Rheoli Busnes (Gweithrediadau) gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Anrh)

Datblygwch eich dealltwriaeth gadarn o Reoli Busnes a Gweithrediadau

myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd

Trosolwg o'r Cwrs

Ydych chi'n dychmygu eich hun yn chwarae rôl allweddol yn rheoli busnes? Ydych chi'n gobeithio bod yn rheolwr prosiect neu reolwr gweithrediadau i sefydliad llwyddiannus ryw ddiwrnod?

Gallai'r radd BSc Rheoli Busnes (Gweithrediadau) gyda Blwyddyn Sylfaen ym Mhrifysgol Abertawe eich helpu i gyflawni hyn.

Os na fyddwch chi'n cael y graddau angenrheidiol i gofrestru ar y cwrs BSc Rheoli Busnes (Gweithrediadau), gallai'r radd BSc Rheoli Busnes (Gweithrediadau) gyda Blwyddyn Sylfaen fod yn ddelfrydol i chi.

Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn llwybr ardderchog i feithrin yr wybodaeth a'r sgiliau ym meysydd busnes, gweithrediadau ac ymgynghoriaeth reoli, cyn ymuno â myfyrwyr Blwyddyn 1 y radd BSc Rheoli Busnes (Gweithrediadau) yn yr Ysgol Reolaeth.

Yn ystod eich gradd, yn ogystal ag ymdrin â meysydd craidd busnes a rheoli, byddwch chi'n meithrin y sgiliau ymarferol a'r meddylfryd sy'n ofynnol ar gyfer rôl mewn rheoli gweithrediadau. Mae'r cwrs yn berffaith i fyfyrwyr sydd â diddordeb clir mewn deall a chymeradwyo sut mae pethau'n cael eu cynhyrchu, boed yn gynhyrchion neu'n wasanaethau.

Byddwch chi'n astudio amrywiaeth o bynciau busnes allweddol gan gynnwys marchnata, cyfrifeg, cyllid, strategaeth a rheoli adnoddau dynol yn ogystal â modiwlau sy'n canolbwyntio ar weithrediadau, ymgynghoriaeth reoli ac e-fusnes.

Caiff y Flwyddyn Sylfaen ei haddysgu yn Y Coleg, a leolir drws nesaf i'r Ysgol Reolaeth. Ar ôl i chi gwblhau'r flwyddyn hon, byddwch yn symud i adeilad yr Ysgol Reolaeth am weddill eich astudiaethau.

Pam Rheoli Busnes (Gweithrediadau) gyda Blwyddyn Sylfaen yn Abertawe?

  • Mae'r Ysgol Reolaeth wedi'i hachredu gan AACSB International, cymdeithas addysg fusnes fwyaf y byd, sy'n cysylltu ysgolion busnes, busnesau a dysgwyr, i greu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwych.
  • Wedi'i achredu gan gyrff a gydnabyddir yn genedlaethol, gan gynnwys y CMI, sef yr unig sefydliad sy'n gallu dyfarnu statws Rheolwr Siartredig – yr anrhydedd uchaf i arweinwyr a rheolwyr
  • Gallwch chi deilwra eich cwrs i'ch diddordebau a'ch nodau gyrfa chi – dewiswch o blith detholiad enfawr o fodiwlau dewisol
  • Datblygwch ygallu ymarferol ar gyfer y byd go iawn gan ein darlithwyr sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang sydd â phrofiad heb ei ail ym myd diwydiant a’r byd academaidd
  • Cymuned amrywiol o fyfyrwyr o dros 60 o wledydd gwahanol
  • Yn rhan o adeilad yr Ysgol Reolaeth gwerth £22 miliwn ar Gampws y Bae

Eich Profiad Rheoli Busnes (Gweithrediadau) gyda Blwyddyn Sylfaen

Mae'r radd BSc Rheoli Busnes (Gweithrediadau) gyda Blwyddyn Sylfaen ym Mhrifysgol Abertawe yn radd hyblyg sy’n cynnig cyfle i astudio dramor am flwyddyn, neu weithio ym myd diwydiant am flwyddyn. Gall hyn roi mantais gystadleuol sylweddol i chi ac ehangu eich gorwelion pan ddaw'r amser i chwilio am gyflogaeth.

Caiff eich blwyddyn gyntaf (sef y Flwyddyn Sylfaen) ei haddysgu yn Y Coleg, a leolir drws nesaf i'r Ysgol Reolaeth, a chaiff eich tair blynedd olaf eu haddysgu yn yr Ysgol Reolaeth ei hun.

Mae'r addysgu yn Abertawe'n cael ei lywio'n rhannol gan ymchwil ac mae gan ein staff brofiad personol o ddamcaniaeth ac ymarfer, sy'n golygu y gallwch chi elwa o'u harbenigedd academaidd a'u gwybodaeth ymarferol am y byd go iawn.

Yn ogystal â'ch paratoi am yrfa fel rheolwr gweithrediadau mewn busnes, mae gennym wasanaethau cymorth ar gael i'ch helpu i sefydlu'ch busnes eich hun.

Yn ystod eich amser gyda ni, bydd gennych hefyd fynediad llawn i'n hystafell arloesol ar gyfer creu fideos a chynnwys digidol a chyfleusterau o'r radd flaenaf yn yr Ysgol Reolaeth.

Cyfleoedd Cyflogaeth Rheoli Busnes (Gweithrediadau) gyda Blwyddyn Sylfaen

Ar ôl graddio o Abertawe, byddwch chi mewn sefyllfa wych i sicrhau cyflogaeth foddhaus mewn unrhyw sefydliad dymunol.

P'un a ydych chi'n anelu at weithio i frandiau gorau'r byd neu fod yn ymgynghorydd, mae'r radd hon yn eich gwneud yn ymgeisydd cryf ar gyfer cyflogaeth. Gallai eich cam nesaf fod yn unrhyw un o'r rolau canlynol:

  • Rheolwr Gweithrediadau
  • Rheolwr Cadwyn Gyflenwi
  • Rheolwr Prosiect
  • Swyddog Gweithredol E-fasnach
  • Ymgynghorydd Rheoli

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cynnig Nodweddiadol Safon Uwch

CCD-DDD

Rheoli Busnes (Gweithrediadau) gyda Blwyddyn Sylfaen