Rheoli Busnes (Rheoli Adnoddau Dynol) gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

A ydych yn mwynhau rhyngweithio â phobl ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i lwyddiant sefydliad? A hoffech chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddatblygu gweithlu a sicrhau bod y bobl gywir yn gwneud y swyddi cywir o dan yr amodau gwaith cywir?

Gallai'r cwrs gradd BSc Rheoli Busnes (Rheoli Adnoddau Dynol) gyda Blwyddyn Sylfaen ym Mhrifysgol Abertawe eich helpu i gyflawni hyn.

Os nad ydych wedi ennill y graddau angenrheidiol i gofrestru ar gyfer y cwrs BSc Rheoli Busnes (Rheoli Adnoddau Dynol), y cwrs BSc Rheoli Busnes (Rheoli Adnoddau Dynol) gyda Blwyddyn Sylfaen yw'r radd i chi.

Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn ffordd ardderchog o feithrin y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ym maes rheoli busnes ac adnoddau dynol, cyn ymuno â myfyrwyr Blwyddyn 1 y cwrs gradd BSc Rheoli Busnes (Rheoli Adnoddau Dynol) yn yr Ysgol Reolaeth.

Yn ystod eich cwrs, byddwch yn astudio rheoli adnoddau dynol clasurol, yn ogystal â phynciau busnes ehangach, gan gynnwys: marchnata, cyfrifyddu, cyllid a strategaeth. Mae'r llwybr hefyd yn rhoi trosolwg i chi o'r heriau cyfreithiol a moesegol sy'n wynebu gweithwyr proffesiynol ym maes Adnoddau Dynol, a'r technegau a ddefnyddir i gyfateb sgiliau a galluoedd i anghenion busnes.

Caiff y Flwyddyn Sylfaen ei haddysgu yn Y Coleg, sydd y drws nesaf i'r Ysgol Reolaeth. Ar ôl i chi gwblhau'r flwyddyn hon, byddwch yn symud i adeilad yr Ysgol Reolaeth am weddill eich astudiaethau.

Pam Rheoli Busnes (Rheoli Adnoddau Dynol) gyda Blwyddyn Sylfaen yn Abertawe?

  • Mae'r Ysgol Reolaeth wedi'i hachredu gan AACSB International, cymdeithas addysg fusnes fwyaf y byd, sy'n cysylltu ysgolion busnes, busnesau a dysgwyr, i greu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwych.
  • Achredwyd gan gyrff a gydnabyddir yn genedlaethol, gan gynnwys y CMI, yr unig sefydliad sy'n gallu dyfarnu statws Rheolwr Siartredig - yr anrhydedd uchaf i arweinwyr a rheolwyr
  • Teilwra eich cwrs i gyd-fynd â'ch diddordebau a'ch nodau gyrfa – dewiswch o ddetholiad enfawr o fodiwlau dewisol
  • Cewch gwybodaeth o'r byd go-iawn gan ein darlithwyr sydd â phrofiad mewn diwydiant a'r byd academaidd
  • Addysgir y Flwyddyn Sylfaen yn Y Coleg, adeilad â chyfleusterau o'r radd flaenaf ar Gampws y Bae
  • Caiff tair blynedd olaf y cwrs eu haddysgu yn adeilad gwerth £22 miliwn yr Ysgol Reolaeth, sydd y drws nesaf i'r Coleg ar Gampws y Bae

Eich Profiad Rheoli Busnes (Rheoli Adnoddau Dynol) gyda Blwyddyn Sylfaen

Mae'r cwrs BSc Rheoli Busnes (Rheoli Adnoddau Dynol) gyda Blwyddyn Sylfaen ym Mhrifysgol Abertawe yn gwrs gradd hyblyg sy'n rhoi cyfle i chi astudio dramor am flwyddyn neu weithio mewn diwydiant am flwyddyn. Gall hyn roi mantais gystadleuol wirioneddol i chi a bydd yn ehangu eich gorwelion pan ddaw'n amser chwilio am gyflogaeth.

Caiff eich blwyddyn gyntaf (y Flwyddyn Sylfaen) ei haddysgu yn Y Coleg, sydd y drws nesaf i'r Ysgol Reolaeth, a chaiff eich tair blynedd olaf eu haddysgu yn yr Ysgol Reolaeth ei hun.

Os oes gennych ddiddordeb yn ochr ddynol rheoli busnes, mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol. Bydd yn meithrin y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i weithio mewn amrywiaeth o sectorau, o'r sectorau cyhoeddus a phreifat i'r trydydd sector / y sector gwirfoddol.

Caiff yr addysgu ym Mhrifysgol Abertawe ei lywio'n rhannol gan ymchwil ac mae gan ein staff brofiad ymarferol o ddamcaniaeth ac ymarfer, sy'n golygu y gallwch gael budd o'u harbenigedd academaidd a'u gwybodaeth am y byd go iawn.

Yn ystod eich amser gyda ni, bydd gennych fynediad llawn i'n stiwdios arloesol a'n cyfleusterau o'r radd flaenaf yn yr Ysgol Reolaeth i greu fideos a chynnwys digidol.

Yn ogystal â'ch paratoi ar gyfer gyrfa fel rheolwr adnoddau dynol mewn busnes, rydym hefyd yn darparu gwasanaethau cymorth i'ch helpu i ddechrau eich busnes eich hun. Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnig llwybr mentora sy'n defnyddio cyfoeth o brofiad mewn diwydiant.

Cyfleoedd Cyflogaeth Rheoli Busnes (Rheoli Adnoddau Dynol) gyda Blwyddyn Sylfaen

Ar ôl graddio o Brifysgol Abertawe, byddwch mewn sefyllfa wych i sicrhau cyflogaeth sy'n llawn boddhad mewn unrhyw sefydliad a ddymunwch.

P'un ai gweithio i gwmnïau gorau'r byd neu ddod yn ymgynghorydd adnoddau dynol yw eich nod, mae'r radd hon yn eich gwneud yn ymgeisydd cryf am gyflogaeth. Gallai eich cam nesaf fod yn unrhyw un o'r rolau canlynol:

  • Rheolwr Adnoddau Dynol
  • Rheolwr Busnes
  • Rheolwr Cysylltiadau â Chyflogeion
  • Dadansoddwr/Rheolwr Iawndaliadau neu Fudd-daliadau
  • Rheolwr Systemau Gwybodaeth Adnoddau Dynol
  • Rheolwr Hyfforddi a Datblygu

Modiwlau

Bydd eich astudiaethau cynnar yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn cyfrifyddu, cyllid, marchnata, datblygu sgiliau personol a rheoli gweithrediadau. Yn ystod blynyddoedd diweddarach, gallwch roi ffocws i'ch astudiaethau drwy ddewis o blith gwahanol fodiwlau arbenigol yn unol â'ch dewis yrfa, fel a nodir isod.

Rheoli Busnes (Rheoli Adnoddau Dynol) gyda Blwyddyn Sylfaen