Ymysg y casgliadau yn Archifau Richard Burton, y mae nofelau gan amrywiaeth o awduron. Mae'r canllaw hwn yn rhoi trosolwg o'r awduron, ynghyd â theitlau rhai o'r llyfrau sydd yn y casgliadau.
Llenyddiaeth
Nofelau, Straeon byrion, Barddoniaeth a Drama
Nofelau - Raymond Williams, Ron Berry, B L Coombes, Alun Richards ...
Ymysg y casgliadau yn Archifau Richard Burton, y mae nofelau gan amrywiaeth o awduron. Mae'r canllaw hwn yn rhoi trosolwg o'r awduron, ynghyd â theitlau rhai o'r llyfrau sydd yn y casgliadau.
- Ron Berry (WWE/1)
Ganwyd a magwyd Ronald Anthony [Ron] Berry (1920-1997) ym Mlaen-cwm yng nghwm Rhondda Fawr, Sir Forgannwg. Roedd ganddo amrywiaeth o swyddi yn ystod ei fywyd, gan gynnwys glöwr, gwasanaeth milwrol a phaffiwr. Roedd afiechyd cronig yn ei rwystro rhag dod o hyd i waith rheolaidd ond dechreuodd ysgrifennu traethodau, straeon a cherddi. Ei nofel gyntaf oedd 'Hunters and Hunted' (1960) a dilynwyd hon gan eraill.
Mae'r casgliad yn cynnwys nofelau cyhoeddedig a heb eu cyhoeddi megis 'Flame and Slag', 'Hunters and Hunted', 'So Long, Hector Bebb', 'The Full Time Amateur', 'This Bygone', 'Travelling Loaded', 'Below Lord’s Head Mountain', 'Jonesy Makes Connections' a 'More Guts Than Sense'.
- Raymond Williams (WWE/2)
Mae Raymond Henry Williams (1921-1988) yn adnabyddus fel ysgolhaig llenyddol a nofelydd, ond ysgrifennodd nifer o straeon byrion hefyd. Mynychodd Ysgol Ramadeg King Henry VIII, Y Fenni ac aeth ymlaen i astudio Saesneg yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt. Gwasanaethodd yng nghatrawd gwrthdanciau rhif 21 yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bu'n addysgu fel tiwtor staff yn Adran Allanol Prifysgol Rhydychen (1946-61) a dychwelodd i Gaergrawnt nes ymlaen. Ysgrifennai'n doreithiog, ac roedd ei allbwn yn cynnwys gwaith academaidd, ffuglen ac adolygiadau llyfrau, yn ogystal ag erthyglau ar gyfer 'The Listener'. Ei nofel gyntaf oedd 'Border Country' (1960).
Mae'r casgliad yn cynnwys 'Border Country' a'r gwaith cysylltiedig, 'Border Village' yn ogystal â 'The Fight for Manod', 'The Volunteers', 'The Grasshoppers' a 'People of the Black Mountains'.
- B L Coombes (SWCC/MND/14)
Ganwyd Bertie Lewis Coombes Griffiths (1893-1974) yn Wolverhampton, cafodd ei fagu yn Swydd Henffordd, ond symudodd nes ymlaen i dde Cymru. Cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, bu'n gweithio yn y pyllau glo. Yn ei bedwardegau, trodd at ysgrifennu ac roedd John Lehmann yn fentor iddo. Ysgrifennai Coombes mewn ymateb i ddigwyddiadau ac agweddau, a daeth yn warcheidwad hunanbenodedig y gwirionedd am y diwydiant glo a'r cymunedau glofaol. Rhaid deall y cyd-destun cymdeithasol, gwleidyddol, diwylliannol a diwydiannol yr oedd yn byw ynddo i ddeall ei waith, ei effaith a'i arwyddocâd. Ei gyhoeddiadau mwyaf adnabyddus yw 'These Poor Hands: The Autobiography of a Miner Working in South Wales' (1939), 'These Clouded Hills' (1944), a 'Miners Day' (1945).
Mae'r casgliad yn cynnwys 'The Singing Sycamore' a 'Castell Vale' ynghyd â nifer mawr o straeon byrion.
- Alun Richards (WWE/4)
Roedd Alun Morgan Richards (1929-2004) yn ysgrifennwr proffesiynol toreithiog yr oedd ei waith yn cynnwys dramodiadau ar gyfer teledu, nofelau, straeon byrion, dramâu a darnau ar gyfer y radio. Cyn troi at ysgrifennu amser llawn, bu'n gwasanaethu yn y Llynges Frenhinol ac yn gweithio fel Athro yng Nghaerdydd a swyddog prawf yn Llundain. Roedd ei waith yn ymwneud yn benodol â chymunedau di-gymraeg de Cymru a themâu morwrol.
Mae'r casgliad yn cynnwys testun ar gyfer y nofelau morwrol, 'Ennal's Point' a 'Barque Whisper'.
Mae'r wybodaeth uchod yn darparu cyflwyniad byr i destunau'r nofelau, rhai cyhoeddedig a heb eu cyhoeddi, a gedwir yn yr Archifau. Os hoffech ddysgu mwy am yr eitemau hyn, neu am y casgliadau llenyddol a'r casgliadau eraill sydd gennym, cysylltwch â ni.
Straeon Byrion - Ron Berry, B L Coombes, Raymond Williams ...
Ymysg y casgliadau yn Archifau Richard Burton y mae nifer o straeon byrion gan awduron amrywiol; mae'r rhan fwyaf o'r straeon byrion hyn yn Saesneg. Mae'r canllaw hwn yn rhoi trosolwg o'r awduron, ynghyd â theitlau rhai o'r straeon byrion a gedwir yn y casgliadau.
- Ron Berry (WWE/1)
Ganwyd a magwyd Ronald Anthony [Ron] Berry (1920-1997) ym Mlaen-cwm yng nghwm Rhondda Fawr, Sir Forgannwg. Roedd ganddo amrywiaeth o swyddi yn ystod ei fywyd, gan gynnwys glöwr, gwasanaeth milwrol a phaffiwr. Roedd afiechyd cronig yn ei rwystro rhag dod o hyd i waith rheolaidd ond dechreuodd ysgrifennu traethodau, straeon a cherddi. Cyhoeddwyd casgliad o'i straeon byrion ar ôl iddo farw yn y gyfrol 'Collected Stories' (2000), a olygwyd gan Simon Baker.
Mae'r casgliad yn cynnwys: 'A Hero of 1938', 'Comrades in Arms', 'Spoils of Circumstance', 'The Foxhunters', 'Routes from Roots', 'Natives and Exiles', 'On Maintenance', 'Sarah-fach', 'The Disabled' ac eraill.
- B L Coombes (SWCC/MND/14)
Ganwyd Bertie Lewis Coombes Griffiths (1893-1974) yn Wolverhampton, cafodd ei fagu yn Swydd Henffordd, ond symudodd nes ymlaen i dde Cymru. Cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, bu'n gweithio yn y pyllau glo. Yn ei bedwardegau, trodd at ysgrifennu ac roedd John Lehmann yn fentor iddo. Ysgrifennai Coombes mewn ymateb i ddigwyddiadau ac agweddau, a daeth yn warcheidwad hunanbenodedig y gwirionedd am y diwydiant glo a'r cymunedau glofaol. Rhaid deall cyd-destunau cymdeithasol, gwleidyddol, diwylliannol a diwydiannol ei oes i ddeall ei waith, ei effaith a'i arwyddocâd.
Mae'r casgliad yn cynnwys: 'The Opening Door', 'The Watch', 'The Inheritance', 'Always', 'The Stranger', 'Atmospherics' ac 'I Saw the Headless Horseman'.
- Alun Richards (WWE/4)
Roedd Alun Morgan Richards (1929-2004) yn ysgrifennydd proffesiynol toreithiog, yr oedd ei waith yn cynnwys dramodiadau ar gyfer teledu, nofelau, straeon byrion, dramâu a darnau i'r radio. Cyn troi at ysgrifennu amser llawn, bu'n gwasanaethu yn y Llynges Frenhinol ac yn gweithio fel athro yng Nghaerdydd ac fel swyddog prawf yn Llundain. Roedd ei waith yn ymwneud yn benodol â chymunedau di-gymraeg de Cymru a themâu morwrol. Ystyrir bod ei gasgliad o straeon byrion, 'Dai Country' a 'The Fomer Miss Merthyr Tydfil' (1979) ymysg ei waith gorau.
Mae'r casgliad yn cynnwys: recordiadau o 'The Former Miss Merthyr Tydfil', 'Going to the Flames', 'Dream Girl', 'Fly Half'; teipysgrifau 'The Bass', 'The Girls in their Winter Woollies', 'Stop Press' ac 'A Short and Troubled History of One’s Life and Times'.
- John Wade (SWCC/MNB/PP/22)
Cedwir y straeon byrion am fywyd ym meysydd glo Cymru gan John Wade o Sutton, Surrey, yng nghasgliad Harold Finch. Roedd Harold Josiah Finch (1898-1979) yn weithgar mewn mwyngloddio a gwleidyddiaeth yn ne Cymru. Bu'n AS Llafur dros Fedwellte (1950-1970), yn Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn y Swyddfa Gymreig (1964-1966) ac yn llefarydd yr wrthblaid ar danwydd a phŵer (1959-1960) Cafodd ei urddo'n farchog ym 1976.
Mae'r casgliad yn cynnwys: 'Body and Soul', 'Bones and Widows' a ‘Nat o’ the Glen'.
- D G ac Islwyn Williams (SWCC/MNC/PP/29)
Roedd D G Williams yn awdur dramâu a straeon byrion Cymraeg yng nghanol yr ugeinfed ganrif.
Addysgwyd Islwyn Williams (1903-1957) yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin ac ysgrifennai yn nhafodiaith Cwm Tawe. Ei ddwy gyfrol enwog o straeon byrion yw 'Cap Wil Tomos' (1946) a 'Storïau a Phortreadau' (1954). Ysgrifennwyd llawer o'i ddramâu a'i straeon byrion i'w darlledu ar y radio.
Mae'r casgliad yn cynnwys: 'Y Potsier' a 'Saron' gan TG Williams; a 'Rhaglunieth' gan Islwyn Williams.
- Raymond Williams (WWE/2)
Mae Raymond Henry Williams (1921-1988) yn adnabyddus fel ysgolhaig llenyddol a nofelydd, ond ysgrifennodd nifer o straeon byrion hefyd. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg King Henry VIII yn y Fenni, ac aeth ymlaen i astudio Saesneg yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt. Gwasanaethodd yng nghatrawd gwrthdanciau rhif 21 yn ystod yr Ail Ryfel Byd hefyd. Addysgodd fel tiwtor staff yn Adran Allanol Prifysgol Rhydychen (1946-61) a dychwelodd i Gaergrawnt yn ddiweddarach. Ysgrifennai'n doreithiog, ac mae ei allbwn yn cynnwys gwaith academaidd, ffuglen ac adolygiadau llyfr, yn ogystal ag erthyglau ar gyfer 'The Listener'.
Mae'r casgliad yn cynnwys: 'Red Earth', 'I Live Through the War', 'The Writing on the Wall', 'The Liberation', 'While Men Worked' ac eraill.
Mae'r wybodaeth uchod yn darparu cyflwyniad byr i'r straeon byrion a gedwir yn yr Archifau. Os hoffech wybod mwy am yr eitemau hyn neu'r casgliadau llenyddol a'r casgliadau eraill sydd gennym, cysylltwch â ni.
Barddoniaeth - Vernon Watkins, Raymond Williams, Ron Berry ...
Ymhlith y casgliadau yn Archifau Richard Burton, y mae detholiad o gerddi gan awduron amrywiol; mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn Saesneg. Mae'r canllaw hwn yn rhoi trosolwg o'r awduron, ynghyd â theitlau rhai o'r cerddi yn y casgliadau.
- Ron Berry (WWE/1)
Ganwyd a magwyd Ronald (Ron) Anthony Berry (1920-1997) ym Mlaen-cwm yng Nghwm Rhondda Fawr, Sir Forgannwg. Roedd ganddo amrywiaeth o swyddi yn ystod ei fywyd ond roedd afiechyd cronig yn ei rwystro rhag dod o hyd i waith rheolaidd. Ei nofel gyntaf oedd 'Hunters and Hunted' (1960) a chyhoeddwyd rhai eraill yn sgil hyn, gan gynnwys 'Peregrine Watching' (1987).
Mae'r casgliad yn cynnwys drafftiau o 'Child, Mother, Father' a 'The Breaking in the Making: Sample One' yn ogystal â theipysgrif o gerdd gan Kenneth Rexroth, 'Thou Shalt Not Kill: a memorial to Dylan Thomas'.
- D G ac Islwyn Williams (SWCC/MNC/PP/29)
Mae'r casgliad yn gynnwys cerdd gan Islwyn Williams o'r enw ‘Y Beddau a Wlych y Glaw’.
- Raymond Williams (WWE/2)
Mae Raymond Henry Williams (1921-1988) yn adnabyddus fel ysgolhaig llenyddol a nofelydd, ond ysgrifennodd nifer o straeon byrion hefyd. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg King Henry VIII yn y Fenni, ac aeth ymlaen i astudio Saesneg yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt. Gwasanaethodd yng nghatrawd gwrthdanciau rhif 21 yn ystod yr Ail Ryfel Byd hefyd. Addysgodd fel tiwtor staff yn Adran Allanol Prifysgol Rhydychen (1946-61) a dychwelodd i Gaergrawnt yn ddiweddarach. Ysgrifennai'n doreithiog, ac mae ei allbwn yn cynnwys gwaith academaidd, ffuglen ac adolygiadau llyfr, yn ogystal ag erthyglau ar gyfer The Listener.
Mae'r casgliad yn cynnwys 'Dance of the Prospectuses', 'Ederyn’s Song', 'Nijmegen Bridge', 'On first looking in “New Lines”', a 'The Vision' for Wolf Mankowitz, ynghyd â cherddi di-deitl.
- Vernon Watkins (LAC/120)
Roedd Vernon Watkins (1960-1967) yn fardd o fri rhyngwladol ac yn ddarlithydd yng Ngholeg y Brifysgol Abertawe (Cymrawd Barddoniaeth Calouste Gulbenkian). Roedd Dylan Thomas ymhlith ei ffrindiau. Gyda'i deulu, symudodd Vernon Watkins i UDA, lle cafodd ei benodi'n Ddarlithydd Gwadd mewn Barddoniaeth Fodern ym Mhrifysgol Washington ym 1967.
Mae'r casgliad yn cynnwys gohebiaeth â Neville Masterman ynghylch cyfieithu barddoniaeth, megis 'Revolution' gan y bardd Hwngaraidd, Sandor Petofi, a thrawsgrifiad o farddoniaeth ddigrif gan Vernon Watkins, 'A Survey of the German Romantic Movement', a oedd yn dychanu Kant, Goethe, Schopenhauer, Heine, Lessing, Beethoven, etc.
Mae'r wybodaeth uchod yn gyflwyniad byr i'r farddoniaeth a gedwir yn yr Archifau. Os hoffech wybod mwy am yr eitemau hyn neu am y casgliadau llenyddol a'r casgliadau eraill sydd gennym, cysylltwch â ni.
Drama - Elaine Morgan, Ron Berry, Raymond Williams ...
Ymhlith y casgliadau yn Archifau Richard Burton, ceir detholiad o ddramâu llwyfan, radio a theledu gan awduron amrywiol. Saesneg yw iaith y rhan fwyaf o'r rhain. Mae'r canllaw hwn yn rhoi trosolwg o ddetholiad o'r awduron, ynghyd â theitlau rhai o'r dramâu a gedwir yn y casgliadau.
- Ron Berry (WWE/1)
Ganwyd a magwyd Ronald Anthony [Ron] Berry (1920-1997) ym Mlaen-cwm yng nghwm Rondda Fawr, Sir Forgannwg. Roedd ganddo amrywiaeth o swyddi yn ystod ei fywyd ond roedd afiechyd cronig yn ei rwystro rhag dod o hyd i waith rheolaidd. Ei nofel gyntaf oedd 'Hunters and Hunted' (1960), a chyhoeddwyd llyfrau eraill yn sgil hyn, gan gynnwys 'Peregrine Watching' (1987) am ddychweliad yr hebog tramor i'r Rhondda.
Mae'r casgliad yn cynnwys fersiynau o 'But Now They Are Fled' a 'Death of a Dog', 'Everybody Loves Saturday Night', 'Merrily, Merrily, Merrily' 'Shall I Live', 'Uncle Rollo' a 'Where Darts the Gar, Where Floats the Wrack' yn ogystal â dramâu eraill.
- D G ac Islwyn Williams (SWCC/MNC/PP/29)
Mae'r casgliad yn cynnwys tri chopi o ddramâu di-deitl.
- Raymond Williams (WWE/2)
Mae Raymond Henry Williams (1921-1988) yn adnabyddus fel ysgolhaig llenyddol a nofelydd, ond ysgrifennodd nifer o straeon byrion hefyd. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg King Henry VIII yn y Fenni, ac aeth ymlaen i astudio Saesneg yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt. Gwasanaethodd yng nghatrawd gwrthdanciau rhif 21 yn ystod yr Ail Ryfel Byd hefyd. Addysgodd fel tiwtor staff yn Adran Allanol Prifysgol Rhydychen (1946-61) a dychwelodd i Gaergrawnt yn ddiweddarach. Ysgrifennai'n doreithiog, ac mae ei allbwn yn cynnwys gwaith academaidd, ffuglen ac adolygiadau llyfr, yn ogystal ag erthyglau ar gyfer 'The Listener'.
Mae'r casgliad yn cynnwys 'King Macbeth', 'KOBA' (a ysgrifennwyd fel rhan o 'Modern Tragedy), 'Liberation', 'Public Enquiry', a 'Revolt in Rome', yn ogystal â sawl gwaith di-deitl.
- William Henry Harris (SWCC/MNA/PP/42)
Mae'r casgliad yn cynnwys 'Squire Hay', 'Arransmeyer', 'The Story I Shall Tell My Son', 'The White Slaves of England', 'Paul Colette' a 'Jane Douglas'.
- Elaine Morgan (WWE/3)
Astudiodd Elaine Morgan (1920-2013) Saesneg yn Lady Margaret Hall, Rhydychen, ac aeth ymlaen i gael gyrfa hir ac amrywiol fel awdur. Yn ystod y 1950au, enillodd gystadleuaeth ysgrifennu yn 'The New Statesman' ac, o'r adeg honno, dechreuodd ysgrifennu amrywiaeth o waith. Nes ymlaen ymunodd â'r BBC a ddechreuodd gynhyrchu ei dramâu. Yn ogystal â sgriptiau ar gyfer nifer o ddramâu ac addasiadau adnabyddus i'r teledu, roedd yn adnabyddus hefyd am ei hysgrifennu ar anthropoleg fiolegol, yn ogystal ag am ei cholofnau yn y wasg. Enillodd nifer o wobrau, gan gynnwys dwy wobr BAFTA, ac fe'i hetholwyd yn Gymrawd y Gymdeithas Llenyddiaeth Frenhinol. Yn 2009, derbyniodd yr OBE am wasanaethau i lenyddiaeth ac addysg.
Mae'r casgliad yn cynnwys 'Dr Finlay’s Casebook', 'Marie Curie', 'Lil', 'Lloyd George', yn ogystal â llawer o deitlau eraill a ysgrifennwyd neu a addaswyd gan Elaine Morgan.
- Y Casgliad Theatr (LAC/106)
Mae'r casgliad yn cynnwys eitemau o'r ddeunawfed ganrif hyd at 1890 ac mae'n ymwneud â Theatr Fach Abertawe, Prifysgol Cymru Abertawe, y theatr yn Llundain, theatrau rhanbarthol, 'y Theatr Gludadwy’, cynyrchiadau teledu, ynghyd ag eitemau amrywiol.
Mae'r casgliad yn cynnwys 'The Last Dread Penalty' gan W J Mackay (ynghyd â thrwydded gynhyrchu gan yr Arglwydd Siambrlen), yn ogystal â 'No Trams to Lime Street' ac 'A little Winter Love' gan Alun Owen.
Mae'r wybodaeth uchod yn gyflwyniad byr i'r dramâu a gedwir yn yr Archifau. Os hoffech wybod mwy am yr eitemau hyn, neu am y casgliadau llenyddol a'r casgliadau eraill sydd gennym, cysylltwch â ni.