Digwyddiadau
- Astudiaethau Americanaidd
- Y Clasuron, Hanes yr Henfyd ac Eifftoleg
- Saesneg, TESOL, Ieithyddiaeth Gymhwysol
- Llenyddiaeth Saesneg, Ysgrifennu Creadigol
- Hanes
- Cyfryngau, Cyfathrebu, Newyddiaduraeth a Cysylltiadau Cyhoeddus
- Ieithoedd, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd
- Cymraeg
- Newyddion yr ysgol diwylliant a chyfathrebu
- Ymchwil yn yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu
- Dyfarniadau a Thablau yn yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu
- Guide to clearing
- Ffilm a Diwylliant Gweledol
- Canllaw Clirio - Llenyddiaeth Saesneg a Hanes
- Anrhydedd Cyfun

Digwyddiadau
Digwyddiadau’r gorffennol
SGWRS YR ATHRO BOHATA
Kirsti Bohata, What's Normal Anyway?
What's Normal Anyway?
17 Rhagfyr 2020
Mae’r Athro Kirsti Bohata yn trafod y berthynas rhwng syniadau am ‘normal’ ac ‘anabl’, a dehongliadau diwylliannol o anabledd. Gan ddefnyddio esiampl o nofel am y diwydiant glo yn ne Cymru, bydd yn ystyried iaith anabledd a sut y bu anabledd wrth wraidd datblygiad syniadau o gydymddibyniaeth a rhethreg cydgefnogaeth mewn ffyrdd sy’n parhau i fod yn berthnasol i ni heddiw.
Ar ôl sgwrs Athro Bohata (gweler y fideo uchod), cynhaliwyd gweithdy ysgrifennu creadigol dan arweiniad Dr Alan Bilton. I lawrlwytho copi o'r prociau a'r ymarferion ysgrifennu a ddefnyddiwyd yn ystod y gweithdy, ewch i'r dudalen Adnoddau Ysgrifennu Creadigol.
Am ragor o wybodaeth am Athro Bohata, cliciwch yma.
Mae sgwrs Dr Younan
Sarah Younan, Kati Kati A State in Between; Transcultural Identities in Wales and the World
Kati Kati A State in Between; Transcultural Identities in Wales and the World
21 Ionawr 2021
Mae sgwrs Dr Sarah Younan yn archwilio hunaniaethau trothwyol a'u mynegiant llenyddol ac artistig. Mae hi hefyd yn trafod amlddiwylliannaeth a thrawsddiwylliannaeth ac yn ystyried sut mae iaith yn disgrifio diwylliannau amrywiol. A hithau wedi cael ei magu fel 'mzungu' yng Nghenia, mae Dr Younan yn tynnu ar ei phrofiadau o beidio â pherthyn yn ei sgwrs ac yn ei stori fer 'Mzungu' (sy'n rhan o'r casgliad o ysgrifau, Just So You Know: Essays of Experience).
Am ragor o wybodaeth am Dr Younan, cliciwch yma.
Ar ôl sgwrs Dr Younan (gweler y fideo uchod), cynhaliwyd gweithdy ysgrifennu creadigol dan arweiniad Kate Murray. I lawrlwytho copi o'r prociau a'r ymarferion ysgrifennu a ddefnyddiwyd yn ystod y gweithdy, ewch i'r dudalen Adnoddau Ysgrifennu Creadigol.
MAE SGWRS DR MAGNANI
Roberta Magnani, A Trans* State of Mind: Transgender Saints, Medieval and Modern
A Trans* State of Mind: Transgender Saints, Medieval and Modern
10 Chwefror 2021
Mae Dr Roberta Magnani yn cyflwyno sgwrs dreiddiol, sy'n berthnasol yn ddiwylliannol, am seintiau trawsryweddol y canol oesoedd. Mae hi'n trafod naratif y seintiau a gafodd eu distewi a'u profiadau o driniaeth wahaniaethol. Mae Dr Magnani yn defnyddio ei llais ei hun i ail-leoli bod yn drawsryweddol wrth wraidd hunaniaeth a chymdeithas gyfoes. Gwyliwch y sgwrs isod i ddysgu rhagor ynghylch hunaniaethau trawsryweddol yn y canol oesoedd, hunaniaeth rhywedd ac adhawlio lleisiau sydd wedi cael eu dileu a'u hymyleiddio.
Mae cyhoeddiad diweddaraf Dr Magnani ar gael yn: https://link.springer.com/journal/41280/9/3
Ar ôl sgwrs Dr Magnani (gweler y fideo uchod), cynhaliwyd gweithdy ysgrifennu creadigol dan arweiniad Dr Kamand Kojouri. I lawrlwytho copi o'r prociau a'r ymarferion ysgrifennu a ddefnyddiwyd yn ystod y gweithdy, ewch i'r dudalen Adnoddau Ysgrifennu Creadigol.
Am ragor o wybodaeth am Dr Magnani, cliciwch yma.
MAE SGWRS CAROLYN HITT
Carolyn Hitt, Hidden Heroines
Hidden Heroines
18 Mawrth 2021
Yn aml, mae naratifau prif ffrwd wedi anwybyddu menywod Cymru, heb gydnabod eu gwaith diwylliannol a chymdeithasol. Ymunwch â'r newyddiadurwr, yr awdur a'r darlledwr arobryn, Carolyn Hitt, wrth iddi siarad am gofnodi'r straeon y mae angen eu hadrodd; angenrheidrwydd rhoi rhyddhad diwylliannol a llenyddol i fenywod. O'r cyflwynydd Cymreig, Mavis Nicholson, i hanes Cymru, o Betty Campbell i'r Rhondda Rebel, mae Hitt yn cydnabod uchelgais y menywod Cymreig hyn, a sut cafodd yr uchelgais hwn ei ddathlu yn y prosiect diwylliannol, Hidden Heroines, sy'n cyfosod hanes Cymru ag ymwybyddiaeth fenywaidd.
Cliciwch yma i ddysgu rhagor am Hidden Heroines.
Ar ôl sgwrs Carolyn Hitt (gweler y fideo uchod), cynhaliwyd gweithdy ysgrifennu creadigol dan arweiniad Carolyn Lewis. I lawrlwytho copi o'r prociau a'r ymarferion ysgrifennu a ddefnyddiwyd yn ystod y gweithdy, ewch i'r dudalen Adnoddau Ysgrifennu Creadigol.
Am ragor o wybodaeth am Carolyn, cliciwch yma.
Elaine Canning, Stories and Histories
Stories and Histories
22 Ebrill 2021
Mae sgwrs Dr Canning yn cynnig dealltwriaeth fwy dwfn o ffuglen hanesyddol a'r ffyrdd amrywiol y gall rhywun ymdrin â'r genre llenyddol hwn, gan gynnwys, ymhlith agweddau eraill, groestoriad rhwng cymeriadau a hanes'. Mae Dr Canning yn cynnig bod ffuglen hanesyddol yn fath hyblyg o ffuglen sy'n dibynnu ar ymagwedd yr awdur at bwnc, cymeriad, cyfnod neu leoliad hanesyddol wrth iddi archwilio amrywiaeth o destunau sy'n mabwysiadu ymagweddau trawiadol ac arbrofol at y genre, gan gynnwys (ymysg eraill) The Haunting of Henry Twist (2017) gan Rebecca F John, Lincoln in the Bardo (2017) gan George Saunders, a The Paying Guests (2014) gan Sarah Waters. Mae Dr Canning yn gorffen drwy gyflwyno un o'i phrosiectau nesaf i ni - nofel a leolir yng nghyd-desun Rhyfel Cartref Sbaen rhwng 1936 a 1939 sy'n seiliedig ar strwythur patrymol yr hyn mae hi'n eu galw'n 'hanesion toredig'.
Ar ôl sgwrs Dr Canning (gweler y fideo uchod), cynhaliwyd gweithdy ysgrifennu creadigol dan arweiniad Kate Cleaver. I lawrlwytho copi o'r prociau a'r ymarferion ysgrifennu a ddefnyddiwyd yn ystod y gweithdy, ewch i'r dudalen Adnoddau Ysgrifennu Creadigol.
MAE SGWRS DR FAREBROTHER
Rachel Farebrother, The Politics of Form in Black US Literature
The Politics of Form in Black US Literature
20 Mai 2021
Bydd y sgwrs hon yn archwilio gwleidyddiaeth ffurf mewn barddoniaeth beirdd duon o'r UD, o Dry Victories (1972) gan June Jordan, testun â lluniau i blant, i'r gwaith clodfawr gan Claudia Rankine, Citizen: An American Lyric (2015), casgliad o ryddiaith, barddoniaeth a lluniau. Bydd yn darllen y testunau hyn fel enghreifftiau nodedig o gyfosod cynhyrchiol at ddibenion y math o feirniadaeth wleidyddol sydd wedi cael ei defnyddio gan artistiaid duon mewn cymunedau ledled y byd. Mae Rankine a Jordan yn creu estheteg cyfosodiad drwy greu cydchwarae dynamig rhwng geiriau a lluniau, technegau sy'n gwahodd cymhariaeth ag artistiaid collage megis Romare Bearden a Wangechi Mutu.
Cyhoeddiad diweddaraf Dr Farebrother - ar y cyd ag awdur arall - yw A History of the Harlem Renaissance.
Ar ôl sgwrs Dr Farebrother (gweler y fideo uchod), cynhaliwyd gweithdy ysgrifennu creadigol dan arweiniad Dr Rhea Seren Phillips. I lawrlwytho copi o'r prociau a'r ymarferion ysgrifennu a ddefnyddiwyd yn ystod y gweithdy, ewch i'r dudalen Adnoddau Ysgrifennu Creadigol.
Am ragor o wybodaeth am Dr Farebrother, cliciwch yma.
Sgwrs yr Athro Donahaye
Jasmine Donahaye, From Private Experience to Public Writing and Back Again
From Private Experience to Public Writing and Back Again
17 Mehefin 2021
'Pa straeon sydd gennych i'w hadrodd?'
Mae profiadau pawb yn unigryw ac o ddiddordeb i ni ein hunain - ond sut rydym yn eu troi'n straeon sydd o ddiddordeb i eraill? Rydym yn ceisio gwneud hyn drwy'r amser: rydym yn adrodd straeon amdanom ni wrth i ni gwrdd â phobl newydd ac wrth hen ffrindiau, wrth aelodau'r teulu neu wrth ddieithriaid sy'n aros am y bws, ac, wrth gwrs, wrth ein ffrindiau a dieithriaid yn y cyfryngau cymdeithasol. Ac rydym yn gwneud hyn am lawer o resymau ac yn fwyfwy aml, wrth i'r ffin rhwng cyfathrebu preifat a chyhoeddus ddod yn fwy tenau.
Efallai eich bod yn teimlo nad yw eich bywyd o ddiddordeb i eraill ac nad oes gennych brofiadau sy'n werth ysgrifennu amdanynt - neu efallai fod gennych brofiadau rydych yn ysu eu rhannu. Mae'r sgwrs hon yn archwilio rhai o'r gwahaniaethau rhwng ysgrifennu i chi eich hun ac ysgrifennu i eraill, ac mae'n ystyried rhai o'r ffyrdd o benderfynu pa gynulleidfa rydych chi am ei hannerch.
Mae gwybodaeth am hunangofiant yr Athro Donahaye, Losing Israel, (2015) ar gael drwy'r ddolen hon.
Ar ôl sgwrs Athro Farebrother (gweler y fideo uchod), cynhaliwyd gweithdy ysgrifennu creadigol dan arweiniad Carolyn Lewis. I lawrlwytho copi o'r prociau a'r ymarferion ysgrifennu a ddefnyddiwyd yn ystod y gweithdy, ewch i'r dudalen Adnoddau Ysgrifennu Creadigol.
Am ragor o wybodaeth am Athro Donahaye, cliciwch yma.
MAE SGWRS DR GAMBLE
Sarah Gamble, Harley Quinn's Tattoos and Other Stories of Women with Ink
Harley Quinn's Tattoos and Other Stories of Women with Ink
15 Gorffennaf 2021
Mae sgwrs Dr Gamble yn trafod gallu tatŵs i greu straeon, ar lefel unigol a chymunedol. Mae hi'n dechrau drwy drafod portreadau o gymeriad y llyfrau comig, Harley Quinn, a'r ffordd mae ei thatŵs yn elfen hanfodol o'i chymeriadaeth. I'r rhai sy'n gwybod sut i'w dehongli mae stori ei bywyd wedi'i cherfio ar ei chroen, gan adrodd hanes o gamdriniaeth, hunan-wadu a thaith i rymuso. Er ei bod yn gymeriad dychmygol, mae Harley Quinn yn dangos bod tatŵs yn ysgrifennu hanes bywyd ar y corff sy'n eu gwisgo. Fodd bynnag, er y cânt eu hystyried yn symbolau unigoliaeth, mae pŵer tatŵs i adrodd stori yn ehangach na hanes unrhyw gorff unigol, gan fod tatŵio yn grefft gymunedol â'i hanes ei hun: ac fel sy'n wir gyda llawer o hanesion, mae straeon cyfranogiad menywod yn tueddu i gael eu hanghofio dros amser. Mae ail hanner y sgwrs yn ystyried un enghraifft: yr artist tatŵs o'r Bari, Jessie Knight, a ddechreuodd ei gyrfa ym 1921. Mae ei stori hi, sydd wedi cael ei hesgeuluso am amser hir, yn dangos bod menywod wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad tatŵs fel celfyddyd ac yn awgrymu bod rhagor o straeon fel un Jessie i'w hadrodd.
Am ragor o wybodaeth am Dr Gamble, cliciwch yma.
Ar ôl sgwrs Dr Gamble (gweler y fideo uchod), cynhaliwyd gweithdy ysgrifennu creadigol dan arweiniad H Raven Rose. I lawrlwytho copi o'r prociau a'r ymarferion ysgrifennu a ddefnyddiwyd yn ystod y gweithdy, ewch i'r dudalen Adnoddau Ysgrifennu Creadigol.