Trosolwg o'r Cwrs
A oes gennych ddiddordeb mewn marchnata digidol, hysbysebu ac ymddygiad defnyddwyr? A hoffech fod yn rhan o dîm marchnata mewn cwmni mawr?
Gallai'r cwrs gradd BSc Rheoli Busnes (Marchnata) gyda Blwyddyn Sylfaen ym Mhrifysgol Abertawe eich helpu i gyflawni hyn.
Os nad ydych wedi ennill y graddau angenrheidiol i gofrestru ar gyfer y cwrs BSc Rheoli Busnes (Marchnata), y cwrs BSc Rheoli Busnes (Marchnata) gyda Blwyddyn Sylfaen yw'r radd i chi.
Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn ffordd ardderchog o feithrin y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ym maes rheoli busnes a marchnata, cyn ymuno â myfyrwyr Blwyddyn 1 y cwrs gradd BSc Rheoli Busnes (Marchnata) yn yr Ysgol Reolaeth.
Yn ystod y cwrs pedair blynedd, byddwch yn astudio cymysgedd o fodiwlau busnes a marchnata sy'n amrywio o gynllunio busnes, ymgynghoriaeth rheoli a chyllid i farchnata rhyngwladol, ymchwil i'r farchnad a chynllunio marchnata strategol. Bydd y cyfuniad o fusnes a marchnata yn eich helpu i ddod yn farchnadwr masnachol sy'n meddu ar sgiliau y mae cyflogwyr yn rhoi llawer o werth arnynt.
Caiff y Flwyddyn Sylfaen ei haddysgu yn Y Coleg, sydd y drws nesaf i'r Ysgol Reolaeth. Ar ôl i chi gwblhau'r flwyddyn hon, byddwch yn symud i adeilad yr Ysgol Reolaeth am weddill eich astudiaethau.