Trosolwg o'r Cwrs
Ydych chi'n chwilio am radd a fydd yn eich helpu i wneud gwahaniaeth yn y byd? Bydd y radd BSc Cyllid (Cynaliadwyedd) gyda Blwyddyn Sylfaen ym Mhrifysgol Abertawe yn eich helpu i gyflawni hyn.
Os na fyddwch chi'n cael y graddau angenrheidiol i gofrestru ar y cwrs BSc Cyllid (Cynaliadwyedd), gallai'r radd BSc Cyllid (Cynaliadwyedd) gyda Blwyddyn Sylfaen fod yn ddelfrydol i chi.
Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn llwybr ardderchog i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau gofynnol mewn cyllid, cyn ymuno â myfyrwyr Blwyddyn 1 y radd BSc Cyllid (Cynaliadwyedd) yn yr Ysgol Reolaeth.
Mae'r radd hon yn berffaith os oes gennych y brwdfrydedd i ddeall damcaniaethau ac arferion cyllid modern wrth bwysleisio pwysigrwydd cynaliadwyedd mewn busnes hefyd.
Gan gyfuno damcaniaeth â'r cymhwysiad ymarferol, byddwch yn meithrin sylfaen gadarn o ran cyllid a'r sgiliau y mae eu hangen mewn cynaliadwyedd o ran adrodd a buddsoddi, gan alluogi dadansoddi a gwerthuso materion a chysyniadau ariannol y byd go iawn. Mae hyn yn cynnwys archwiliad cynhwysfawr o bynciau fel economeg amgylcheddol, buddsoddi cynaliadwy, adrodd am gynaliadwyedd ariannol, yn ogystal ag integreiddio data ESG (Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu) a mesurau cynaliadwyedd eraill i'r dull addysgu.
Caiff y Flwyddyn Sylfaen ei haddysgu yn Y Coleg, a leolir drws nesaf i'r Ysgol Reolaeth. Ar ôl i chi gwblhau'r flwyddyn hon, byddwch yn symud i adeilad yr Ysgol Reolaeth am weddill eich astudiaethau.