Rheoli Busnes (Dadansoddeg Fusnes) gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

A ydych yn gweld eich hun yn cyflawni rôl allweddol yn llwyddiant busnes mawr? A ydych am ddysgu sut i ddadansoddi busnes yn ei gyfanrwydd er mwyn darganfod cyfleoedd masnachol?

Gallai'r cwrs gradd BSc Rheoli Busnes (Dadansoddeg Fusnes) gyda Blwyddyn Sylfaen ym Mhrifysgol Abertawe eich helpu i gyflawni hyn.

Os nad ydych wedi ennill y graddau angenrheidiol i gofrestru ar gyfer y cwrs BSc Rheoli Busnes (Dadansoddeg Fusnes), y cwrs BSc Rheoli Busnes (Dadansoddeg Fusnes) gyda Blwyddyn Sylfaen yw'r radd i chi.

Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn ffordd ardderchog o feithrin y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ym maes rheoli busnes a dadansoddeg, cyn ymuno â myfyrwyr Blwyddyn 1 y cwrs gradd BSc Rheoli Busnes (Dadansoddeg Fusnes) yn yr Ysgol Reolaeth.

Yn ystod eich cwrs gradd, byddwch yn meithrin y sgiliau sydd eu hangen i ragori yn oes ‘data mawr’ a dadansoddeg busnes. Byddwch hefyd yn astudio modiwlau busnes craidd gan gynnwys: marchnata, cyfrifyddu, cyllid, strategaeth a rheoli adnoddau dynol. Mae modiwlau'r cwrs wedi'u cynllunio mewn ffordd sy'n sicrhau eich bod yn meithrin dealltwriaeth gyflawn o'r ffordd y mae busnes yn gweithredu cyn ymuno â'r byd gwaith.

Caiff y Flwyddyn Sylfaen ei haddysgu yn Y Coleg, sydd y drws nesaf i'r Ysgol Reolaeth. Ar ôl i chi gwblhau'r flwyddyn hon, byddwch yn symud i adeilad yr Ysgol Reolaeth am weddill eich astudiaethau.

Pam Rheoli Busnes (Dadansoddeg Fusnes) gyda Blwyddyn Sylfaen yn Abertawe?

  • Achredwyd gan gyrff a gydnabyddir yn genedlaethol, gan gynnwys y CMI, yr unig sefydliad sy'n gallu dyfarnu statws Rheolwr Siartredig - yr anrhydedd uchaf i arweinwyr a rheolwyr
  • Teilwra eich cwrs i gyd-fynd â'ch diddordebau a'ch nodau gyrfa – dewiswch o ddetholiad enfawr o fodiwlau dewisol
  • Cewch gwybodaeth o'r byd go-iawn gan ein darlithwyr sydd â phrofiad mewn diwydiant a'r byd academaidd
  • Addysgir y Flwyddyn Sylfaen yn Y Coleg, adeilad â chyfleusterau o'r radd flaenaf ar Gampws y Bae
  • Caiff tair blynedd olaf y cwrs eu haddysgu yn adeilad gwerth £22 miliwn yr Ysgol Reolaeth, sydd y drws nesaf i'r Coleg ar Gampws y Bae

Eich Profiad Rheoli Busnes (Dadansoddeg Fusnes) gyda Blwyddyn Sylfaen

Mae'r cwrs BSc Rheoli Busnes (Dadansoddeg Fusnes) gyda Blwyddyn Sylfaen ym Mhrifysgol Abertawe yn gwrs gradd hyblyg sy'n rhoi cyfle i chi astudio dramor am flwyddyn neu weithio mewn diwydiant am flwyddyn. Gall hyn roi mantais gystadleuol wirioneddol i chi a bydd yn ehangu eich gorwelion pan ddaw'n amser chwilio am gyflogaeth.

Caiff eich blwyddyn gyntaf (y Flwyddyn Sylfaen) ei haddysgu yn Y Coleg, sydd y drws nesaf i'r Ysgol Reolaeth, a chaiff eich tair blynedd olaf eu haddysgu yn yr Ysgol Reolaeth ei hun.

Caiff yr addysgu ym Mhrifysgol Abertawe ei lywio'n rhannol gan ymchwil ac mae gan ein staff brofiad ymarferol o ddamcaniaeth ac ymarfer, sy'n golygu y gallwch gael budd o'u harbenigedd academaidd a'u gwybodaeth am y byd go iawn.

Yn ogystal â'ch paratoi ar gyfer gyrfa fel dadansoddwr busnes mewn busnes, rydym hefyd yn darparu gwasanaethau cymorth i'ch helpu i ddechrau eich busnes eich hun. Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnig llwybr mentora sy'n defnyddio cyfoeth o brofiad mewn diwydiant.

Yn ystod eich amser gyda ni, bydd gennych fynediad llawn i'n stiwdios arloesol a'n cyfleusterau o'r radd flaenaf yn yr Ysgol Reolaeth i greu fideos a chynnwys digidol.

Cyfleoedd Cyflogaeth Rheoli Busnes (Dadansoddeg Fusnes) gyda Blwyddyn Sylfaen

Ar ôl graddio o Brifysgol Abertawe, byddwch mewn sefyllfa wych i sicrhau cyflogaeth sy'n llawn boddhad mewn unrhyw sefydliad a ddymunwch.

P'un ai gweithio i gwmnïau gorau'r byd neu ddod yn ddadansoddwr busnes annibynnol yw eich nod, mae'r radd hon yn eich gwneud yn ymgeisydd cryf am gyflogaeth. Gallai eich cam nesaf fod yn unrhyw un o'r rolau canlynol:

  • Dadansoddwr Busnes
  • Dadansoddwr Gweithrediadau
  • Gwyddonydd Data
  • Ymgynghorydd Rheoli
  • Rheolwr Datblygu Busnes

Modiwlau

Bydd eich astudiaethau cynnar yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn cyfrifyddu, cyllid, marchnata, datblygu sgiliau personol a rheoli gweithrediadau. Yn ystod blynyddoedd diweddarach, gallwch roi ffocws i'ch astudiaethau drwy ddewis o blith gwahanol fodiwlau arbenigol yn unol â'ch dewis yrfa, fel a nodir isod.

Rheoli Busnes (Dadansoddeg Fusnes) gyda Blwyddyn Sylfaen