Cynnig 1 Tymor (Medi – Rhagfyr 2025)
-
Cymhwysedd
- Mae’r cynnig hwn ar gael i fyfyrwyr lleol yn unig (cyfeiriad cartref o fewn tua 40 munud o deithio i Brifysgol Abertawe, cod post SA).
- Rhaid i ymgeiswyr fod wedi cofrestru fel myfyrwyr Prifysgol Abertawe ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
-
Hyd y Contract
- Mae’r contract ar gyfer cyfnod sefydlog o 13 wythnos (Medi–Rhagfyr 2025).
- Bydd dyddiadau dechrau a gorffen yn cael eu cadarnhau yn eich cynnig llety.
-
Rhent
- Rhent yw £150 yr wythnos.
- Rhaid gwneud pob taliad yn unol ag amserlenni talu safonol Gwasanaethau Preswyl Prifysgol Abertawe.
- Mae’r rhent yn cynnwys pob cyfleuster (nwy, trydan, dŵr, rhyngrwyd).
-
Lleoliad y Llety
- Bydd ystafelloedd yn cael eu dyrannu naill ai ar Gampws y Bae neu yn True Swansea (Canol y Ddinas).
- Ni ellir gwarantu math na lleoliad yr ystafell ac fe'u dyrannir yn ôl disgresiwn Gwasanaethau Preswyl.
-
Sefydlu a Chyrraedd
- Rhaid i fyfyrwyr gwblhau’r sefydlu ar-lein cyn cyrraedd.
- Mae gweithdrefnau cyrraedd safonol yn berthnasol, gan gynnwys casglu allweddi a gwirio ID.
-
Dim Gadael yn Gynnar
- Contract tymor sefydlog yw hwn.
- Ni chaniateir i fyfyrwyr dynnu’n ôl yn gynnar na drosglwyddo i gytundeb llety arall yn ystod y cyfnod o 13 wythnos.
-
Diwedd y Denantiaeth
- Rhaid gadael yr ystafell erbyn y dyddiad terfynol a nodir yn y contract.
- Mae’r broses ymadael safonol yn berthnasol (archwiliadau ystafell, dychwelyd allweddi, gofynion glanhau a didyniadau os yn berthnasol).
-
Ymddygiad a Chyflwr
- Mae pob preswylydd yn ddarostyngedig i Reoliadau Gwasanaethau Preswyl Prifysgol Abertawe a Siarter Myfyrwyr y Brifysgol.
- Gall torri rheolau arwain at gamau disgyblu a/neu derfynu’r contract.
-
Amodau Eraill
- Mae’r cynnig hwn ar gyfer Medi–Rhagfyr 2025 yn unig ac ni ellir ei ymestyn y tu hwnt i’r cyfnod sefydlog.
- Rhaid i fyfyrwyr sydd eisiau aros mewn llety ar ôl Rhagfyr wneud cais ar wahân.
- Drwy dderbyn y contract hwn, mae myfyrwyr yn cytuno i gydymffurfio â holl delerau a pholisïau safonol y Gwasanaethau Preswyl.
-
Ceisiadau ar ôl 5 Medi
- Bydd ceisiadau ar gyfer y Cynnig Myfyriwr Lleol – 1 Tymor ar ôl 5 Medi 2025 yn cael eu hystyried yn amodol ar argaeledd.
- Mae Gwasanaethau Preswyl yn cadw’r hawl i gau’r cynnig unwaith y bydd pob lle wedi’i ddyrannu.