig, boed mewn gofal cynradd neu eilaidd, fabwysiadu ymagwedd fwy rhyngddisgyblaethol tuag at feddygaeth, gan gyflawni amrywiaeth mwy o rolau. Maent hefyd yn ymgymryd â rôl fwy ymarferol yn ystod llwybr y claf a phenderfyniadau perthnasol, yn ogystal â rôl amlycach mewn iechyd cyhoeddus. Mae sgiliau technoleg gwybodaeth yn hanfodol, gan gynnwys fideo-gynadledda a 'teleiechyd'.
Mae ymarferwyr gwledig yn aml yn rhan ganolog o'u cymuned, ond gall hyn fod yn heriol yn ogystal â manteisiol. Mae gwydnwch a hunangymhelliant yn rhan fawr o fod yn ymarferydd gwledig llwyddiannus. Mae ymarfer mewn amgylchedd gwledig hefyd yn cynnig cyfle i weld lleoliadau hardd, gydag adnoddau gwych i bobl sy'n dwlu ar yr awyr agored. Nid yw myfyrwyr sy'n dilyn Llwybr RRHIME yn colli unrhyw rannau o gwricwlwm GEM MBBCh, ac ni fyddant dan anfantais os na fyddant yn dewis dilyn gyrfa mewn meddygaeth wledig/anghysbell ar ôl cymhwyso.