Cyfrifeg a Chyllid gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

A ydych yn chwilio am radd mewn Cyfrifyddu a Chyllid a fydd yn rhoi mantais gystadleuol i chi? Bydd y BSc mewn Cyfrifeg gyda Blwyddyn Sylfaen ym Mhrifysgol Abertawe yn siŵr o wneud hynny.

Os nad ydych wedi ennill y graddau angenrheidiol i gofrestru ar gyfer y cwrs BSc Cyfrifeg a Chyllid, y cwrs BSc Cyfrifeg a Chyllid gyda Blwyddyn Sylfaen yw'r radd i chi.

Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn ffordd ardderchog o feithrin y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ym maes cyfrifyddu a chyllid, cyn ymuno â myfyrwyr Blwyddyn 1 y cwrs gradd BSc Cyfrifeg a Chyllid yn yr Ysgol Reolaeth.

Os hoffech ddilyn gyrfa yn un o'r pedwar cwmni cyfrifyddu mawr (Deloitte, EY, KPMG neu PwC), neu os ydych yn gweld eich hun yn gweithio fel rheolwr cyllid, brocer stoc neu fancwr buddsoddi, bydd y radd BSc Cyfrifeg a Chyllid yn rhoi popeth sydd ei angen arnoch i chi.

Fel arbenigwr cyfrifyddu a chyllid, byddwch yn cyflawni rôl sylfaenol yn y gwaith o redeg busnes – beth bynnag fo'i faint. Mae rheoli cyllidebau a threthi, paratoi adroddiadau ariannol a chwblhau archwiliadau i gyd yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod busnes neu sefydliad yn rhedeg mor effeithiol ac mor llwyddiannus â phosibl.

Caiff y Flwyddyn Sylfaen ei haddysgu yn Y Coleg, sydd y drws nesaf i'r Ysgol Reolaeth. Ar ôl i chi gwblhau'r flwyddyn hon, byddwch yn symud i adeilad yr Ysgol Reolaeth am weddill eich astudiaethau.

Pam Cyfrifeg a Chyllid gyda Blwyddyn Sylfaen yn Abertawe?

  • Ymhlith yr 20 Rhaglen Orau yn y Deyrnas Unedig - Ansawdd Addysgu (Guardian University Guide 2022)
  • Wedi'i achredu gan gyrff achredu byd-eang - ACCAICAEW a CIMA. Dyma dechrau gwych i gyflawni statws Cyfrifydd Siartredig - astudiwch modiwlau sy'n rhoi eithriadau uniongyrchol i chi o arholiadau achredu allweddol. Mae hyn yn hynod ddeniadol i gyflogwyr y dyfodol a'ch rhagolygon graddedigion
  • ACCA - Gallwch elwa o'r nifer uchaf posib o eithriadau o arholiadau'r ACCA am elfen gwybodaeth gymhwysol a sgiliau cymhwysol y cymhwyster proffesiynol ar ôl graddio
  • Modiwl Cyfrifo Cyfrifiadurol: wedi'i gynllunio i'ch arwain drwy’r broses gyfan o sefydlu system gyfrifyddu gyfrifiadurol gan ddefnyddio SAGE Line 50
  • Teilwra eich cwrs i gyd-fynd â'ch diddordebau a'ch nodau gyrfa – dewiswch o ddetholiad enfawr o fodiwlau dewisol
  • Cewch gwybodaeth o'r byd go-iawn gan ein darlithwyr sydd â phrofiad mewn diwydiant a'r byd academaidd
  • Addysgir y Flwyddyn Sylfaen yn Y Coleg, adeilad â chyfleusterau o'r radd flaenaf ar Gampws y Bae
  • Caiff tair blynedd olaf y cwrs eu haddysgu yn adeilad gwerth £22 miliwn yr Ysgol Reolaeth, sydd y drws nesaf i'r Coleg ar Gampws y Bae
  • Mae'r Ysgol Reolaeth wedi'i hachredu gan AACSB International, cymdeithas addysg fusnes fwyaf y byd, sy'n cysylltu ysgolion busnes, busnesau a dysgwyr, i greu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwych.

Eich Profiad Cyfrifeg a Chyllid gyda Blwyddyn Sylfaen

Mae'r cwrs Cyfrifeg a Chyllid ym Mhrifysgol Abertawe yn gwrs gradd hyblyg sy'n rhoi cyfle i chi astudio dramor am flwyddyn neu weithio mewn diwydiant am flwyddyn. Gall hyn roi mantais wirioneddol i chi ac ehangu eich gorwelion pan ddaw'n amser i chi chwilio am waith.

Mae ein cwrs yn rhoi sylfaen ragorol i chi yn y ddau faes ac yn cynnig llawer o ryddid i chi yn ystod drwy flynedd olaf eich astudiaethau i ddewis o blith amrywiaeth o fodiwlau dewisol er mwyn gweddu i'r diddordebau y byddwch yn eu datblygu.

Ymchwil arloesol a gwybodaeth am ddiwydiant sy'n llywio ein haddysgu, a bydd academyddion arbenigol yn eich helpu i feithrin y sgiliau sy'n hanfodol i ragori mewn gyrfa yn y sector cyfrifyddu a chyllid.

Yn ystod eich amser gyda ni, bydd gennych fynediad llawn i'n stiwdios arloesol a'n cyfleusterau o'r radd flaenaf yn yr Ysgol Reolaeth i greu fideos a chynnwys digidol.

Yn ogystal â'ch paratoi ar gyfer gyrfa fel arbenigwr cyfrifyddu a chyllid mewn busnes neu sefydliad, rydym hefyd yn darparu gwasanaethau cymorth i'ch helpu i ddechrau eich busnes eich hun. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol i'r myfyrwyr hynny sydd am ddod yn gyfrifwyr neu gynghorwyr ariannol annibynnol.

Cyfleoedd Cyflogaeth Cyfrifeg a Chyllid gyda Blwyddyn Sylfaen

Ar ôl graddio o Brifysgol Abertawe, byddwch mewn sefyllfa wych i sicrhau cyflogaeth sy'n llawn boddhad mewn unrhyw sefydliad a ddymunwch.

P'un ai EY, Deloitte, KPMG neu PwC sy'n mynd â'ch bryd, mae'r radd hon yn eich gwneud yn ymgeisydd cryf am swydd. Gallai eich cam nesaf fod yn unrhyw un o'r rolau canlynol:

  • Rheoli cyfoeth neu gynghorydd buddsoddi
  • Cyfrifydd neu actiwari
  • Gweithiwr bancio proffesiynol
  • Archwilydd
  • Dadansoddwr cyllid

 

Modiwlau

Bydd eich astudiaethau cynnar yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn cyfrifyddu, cyllid, ystadegau, strategaeth a rheoli. Yn ystod blynyddoedd diweddarach, gallwch roi ffocws i'ch astudiaethau drwy ddewis o blith gwahanol fodiwlau arbenigol yn unol â'ch dewis yrfa, fel y nodir isod.

Cyfrifeg a Chyllid gyda Blwyddyn Sylfaen