Cyllid gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

A ydych yn chwilio am radd mewn Cyllid a fydd yn rhoi mantais gystadleuol i chi? Os felly, y cwrs BSc Cyllid gyda Blwyddyn Sylfaen ym Mhrifysgol Abertawe yw'r radd i chi.

Os nad ydych wedi ennill y graddau angenrheidiol i gofrestru ar gyfer y cwrs BSc Cyllid, y cwrs BSc Cyllid gyda Blwyddyn Sylfaen yw'r radd i chi.

Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn ffordd ardderchog o feithrin y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ym maes cyllid, cyn ymuno â myfyrwyr Blwyddyn 1 y cwrs gradd BSc Cyllid yn yr Ysgol Reolaeth.

Os yw gyrfa fel brocer stoc, bancwr buddsoddi neu ddadansoddwr ariannol yn eich cyffroi neu os ydych yn gweld eich hun yn gweithio fel actiwari, rheolwr ariannol neu ddadansoddwr data, y cwrs gradd pedair blynedd hwn yw'r sylfaen orau ar gyfer eich dewis yrfa ariannol.

Fel arbenigwr cyllid, byddwch yn cyflawni rôl sylfaenol yn y gwaith o redeg busnes – beth bynnag fo'i faint. Mae rheoli cyllidebau a threthi, paratoi adroddiadau ariannol a chwblhau archwiliadau i gyd yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod busnes neu sefydliad yn rhedeg mor effeithiol ac mor llwyddiannus â phosibl.

Caiff y Flwyddyn Sylfaen ei haddysgu yn Y Coleg, sydd y drws nesaf i'r Ysgol Reolaeth. Ar ôl i chi gwblhau'r flwyddyn hon, byddwch yn symud i adeilad yr Ysgol Reolaeth am weddill eich astudiaethau.

Pam Cyllid gyda Blwyddyn Sylfaen yn Abertawe?

  • Achredwyd gan gyrff achredu byd-eang - ACCACFA a CIMA
  • Teilwra eich cwrs i gyd-fynd â'ch diddordebau a'ch nodau gyrfa – dewiswch o ddetholiad enfawr o fodiwlau dewisol
  • Cewch gwybodaeth o'r byd go-iawn gan ein darlithwyr sydd â phrofiad mewn diwydiant a'r byd academaidd
  • Addysgir y Flwyddyn Sylfaen yn Y Coleg, adeilad â chyfleusterau o'r radd flaenaf ar Gampws y Bae
  • Caiff tair blynedd olaf y cwrs eu haddysgu yn adeilad gwerth £22 miliwn yr Ysgol Reolaeth, sydd y drws nesaf i'r Coleg ar Gampws y Bae
  • Mae'r Ysgol Reolaeth wedi'i hachredu gan AACSB International, cymdeithas addysg fusnes fwyaf y byd, sy'n cysylltu ysgolion busnes, busnesau a dysgwyr, i greu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwych.

Eich Profiad Cyllid gyda Blwyddyn Sylfaen

Mae'r cwrs BSc Cyllid gyda Blwyddyn Sylfaen ym Mhrifysgol Abertawe yn gwrs gradd hyblyg sy'n rhoi cyfle i chi astudio dramor am flwyddyn neu weithio mewn diwydiant am flwyddyn. Gall hyn roi mantais gystadleuol wirioneddol i chi a bydd yn ehangu eich gorwelion pan ddaw'n amser chwilio am gyflogaeth.

Caiff eich blwyddyn gyntaf (y Flwyddyn Sylfaen) ei haddysgu yn Y Coleg, sydd y drws nesaf i'r Ysgol Reolaeth, a chaiff eich tair blynedd olaf eu haddysgu yn yr Ysgol Reolaeth ei hun. 

Bydd ein detholiad eang o fodiwlau dewisol, y gallwch ddewis o'u plith yn ystod dwy flynedd olaf eich astudiaethau, yn eich galluogi i lywio'r cwrs gradd tuag at eich nodau gyrfa. Mae'r cwrs yn cyfuno damcaniaeth, tystiolaeth empirig ac ymarfer. Byddwch yn adeiladu sylfaen ariannol cryf ac yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy hanfodol, gan eich galluogi i ddadansoddi a gwerthuso mewn modd beirniadol faterion y farchnad a chysyniadau ariannol y byd go iawn.

Caiff yr addysgu ym Mhrifysgol Abertawe ei lywio'n rhannol gan ymchwil ac mae gan ein staff brofiad ymarferol o ddamcaniaeth ac ymarfer, sy'n golygu y gallwch gael budd o'u harbenigedd academaidd a'u gwybodaeth am y byd go iawn.

Yn ystod eich amser gyda ni, bydd gennych fynediad llawn i'n stiwdios arloesol a'n cyfleusterau o'r radd flaenaf yn yr Ysgol Reolaeth i greu fideos a chynnwys digidol.

Yn ogystal â'ch paratoi ar gyfer gyrfa fel arbenigwr ariannol mewn busnes, rydym hefyd yn darparu gwasanaethau cymorth i'ch helpu i ddechrau eich busnes eich hun. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol i'r myfyrwyr hynny sydd am ddod yn rheolwyr, archwilwyr neu ddadansoddwyr ariannol annibynnol.

Cyfleoedd Cyflogaeth Cyllid gyda Blwyddyn Sylfaen

Ar ôl graddio o Brifysgol Abertawe, byddwch mewn sefyllfa wych i sicrhau cyflogaeth sy'n llawn boddhad mewn unrhyw sefydliad a ddymunwch.

P'un ai gweithio i'r banciau neu'r cwmnïau broceriaid mwyaf yn y byd yw eich nod, mae'r radd hon yn eich gwneud yn ymgeisydd cryf am gyflogaeth. Gallai eich cam nesaf fod yn unrhyw un o'r rolau canlynol:

  • Rheoli cyfoeth neu gynghorydd buddsoddi
  • Cyfrifydd neu actiwari
  • Gweithiwr bancio proffesiynol
  • Archwilydd
  • Dadansoddwr cyllid

 

Modiwlau

Bydd eich astudiaethau cynnar yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn cyfrifyddu, cyllid, ystadegau, strategaeth a rheoli. Yn ystod blynyddoedd diweddarach, gallwch roi ffocws i'ch astudiaethau drwy ddewis o blith gwahanol fodiwlau arbenigol yn unol â'ch dewis yrfa, fel y nodir isod.

Cyllid gyda Blwyddyn Sylfaen