Gallwch fenthyca eitemau o'r llyfrgell heb wneud cais yn gyntaf os hoffech. Mae croeso i chi bori'r silffoedd a defnyddio'r peiriannau hunanwasanaeth i fenthyca eich llyfrau dewisol ac adnoddau eraill yn y llyfrgell.


Fel arall, mae'r llyfrgell yn cynnig gwasanaeth Cais a Chasglu i ddarparu opsiynau hawdd i'n myfyrwyr a'n staff i fenthyca eitemau diriaethol y llyfrgell megis llyfrau. Mae gennym hefyd gasgliad cynyddol o e-adnoddau y gallwch eu pori a’u benthyca am ddim!

Myfyriwr yn eistedd wrth ddesg gyda llyfrau yn y llyfrgell

Gwneud cais am eitemau

Gallwch wneud cais am eitemau drwy iFind a gallwch ddewis o ba lyfrgell yr hoffech chi gasglu eich eitemau. Mae'n rhaid i chi fewngofnodi i iFind i ddefnyddio’r opsiwn gwneud cais. Unwaith i chi fewngofnodi, chwiliwch am yr eitem sydd ei hangen arnoch. Unwaith i chi ddod o hyd i'r eitem yn y rhestr o ganlyniadau, cliciwch ar y teitl i agor y cofnod llawn. Os yw'r eitem yn gymwys yna bydd modd i chi wneud cais am yr eitem a nodi eich dewis o leoliad i'w gasglu.

Casglu eitemau

Os yw copi o'r eitem y gwnaethoch gais amdani ar gael ar y silff yn un o'n llyfrgelloedd (h.y. ddim allan ar fenthyg neu'n cael ei ddefnyddio yn y llyfrgell), bydd ar gael i'w gasglu o'r llyfrgell o'ch dewis. Os yw holl gopïau o'r eitem ar fenthyg neu wedi'u cadw i fenthycwyr eraill, bydd y copi nesaf sydd ar gael yn cael ei gadw i chi ei gasglu yn eich dewis o leoliad ar ôl iddo gael ei ddychwelyd gan y benthyciwr presennol. Byddwch yn derbyn hysbysiad drwy e-bost i roi gwybod i chi pan fydd eich eitem ar y Silff Gasglu yn y llyfrgell o'ch dewis. Mae'r e-bost hwn yn cynnwys cyfeirnod casglu y bydd ei angen arnoch i ddod o hyd i'ch eitem ar y silffoedd Cais a Chasglu.


Bydd yr e-bost hefyd yn cadarnhau o ba lyfrgell bydd eich eitem ar gael i'w chasglu. Gwiriwch mai dyma'r lleoliad rydych yn ei ddisgwyl cyn teithio i'r llyfrgell.Bydd yr e-bost hefyd yn nodi'r dyddiad olaf i gasglu'r eitem.
Unwaith i chi ddod o hyd i'ch eitem ar y silffoedd Cais a Chasglu, mae'n rhaid i chi ei dyrannu i'ch cyfrif drwy'r peiriannau hunanwasanaeth cyn gadael y llyfrgell.

Cofiwch ddod â'ch cerdyn adnabod yn y brifysgol a'ch cyfeirnod casglu i'r llyfrgell!

Myfyriwr gyda llyfr a silffoedd llyfrau yn y cefndir

Dychwelyd eitemau

Gallwch ddychwelyd eitemau i unrhyw un o'n llyfrgelloedd drwy ein peiriannau/biniau dychwelyd hunanwasanaeth. Dychwelwch eitemau i'r lleoliad mwyaf cyfleus i chi!
Sicrhewch eich bod yn dychwelyd eich eitemau erbyn y dyddiad dyledus fel y gall defnyddwyr eraill y llyfrgell elwa o'r gwasanaeth cais a chasglu hefyd!

Os oes angen cymorth arnoch gydag unrhyw agwedd ar y gwasanaeth hwn, cysylltwch â thîm Llyfrgell MyUni.