Cyfieithiad bras o’r llythyr hwn yw:
Fy annwyl Fanny
Ysgrifennaf y llinellau hyn i ddweud wrthyt na allaf fyw ddim rhagor hebot ti. Credaf dy fod yn brydferth a’r ferch neisiaf a welais i erioed ac rwyf yn dwlu arnat ti. O Fanny brydferth, paid â’m casáu am dy garu gymaint. Bydd fy nghalon yn torri os byddi di’n fy ngadael i. Alli di gwrdd â mi nos Lun, a byddaf yn mynd â thi i Neuadd Gerddoriaeth y Seren. Rwy’n casáu Bill Robirson, sy’n hiraethu amdanat ti ac rwy’n bwriadu ei chwipio pan fyddaf yn ei weld e. Byddaf wrth fy modd pe byddwn yn clywed gennyt ar unwaith. Gadewch i’n carwriaeth ffynnu. Ateba yn y post nesaf i
Dy gariad
William Weightman
Cariad yn yr Archifau
Daethpwyd o hyd i’r llythyr hwn sydd wedi’i ysgrifennu â llaw ac mewn cod, yn llyfr cofnodion Porthordy Bryn Diogel, 1879-1890. Ni wyddys yn union pa mor hen yw’r llythyr nac ychwaith pam cafodd ei ysgrifennu yn llyfr cofnodion Porthordy Bryn Diogel, ond heb os, darganfyddiad hynod ydyw.
Llyfr cofnodion cymdeithas ddirwest ydyw, ac mae’n cynnwys cofnodion a cherddi. Roedd cymdeithasau dirwest yn hyrwyddo ymatal rhag alcohol, a byddai’r aelodau’n addo llwyrymwrthod. Cynhaliodd y gymdeithas hon ei chyfarfodydd yng Nghapel Rhiwlas, Sir Gaernarfon.
William Weightman oedd awdur y llythyr at ei ‘annwyl’ Fanny ac mae’n datgan ei gariad oesol a’i ymroddiad iddi, yn ogystal â'i fwriad i chwipio Bill Robirson, chystadleuwr posib am ei serch.
Mae’r llythyr caru’n llawn symbolau, rhifau a llythrennau; sy’n debyg i’r math o iaith a ddefnyddir mewn negeseuon testun yr oes fodern. Ymhlith eraill, defnyddiodd William luniau o lygaid i gynrychioli’r llythyren ‘I’, braslun o ffan wedi’i ddilyn gan y llythyren E ar gyfer ‘Fanny’, y llythyren W wedi’i dilyn gan lun o iâr i sefyll am ‘pryd’ a’r llythyren H wedi’i ddilyn gan y rhif 8 ar gyfer ‘casáu’.