International Business Finance (Top Up Degree), BSc (Anrh)

100 Uchaf yn Nhablau Prifysgolion y Byd QS '24 -Mae Astudiaethau Busnes a Rheoli

myfyrwyr

Trosolwg o'r Cwrs

Sylwer: Mae’r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol yn unig.

Gall myfyrwyr o'r DU ystyried ein graddau eraill mewn Busnes a Chyllid.

Drwy'r BSc Cyllid Busnes Rhyngwladol (Gradd Atodol), y bwriad yw cynnig rhaglen hyblyg ym maes cyllid a rheoli busnes.

Fel gradd atodol sy'n para blwyddyn, mae hon yn cynnig elfennau craidd o'n graddau israddedig Busnes a Chyllid ond gydag elfennau pwrpasol wedi'u teilwra'n benodol ar gyfer y rhaglen hon.  Mae'r cwricwlwm yn cyfuno modiwlau busnes sy'n berthnasol i gyllid, fel rheoli prosiectau, â modiwlau sy'n canolbwyntio ar gyllid fel Cyllid Corfforaethol, a Buddsoddi Rhyngwladol: Asedau; Bondiau ac Ecwitïau.  Mae'r strwythur hwn yn sicrhau bod myfyrwyr rhyngwladol yn elwa o astudio amrywiaeth gynhwysfawr o bynciau sy'n gwella eu dealltwriaeth draws-ddiwylliannol ac yn eu paratoi ar gyfer yr amgylchedd busnes byd-eang.

Mae'r radd ar gyfer ymgeiswyr rhyngwladol sydd â chymhwyster sy'n cyfateb i HND yn eu mamwlad, gan gynnig llwybr carlam i astudio yn y DU a symud ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig.

Ar gyfer myfyrwyr o'r Deyrnas Unedig o gefndiroedd academaidd anhraddodiadol sy'n chwilio am lwybr i addysg uwch a modd i atgyfnerthu eu profiad a'u dysgu, rydym yn argymell y llwybr Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) sy'n rhoi mynediad uniongyrchol i ail flwyddyn neu olaf rhaglen israddedig bresennol.

Pam International Business Finance (Top Up Degree) yn Abertawe?

Sgôr Ragoriaeth: Mae Astudiaethau Busnes a Rheoli yn Abertawe yn safle 78 yn Nhablau Prifysgolion y Byd QS yn ôl Pwnc 2024, gan adlewyrchu ein henw da byd-eang am ragoriaeth academaidd.

Arbenigedd o'r Byd Go Iawn: Gallwch ddysgu gan ddarlithwyr sy'n flaenllaw yn fyd-eang sydd â phrofiad helaeth ym myd diwydiant a'r byd academaidd, gan roi mewnwelediadau ymarferol i chi ynghyd â sylfaen academaidd gadarn.

Safbwynt Byd-eang: Ymunwch â chymuned myfyrwyr amrywiol o dros 60 o wahanol wledydd, gan wella eich profiad rhyngwladol a'ch dealltwriaeth o farchnadoedd ariannol byd-eang.

Cyfleusterau o'r radd flaenaf: Gallwch astudio yn adeilad yr Ysgol Reolaeth ar Gampws y Bae y buddsoddwyd £22m ynddo, lle ceir technoleg ac adnoddau arloesol i ategu eich dysgu.

Cwricwlwm Cynhwysfawr: Mae'r rhaglen yn ymdrin â meysydd allweddol fel buddsoddiadau rhyngwladol, cyllid corfforaethol, a rheoli prosiectau, gan eich paratoi ar gyfer cymhlethdodau cyllid byd-eang.

Sgiliau ar gyfer Gyrfa: Gallwch feithrin y sgiliau meddwl yn feirniadol, dadansoddol a datrys problemau sy'n hanfodol er mwyn llwyddo mewn rolau cyllid mewn cwmnïau rhyngwladol a sefydliadau cyllid byd-eang.

Mae'r Ysgol Reolaeth wedi'i hachredu gan AACSB International, cymdeithas addysg fusnes fwyaf y byd, sy'n cysylltu ysgolion busnes, busnesau a dysgwyr, i greu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwych.

Mae'r Ysgol Reolaeth wedi'i hachredu gan AACSB International, cymdeithas addysg fusnes fwyaf y byd, sy'n cysylltu ysgolion busnes, busnesau a dysgwyr, i greu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwych.

Eich Profiad International Business Finance (Top Up Degree)

O'r diwrnod cyntaf yn yr Ysgol Reolaeth, byddwn yn gweithio gyda chi er mwyn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau a'ch profiad i wella eich rhagolygon gyrfa.

Byddwch yn cael cyngor wedi'i deilwra i'ch anghenion gan ein tîm gyrfaoedd arbenigol drwy gydol eich rhaglen. Efallai byddwch chi'n gallu gwneud lleoliad gwaith neu interniaeth drwy Rwydwaith Interniaeth â Thâl Abertawe (SPIN) neu fenter Wythnos o Waith.

Mae ein holl fyfyrwyr yn elwa o gael eu cyd-leoli â byd diwydiant ar Gampws arloesol y Bae. Mae gan ein cyfleusterau fannau addysgu ac astudio pwrpasol, ynghyd â chyfleusterau TG sylweddol sydd â’r galedwedd a’r feddalwedd arbenigol ddiweddaraf.

Cyfleoedd Cyflogaeth International Business Finance (Top Up Degree)

Mae'r radd hon yn pwysleisio pwysigrwydd deall cyllid corfforaethol a buddsoddiad rhyngwladol, wrth integreiddio agweddau allweddol fel dadansoddi ariannol a llywodraethu corfforaethol. Mae'r cwricwlwm yn cynnig safbwynt byd-eang ar sut mae'r ffactorau hyn yn dylanwadu ar arferion busnes a chyllid, gan roi'r gallu i fyfyrwyr ymdrin ag amgylcheddau cyllid cymhleth.

Yn y pen draw, mae'r radd hon yn darparu gwybodaeth ddamcaniaethol a sgiliau ymarferol sy'n berthnasol i fyd rhyngwladol busnes a chyllid, gan eu galluogi i gymhwyso eu harbenigedd ar draws amrywiaeth eang o gyd-destunau proffesiynol.

Yn ogystal â pharatoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd yn y farchnad cyllid busnes fyd-eang, mae'r radd hon yn berffaith ar gyfer y rhai hynny sydd ag uchelgeisiau i ddatblygu eu haddysg ar lefel ôl-raddedig.

Modiwlau

Ymwadiad: Gall y dewis o fodiwlau newid.