Rheoli Busnes (Cyllid), BSc (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

A ydych yn chwilio am radd mewn cyllid busnes a fydd yn eich helpu i sefyll allan drwy feddu ar y sgiliau arbenigol sydd eu hangen i reoli arian mewn busnes byd-eang, cenedlaethol neu lleol?

Mae'r cwrs gradd hwn yn addas os oes gennych ddiddordeb mewn elfennau ariannol o reoli busnes, ac mae'n cwmpasu meysydd craidd busnes a rheoli, yn ogystal â phynciau cyllid uwch gan gynnwys cyllid corfforaethol, rheoli cyllid rhyngwladol ac arloesi ariannol.

Mae'r cwrs gradd BSc Rheoli Busnes ym Mhrifysgol Abertawe yn rhaglen sefydledig yn yr Ysgol Reolaeth, ac mae'n enwog am greu rheolwyr busnes hynod fedrus sy'n meddwl yn fasnachol. Mae ein graddedigion wedi symud ymlaen i weithio i rai o'r cwmnïau mwyaf yn y byd, gan gynnwys Shell UK, Marks & Spencer, Bloomberg a Tata.

Yn ogystal ag arbenigo mewn cyllid, bydd y cwrs Rheoli Busnes hwn yn eich galluogi i feithrin arbenigedd modern hanfodol mewn marchnata, rheoli gweithrediadau, cyfrifyddu, strategaeth ac adnoddau dynol.

Pam Rheoli Busnes (Cyllid) yn Abertawe?

  • Mae'r Ysgol Reolaeth wedi'i hachredu gan AACSB International, cymdeithas addysg fusnes fwyaf y byd, sy'n cysylltu ysgolion busnes, busnesau a dysgwyr, i greu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwych.
  • Achredwyd gan gyrff a gydnabyddir yn genedlaethol, gan gynnwys y CMI, yr unig sefydliad sy'n gallu dyfarnu statws Rheolwr Siartredig - yr anrhydedd uchaf i arweinwyr a rheolwyr
  • Teilwra eich cwrs i gyd-fynd â'ch diddordebau a'ch nodau gyrfa – dewiswch o ddetholiad enfawr o fodiwlau dewisol
  • Cewch gwybodaeth o'r byd go-iawn gan ein darlithwyr sydd â phrofiad mewn diwydiant a'r byd academaidd
  • Amrywiaeth o fyfyrwyr o fwy na 60 o wledydd gwahanol
  • Addysgir ein rhaglenni myfyrwyr yn adeilad gwerth £22 miliwn yr Ysgol Reolaeth ar gampws y Bae

Eich Profiad Rheoli Busnes (Cyllid)

Mae'r cwrs Rheoli Busnes (Cyllid) ym Mhrifysgol Abertawe yn gwrs gradd hyblyg sy'n rhoi cyfle i chi astudio dramor am flwyddyn neu weithio mewn diwydiant am flwyddyn. Gall hyn helpu i ehangu eich gorwelion pan ddaw'n amser i chi chwilio am waith.

Bydd y cwrs ei hun yn cynnig o amrywiaeth o fodiwlau sy'n cwmpasu hanfodion pob agwedd ar fusnes, gan gynnwys ystadegau a dulliau meintiol yn ogystal â sgiliau academaidd a phroffesiynol. Mae ein detholiad eang o fodiwlau dewisol yn yr ail a'r drydedd flwyddyn yn eich galluogi i lywio'r cwrs gradd tuag at nodau gyrfa penodol, fel cyllid.

Caiff yr addysgu ym Mhrifysgol Abertawe ei lywio'n rhannol gan ymchwil ac mae gan ein staff brofiad ymarferol o ddamcaniaeth ac ymarfer, sy'n golygu y gallwch gael budd o'u harbenigedd academaidd a'u gwybodaeth am y byd go iawn.

Yn ogystal â'ch paratoi ar gyfer gyrfa fel arbenigwr ariannol mewn busnes, rydym hefyd yn darparu gwasanaethau cymorth i'ch helpu i ddechrau eich busnes eich hun.  

Yn ystod eich amser gyda ni, bydd gennych fynediad llawn i'n stiwdios arloesol a'n cyfleusterau o'r radd flaenaf yn yr Ysgol Reolaeth i greu fideos a chynnwys digidol.

Cyfleoedd Cyflogaeth Rheoli Busnes (Cyllid)

Ar ôl graddio mewn Rheoli Busnes o Brifysgol Abertawe gan arbenigo mewn cyllid, byddwch mewn sefyllfa wych i sicrhau cyflogaeth sy'n llawn boddhad mewn unrhyw fusnes.

P'un ai Shell UK, Marks & Spencer, Bloomberg neu Tata sy'n mynd â'ch bryd, mae'r radd hon yn eich gwneud yn ymgeisydd cryf i unrhyw ddarpar gyflogwr. Gallai eich cam nesaf fod yn unrhyw un o'r rolau hyn:

  • Cynghorydd Ariannol
  • Dadansoddwr neu Ymchwilydd
  • Partner Busnes Adnoddau Dynol
  • Ymgynghorydd Rheoli
  • Rheolwr Datblygu Busnes

Modiwlau

Bydd eich astudiaethau cynnar yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn cyfrifyddu, cyllid, marchnata a rheoli gweithrediadau. Yn ystod blynyddoedd diweddarach, gallwch roi ffocws i'ch astudiaethau drwy ddewis o blith gwahanol fodiwlau arbenigol yn unol â'ch dewis yrfa, fel y nodir isod.

Rheoli Busnes (Cyllid)

Rheoli Busnes (Cyllid) gyda Blwyddyn Dramor

Rheoli Busnes (Cyllid) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant