Gwybodaeth i fyfyrwyr sy'n ystyried cwblhau blwyddyn dramor yn 2025-26
Pwy sy'n gallu mynd dramor?
Mae'r cynllunio ar gyfer blwyddyn dramor yn dechrau ym Mlwyddyn 1. Bydd myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar raglen gyda blwyddyn dramor yn cael eu gwahodd i sesiynau gwybodaeth yn ystod Blwyddyn 1. Mae'r Gyfraith a Seicoleg yn cynnig y Flwyddyn Dramor fel opsiwn i'w holl fyfyrwyr, gyda myfyrwyr llwyddiannus yn trosglwyddo i fersiwn blwyddyn dramor eu gradd ar ddiwedd eu hail flwyddyn.
Sylwer, nid yw pob rhaglen radd yn cynnwys opsiwn blwyddyn dramor. Os yw'r flwyddyn dramor yn opsiwn, bydd myfyrwyr sydd heb gofrestru ar raglen gyda blwyddyn dramor yn cael cyfle i ymuno â rhestr aros y Flwyddyn Dramor (manylion pellach isod).
Nid yw'n bosib newid i raglen radd gyda blwyddyn dramor (ac eithrio'r Gyfraith a Seicoleg) - mae’n rhaid i fyfyrwyr gyflwyno cais drwy'r rhestr aros
Efallai y bydd y cyrchfannau sydd ar gael wedi'u cyfyngu gan ffactorau allanol, megis cyfyngiadau teithio a lleoedd mewn prifysgolion partner. Bydd costau cysylltiedig y flwyddyn dramor (fel teithio, fisâu, costau'r brifysgol letyol a chostau byw dramor yn y wlad dan sylw) yn amrywio. Efallai y bydd cyllid ar gael.
Os ydych ar raglen radd gyda blwyddyn dramor ar hyn o bryd, ond yn dymuno newid i raglen arall ar ôl ystyried yn ofalus, cysylltwch â'ch Cyfadran i hwyluso'r broses:
Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol - studentsupport-socialsciences@abertawe.ac.uk/studentsupport-cultureandcom@abertawe.ac.uk studentsuport-management@abertawe.ac.uk / studentsupport-law@abertawe.ac.uk
Y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg - studentsupport-sienceengineering@abertawe.ac.uk
Gofynion Academaidd
Nid yw cofrestru ar raglen gyda blwyddyn dramor yn gwarantu lleoliad blwyddyn dramor i chi, ac eithrio rhaglenni Ieithoedd Modern lle mae blwyddyn dramor yn orfodol. Mae lleoedd cyfnewid yn gyfyngedig ac yn destun proses ymgeisio gystadleuol. Am wybodaeth am Reoliadau Lleoliad Astudio Blwyddyn Dramor y Brifysgol, ewch i:https://myuni.swansea.ac.uk/cy/bywyd-academaidd/rheoliadau-academaidd/asesu-a-chynnydd/canllawiau-ar-gyfleoedd-symudedd/
Mae myfyrwyr yn cyflwyno cais i astudio dramor yn ystod Semester 1 Blwyddyn 2. Mae perfformiad academaidd Blwyddyn 1 a datganiad personol yn cael eu hadolygu fel rhan o'r cais. Mae ymgeiswyr yn cael eu rhoi yn nhrefn teilyngdod ar draws eu maes pwnc, cyfadran a'r brifysgol fel rhan o'r broses ymgeisio gystadleuol.
Os na fyddwch yn sicrhau lleoliad blwyddyn dramor, byddwch yn cael eich trosglwyddo i fersiwn safonol eich cynllun gradd heb flwyddyn dramor. Mae rheoliadau asesu Prifysgol Abertawe yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr fod wedi pasio eu hail flwyddyn cyn iddynt ddechrau'r flwyddyn dramor. Felly, ni all myfyrwyr ag arholiadau atodol neu ohiriedig yng nghyfnod asesu mis Awst Blwyddyn 2 gymryd rhan yn y flwyddyn dramor os nad yw canlyniadau asesiadau'n hysbys ac wedi eu cadarnhau ymhell cyn dechrau'r tymor yn y Brifysgol letyol. Byddai hyn yn effeithio'n bennaf ar fyfyrwyr sy'n bwriadu astudio dramor yng Nghanada, UDA, Awstralia, Hong Kong, De Korea, Singapore a rhai prifysgolion Ewropeaidd. Mae rhagor o wybodaeth ar dudalennau gwe prifysgolion partner penodol: https://www.swansea.ac.uk/cy/mynd-yn-fyd-eang/cyfleoedd-byd-eang/prifysgolion-partner/
Myfyrwyr y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg - Bydd myfyrwyr ag arholiadau atodol neu ohiriedig, yn sefyll y rhain yn y cyfnod arholiadau atodol ym mis Awst, a bydd hyn yn atal y myfyrwyr rhag ymgymryd â Blwyddyn Dramor.
Gwneud cais am flwyddyn dramor
Bydd myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar raglen blwyddyn dramor yn derbyn manylion am sut i gyflwyno cais am le cyfnewid yn un o brifysgolion partner Prifysgol Abertawe. Bydd angen i fyfyrwyr ddewis 10 prifysgol letyol bosibl a dylent ymchwilio i'r holl opsiynau sydd ar gael, gan ganfod y costau a'r ymrwymiadau ariannol cysylltiedig fel fisâu, brechiadau ac yswiriant iechyd.
Y dyddiad cau fel arfer yw dechrau mis Rhagfyr ym Mlwyddyn 2. Cyhoeddir manylion y broses ymgeisio benodol a'r opsiynau sydd ar gael yn flynyddol ar ein gwefan ar ddechrau Blwyddyn 2: https://www.swansea.ac.uk/goglobal/outbound/year-and-semester-abroad-opportunities/
Mae gwybodaeth ychwanegol am baratoi ar gyfer blwyddyn dramor ar gael drwy https://www.swansea.ac.uk/goglobal/outbound/get-ready/
Gofynion Ychwanegol
Os ydych chi wedi cofrestru gyda'r Gwasanaeth Anabledd a/neu Les ym Mhrifysgol Abertawe, dylech gysylltu â nhw cyn gynted â phosibl os ydych yn gwneud cais i astudio neu weithio dramor. Mae hyn er mwyn iddyn nhw allu eich cynorthwyo gydag unrhyw ofynion ychwanegol sydd gennych, ac fe allan nhw (gyda'ch caniatâd) gysylltu â'r tîm Mynd yn Fyd-eang i drafod y gyrchfan astudio dramor fwyaf addas. Os bydd eich cais i astudio dramor yn llwyddiannus, cewch gyfle i gwblhau holiadur y gellir ei rannu â’ch prifysgol letyol fel y gallan nhw gadarnhau a ellir bodloni gofynion tebyg neu ychwanegol yn ystod eich cyfnod dramor.
Dewisiadau eraill i astudio dramor
Os ydych chi’n bwriadu cwblhau Blwyddyn mewn Diwydiant dramor, rhaid i chi gysylltu â thîm Cyflogadwyedd eich Cyfadran yn ystod Blwyddyn 1. Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad a'i sicrhau yn annibynnol, gyda chymorth gan dîm eich Cyfadran. Nid yw'r tîm Mynd yn Fyd-eang yn dod o hyd i leoliadau gwaith rhyngwladol i fyfyrwyr.
Os ydych chi'n astudio Ieithoedd Modern ac yn bwriadu cwblhau cymhwyster Cynorthwy-ydd Addysgu'r British Council, bydd eich adran yn rhoi gwybodaeth i chi am ymgeisio. Unwaith y byddwch wedi cael lleoliad mewn ysgol benodol, rhowch wybod i’r tîm Mynd yn Fyd-eang drwy studyabroad@abertawe.ac.uk
Ar ôl i chi gyflwyno'ch cais
Bydd y tîm Mynd yn Fyd-eang yn eich hysbysu a ydych chi wedi bod yn llwyddiannus ac wedi cael lle mewn prifysgol letyol am y flwyddyn dramor.
Byddwch yn cael Cytundeb Cyfranogi a Chynllun Dysgu i'w cwblhau. Bydd y Cynllun Dysgu yn amlinellu'r gofynion academaidd sylfaenol y bydd angen i chi eu cyflawni yn ystod y flwyddyn dramor, gan gynnwys nifer y credydau y mae'n ofynnol i chi gofrestru arnynt a'u pasio er mwyn i chi basio'r flwyddyn dramor.
Os ydych chi’n cwblhau lleoliad gwaith, byddwch yn cael Cytundeb Cyfranogi, Cynllun Hyfforddi a Chytundeb Hyfforddi i'w cwblhau. Ar gyfer lleoliadau gwaith, bydd y cynllun yn amlinellu'r gofynion sylfaenol y bydd angen i chi eu cyflawni yn ystod y flwyddyn dramor, gan gynnwys nifer yr oriau y disgwylir i chi eu gweithio bob wythnos, er mwyn i chi basio'r flwyddyn dramor.
Rhestr aros - i fyfyrwyr nad ydynt eisoes ar radd gyda blwyddyn dramor
Bydd myfyrwyr sydd heb gofrestru ar radd gyda rhaglen blwyddyn dramor ond sydd wedi gofyn am ymuno â'r rhestr aros hefyd yn cael eu hysbysu o unrhyw leoedd heb eu llenwi mewn prifysgolion lletyol ym mis Ionawr Blwyddyn 2.
Mae gan fyfyrwyr yr opsiwn i wrthod ac ildio eu cynnig o le mewn prifysgol letyol ac ymuno â rhestr aros y flwyddyn dramor. Mae'r rhestr aros yn caniatáu i fyfyrwyr gyflwyno cais am restr ddiffiniedig o leoedd gwag mewn prifysgolion lletyol addas. Nid ydych yn sicr o gael prifysgol letyol newydd trwy broses y rhestr aros ac ni allwch ddychwelyd i'r lleoliad gwreiddiol ar ôl i chi ildio’ch lle.
Mae proses rhestr aros y flwyddyn dramor yn parhau i fod yn gystadleuol a gofynnir i fyfyrwyr gyflwyno eu dewisiadau, wedi'u rhestru yn nhrefn eu dewis.
Cyflwyno cais i'ch prifysgol letyol
Bydd y tîm Mynd yn Fyd-eang yn eich enwebu i'ch prifysgol letyol fel y gallwch ddechrau ar eu proses ymgeisio. Bydd eich prifysgol letyol yn rhoi arweiniad i chi ar gwblhau'r cais hwn. Mae cymorth ychwanegol ar gael gan y tîm Mynd yn Fyd-eang, gyda chyfarfodydd personol neu ar-lein ar gael i'w trefnu trwy Calendly (https://calendly.com/swansea-goglobal). Fel arfer byddwch yn llenwi ffurflen gais ar-lein a dylech fod yn barod i lanlwytho dogfennau ategol, megis copi o'ch pasbort, tystiolaeth ariannol ar gyfer fisa a manylion y modiwlau/dosbarthiadau rydych chi'n bwriadu eu hastudio.
Bydd gofynion ymgeisio a dyddiadau cau yn amrywio gan ddibynnu ar y brifysgol letyol dan sylw. Er enghraifft, mae dyddiadau cau ymgeisio yn Ewrop yn tueddu i fod yn llawer hwyrach yn y semester na dyddiadau cau ymgeisio yn yr Unol Daleithiau neu Ganada.
Rhan bwysig o'ch cais i'ch prifysgol letyol fydd dewis y modiwlau/dosbarthiadau y byddwch yn eu hastudio yno. Bydd angen i chi adolygu'r catalog modiwlau ar-lein ar gyfer eich prifysgol letyol. Sylwch y gallai’ch prifysgol letyol gyfyngu mynediad i rai dosbarthiadau/modiwlau. Rhaid i'r modiwlau rydych chi'n eu dewis gael eu cymeradwyo gan eich Tiwtor Astudio Dramor ym Mhrifysgol Abertawe a'u cofnodi ar Gytundeb Dysgu, a fydd yn cael ei anfon atoch gan y tîm Mynd yn Fyd-eang. Ar ôl ei gwblhau, rhaid i'r Cytundeb Dysgu gael ei lofnodi gennych chi a'ch Tiwtor Astudio Dramor ym Mhrifysgol Abertawe; dylid gwneud hyn ar yr un pryd ag y byddwch yn gwneud cais i'ch prifysgol letyol.
Ar gyfer lleoliadau gwaith, bydd Cytundeb Hyfforddi yn amlinellu nifer yr oriau y byddwch chi’n eu gweithio a'r cyfrifoldebau a'r tasgau y bydd gofyn i chi eu cwblhau yn ystod eich lleoliad. Os ydych chi’n cwblhau blwyddyn mewn diwydiant dramor, bydd hefyd angen i chi gwblhau dogfennau sy'n ofynnol gan eich Cyfadran, er enghraifft Cytundeb Teiran.
Mae rhestr o gysylltiadau a Thiwtoriaid Astudio Dramor Cyfadrannau ar gael ar ein gwefan: https://www.swansea.ac.uk/goglobal/outbound/year-and-semester-abroad-opportunities/faculty-contacts/
Cael eich derbyn gan eich prifysgol neu’ch sefydliad lletyol
Bydd eich prifysgol letyol yn adolygu’ch cais ac yn eich hysbysu’n ffurfiol ei bod yn eich derbyn naill ai trwy e-bost neu'r post. Fel arfer, bydd yr hysbysiad derbyn ffurfiol yn cynnwys gwybodaeth am sut i wneud cais am fisa, ynghyd â manylion am unrhyw ddogfennau y bydd eu hangen arnoch i wneud cais am fisa neu hawlen astudio a llety.
Mae'n debygol y bydd gofyn i chi wneud ymrwymiadau ariannol, fel talu am gais am fisa neu flaendal llety, cyn i chi gael cymeradwyaeth lawn i deithio gan eich Cyfadran a/neu ganlyniadau ffurfiol byrddau dilyniant mis Gorffennaf. Ni all Prifysgol Abertawe dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gostau yr ewch iddyn nhw cyn cael cymeradwyaeth i deithio a'ch canlyniadau dilyniant.
Trefnu llety
Chi sy'n gyfrifol am eich trefniadau llety eich hun ar gyfer eich amser dramor. Os ydych chi'n astudio dramor, bydd gwybodaeth a chanllawiau llety yn cael eu darparu gan eich prifysgol letyol. Darllenwch unrhyw gontractau ynghylch llety yn ofalus a gwnewch yn siŵr eich bod yn eu deall cyn i chi eu llofnodi. Cofiwch mai chi sy’n ysgwyddo’r risg am unrhyw ymrwymiadau ariannol a wnewch.
CYLLID AC ARIANNU
Cyllid ar gyfer eich amser dramor
Gall pob myfyriwr sy'n cymryd rhan mewn rhaglen blwyddyn dramor wneud cais am unrhyw gyllid sydd ar gael. Mae’r cyllid sydd ar gael yn amrywio bob blwyddyn, a bydd manylion y bwrsariaethau sydd ar gael yn cael eu rhannu â myfyrwyr cyn gynted ag y bydd gwybodaeth ar gael. Nod y tîm Mynd yn Fyd-eang yw ariannu cynifer o fyfyrwyr ag y mae cyllidebau'n caniatáu, gyda chyllid ychwanegol ar gael fel arfer i fyfyrwyr o gefndir difreintiedig. Mae rhagor o fanylion ar gael ar ein gwefan: https://www.swansea.ac.uk/cy/mynd-yn-fyd-eang/cyfleoedd-byd-eang/cyllid-ac-ariannu/
Lanlwythwch eich manylion banc tra byddwch ar y campws
Er mwyn derbyn unrhyw gyllid ar gyfer y flwyddyn dramor, bydd angen i chi fod wedi lanlwytho’ch manylion banc yn y DU i'ch cyfrif myfyriwr ar fewnrwyd Prifysgol Abertawe. Rhaid i chi fod ar y campws pan fyddwch yn gwneud hyn. Rydym yn argymell eich bod yn gwneud hyn cyn gynted â phosibl ym Mlwyddyn 2. Defnyddiwch y ddolen hon: https://intranet.swan.ac.uk/StudentProfile/ProfileFinanceDetails.aspx?GUID=a8184808-b4bb-49ee-b28c-692e9860360f. Yn y tab "Trafodion Ariannol," sgroliwch i lawr a nodwch fanylion eich cyfrif. Os na fyddwch yn lanlwytho’ch manylion banc, ni fydd modd prosesu unrhyw daliadau.
Ffioedd Dysgu
Mae eich ffioedd dysgu i Abertawe yn daladwy yn ôl yr arfer ar ôl i chi gofrestru yn Abertawe. Fel arfer byddwch yn talu ffi is am y flwyddyn dramor sef 15% o'ch ffioedd dysgu blynyddol safonol (gallai hyn newid) - mae'r ganran hon yr un peth ar gyfer myfyrwyr cartref a rhyngwladol. Mae’ch ffioedd yn daladwy i Brifysgol Abertawe pan fyddwch yn cofrestru ym Mhrifysgol Abertawe ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd. Ni fydd unrhyw ffioedd dysgu yn cael eu talu i'ch sefydliad cyfnewid er efallai y bydd gofyn i chi dalu rhai ffioedd cofrestru. Mae'n rhaid i chi holi'ch prifysgol letyol am unrhyw ffioedd ychwanegol.
Gwneud cais am Gyllid Myfyrwyr
Mae'n bwysig eich bod chi’n gwneud cais am eich benthyciad myfyriwr erbyn y dyddiadau cau arferol a thrwy'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr perthnasol. Mae'n bwysig eich bod chi wedi cofrestru ar y cynllun gradd cywir sy'n adlewyrchu'ch blwyddyn dramor, a'ch bod yn rhoi gwybod i'ch Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr eich bod yn mynd dramor. Efallai y gofynnir i chi gyflwyno ffurflen gwrs dramor, y gall y tîm Mynd yn Fyd-eang ei llofnodi a’i stampio i chi.
Os oes gennych chi ymholiadau cyffredinol ynghylch cyllid a chyllidebu, gallwch gysylltu ag Arian@BywydCampws drwy money.campuslife@abertawe.ac.uk neu drwy ffonio 01792 606699.
FISÂU A CHYMERADWYAETH I DEITHIO’N RHYNGWLADOL
Cyflwyno cais ar gyfer cymeradwyaeth i deithio gan Brifysgol Abertawe
Mae'n rhaid i chi gael cymeradwyaeth lawn i deithio er mwyn cymryd rhan. NI ALL myfyrwyr ddechrau'r flwyddyn dramor nes bod teithio wedi ei gymeradwyo - ni fyddwch chi’n gallu cael yswiriant neu gyllid heb y gymeradwyaeth. Bydd myfyrwyr yn cael cymorth drwy'r broses hon. Mae manylion llawn ar gael ar-lein: https://myuni.swansea.ac.uk/living-in-swansea/health-and-safety/undergraduates/policies-and-procedures/#international-travel=is-expanded. Ni fydd eich lleoliad dramor yn cael ei gadarnhau nes bod pob ffurflen wedi'i chwblhau a bod cymeradwyaeth i deithio wedi'i rhoi gan y Gyfadran. Oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth (er enghraifft, fel yn achos pandemig Covid-19), gall rhai prifysgolion partner ganslo rhaglenni cyfnewid ar gyfer myfyrwyr o Brifysgol Abertawe. Os bydd hyn yn digwydd, ni fyddwn yn gallu cynnig opsiynau amgen i fyfyrwyr. Mae ffynonellau defnyddiol o wybodaeth yn cynnwys:
- Arweiniad y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (https://www.gov.uk/foreign-travel-advice)
- Drum Cussac- (https://www.drum-cussac.net/)
- Lawrlwythwch yr ap Safezone a chofrestru ar gyfer cyfrif (https://www.swansea.ac.uk/life-on-campus/security-and-safezone/)
Cyflwyno cais am fisa
Rydych chi'n gyfrifol am wneud cais am hawlen astudio/breswylio/fisa yn ôl yr angen ar gyfer eich cyrchfan dramor. Bydd eich prifysgol/sefydliad lletyol yn rhoi manylion i chi am ba fath o fisa neu hawlen y mae'n rhaid i chi wneud cais amdani a sut dylech gyflwyno cais. Ni allwch wneud cais am fisa nes eich bod wedi cael hysbysiad derbyn ffurfiol gan eich prifysgol bartner. Os ydych chi’n astudio yn Abertawe ar fisa Llwybr Myfyrwyr, dylech ofyn am gyngor gan dîmRhyngwladol@BywydCampws am unrhyw effaith y gallai cyfnod dramor ei chael ar eich fisa ar gyfer y DU (https://www.swansea.ac.uk/international-campuslife/)
Mae'n debygol y bydd gofyn i chi wneud ymrwymiadau ariannol, fel talu am gais am fisa, cyn i chi dderbyn cymeradwyaeth lawn i deithio gan eich Cyfadran a/neu ganlyniadau ffurfiol byrddau dilyniant mis Gorffennaf. Ni all Prifysgol Abertawe dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gostau yr ewch iddyn nhw cyn cael cymeradwyaeth i deithio a'ch canlyniadau dilyniant.
AR ÔL CANLYNIADAU ARHOLIADAU BLWYDDYN 2
Yn dilyn cyhoeddiad ffurfiol canlyniadau arholiad a phenderfyniadau dilyniant, ac os yw cymeradwyaeth i deithio’n rhyngwladol wedi'i rhoi, bydd y Tîm Mynd yn Fyd-eang yn cysylltu â chi gyda manylion unrhyw gyllid rydych chi'n gymwys i’w dderbyn, yn ogystal â dogfennaeth a gwybodaeth arall sy'n berthnasol i'ch lleoliad dramor.
Efallai y byddwch am aros nes cael cadarnhad eich bod yn cael symud ymlaen â’ch astudiaethau cyn gwneud trefniadau teithio.
Ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio yn Awstralia, bydd angen i'ch Cyfadran gadarnhau eich bod yn cael parhau â’ch astudiaethau cyn rhyddhau canlyniadau arholiadau a phenderfyniadau dilyniant yn ffurfiol oherwydd dyddiadau tymor Awstralia.
CYRRAEDD EICH PRIFYSGOL NEU’CH SEFYDLIAD LLETYOL
Bydd eich prifysgol neu’ch sefydliad lletyol yn rhoi gwybod i chi pryd mae angen i chi gyrraedd ac yn rhoi manylion unrhyw ddigwyddiadau ymgynefino gorfodol.
Cadarnhau eich bod wedi cyrraedd
Dilynwch gyfarwyddiadau gan eich prifysgol letyol ynghylch sut i gofrestru. Gofynnwch i'r Tîm Astudio Dramor neu i oruchwyliwr eich lleoliad gwaith lofnodi eich ffurflen Cadarnhau Dechrau. Dychwelwch y copi wedi'i lofnodi trwy e-bost i studyabroad@abertawe.ac.uk cyn diwedd eich wythnos gyntaf. Bydd y dyddiadau ar y ffurflen hon yn cael eu defnyddio i gyfrifo'ch cymhwystra ar gyfer grant a dyraniad cychwynnol unrhyw gyllid a all gael ei ddyrannu i chi.
Gwirio’ch modiwlau
Pan fyddwch chi’n cofrestru yn eich prifysgol letyol, cyfeiriwch yn ôl at eich Cynllun Dysgu i wirio eich bod wedi cofrestru ar y nifer cywir o gredydau. Rhaid i chi gofrestru ar gredydau sy'n cyfateb i o leiaf 80% o lwyth cwrs llawn o 120 credyd Abertawe.
Os byddwch chi’n gwneud unrhyw newidiadau i'r modiwlau y cytunwyd arnynt yn flaenorol ac a gymeradwywyd gan eich Tiwtor Astudio Dramor yn Abertawe ar eich Cytundeb Dysgu, rhaid i chi gael cymeradwyaeth ar gyfer y newidiadau hyn a chwblhau tudalen 2 o'ch Cytundeb Dysgu. Dychwelwch gopi wedi'i lofnodi'n llawn i’r Tîm Mynd yn Fyd-eang.
Os mai dim ond modiwlau Semester 1 rydych chi wedi’u cynnwys ar eich Cytundeb Dysgu, bydd angen i chi gyflwyno Cytundeb Dysgu arall cyn dechrau semester 2, gyda chymeradwyaeth am eich dewisiadau modiwl ar gyfer semester 2.
Diweddaru eich cofnodion yn Abertawe ar ddechrau'r flwyddyn dramor
Mae'n bwysig eich bod chi'n cofio cofrestru ar-lein ym Mhrifysgol Abertawe hefyd wrth i'r flwyddyn academaidd newydd ddechrau. Dilynwch y cyfarwyddiadau i gofrestru ar-lein ar ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd - bydd y rhain yn cael eu hanfon atoch mewn e-bost. Bydd methu â chofrestru yn effeithio ar eich cyfranogiad, yn gwneud eich yswiriant yn annilys ac yn atal unrhyw daliadau rhag cael eu prosesu.
Dylech hefyd ddiweddaru eich cyfeiriad yn ystod y tymor yn eich cyfrif ar fewnrwyd Prifysgol Abertawe i ddangos eich cyfeiriad newydd dramor ynghyd â'ch manylion cyswllt.
Tra byddwch ar raglen blwyddyn dramor, bydd gofyn i chi gofrestru ar fodiwl blwyddyn dramor yn Abertawe. Dylai hwn gael ei lwytho ymlaen llaw i'ch cyfrif myfyriwr. Os ydych chi'n dod ar draws problemau, rhowch wybod i’r tîm Mynd yn Fyd-eang cyn gynted â phosibl.
CADW MEWN CYSYLLTIAD YN YSTOD Y FLWYDDYN DRAMOR
Yn unol â Rheoliadau Academaidd, fel myfyriwr dramor, mae'n ofynnol i chi gadw mewn cysylltiad â'ch adran yn ystod eich lleoliad. Mae gofynion ychwanegol yn berthnasol i fyfyrwyr ar fisa Llwybr Myfyrwyr. Am fwy o wybodaeth, darllenwch y Polisi Monitro Presenoldeb ar-lein: https://myuni.swansea.ac.uk/cy/bywyd-academaidd/rheoliadau-academaidd/polisïau/polisi-monitro-cyfranogiad-myfyrwyr-a-addysgir/
Efallai y bydd eich Tiwtor Astudio Dramor neu’ch Cyfadran yn gofyn am bwyntiau cyswllt ychwanegol a bydd yn rhoi cyngor pellach. Am restr lawn o gysylltiadau Cyfadrannau, ewch i- https://www.swansea.ac.uk/goglobal/outbound/year-and-semester-abroad-opportunities/faculty-contacts/
Gallwch gael cymorth gan Wasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr Abertawe yn ystod eich blwyddyn dramor, os bydd ei angen arnoch. Mae mwy o wybodaeth ar gael drwy https://www.swansea.ac.uk/cy/gwasanaethau-cymorth-i-fyfyrwyr/
Gellir cysylltu â'r tîm Mynd yn Fyd-eang drwy studyabroad@swansea.ac.uk gydag unrhyw ymholiadau.
Dim ond trwy eich cyfeiriad e-bost myfyriwr Prifysgol Abertawe y byddwn yn cysylltu â chi ac felly mae'n bwysig eich bod yn sicrhau eich bod yn cadw mynediad i'r mewnflwch hwn a'r Microsoft Authenticator App.
AR DDIWEDD EICH LLEOLIAD, CYN I CHI ADAEL
- Gofynnwch am drawsgrifiad academaidd gan eich prifysgol gartref cyn i chi adael. Rhaid anfon copi at y tîm Mynd yn Fyd-eang (studyabroad@abertawe.ac.uk). Bydd angen gwneud hyn er mwyn dyrannu gradd neu farc pasio/methu i chi ar gyfer eich amser dramor ac i chi allu parhau â'ch astudiaethau yn Abertawe.
- Talwch yr holl ffioedd a chlirio'r holl ddyledion cyn gadael eich prifysgol letyol. Os na wnewch chi hyn, mae’n bosibl na fydd eich trawsgrifiad academaidd yn cael ei ryddhau. Os ydych chi ar leoliad gwaith, gofynnwch i’ch goruchwylydd gwblhau'r trawsgrifiad gwaith.
- Gofynnwch i’ch prifysgol/sefydliad lletyol gymeradwyo’ch 'Tystysgrif Presenoldeb' a'i dychwelyd i’r tîm Mynd yn Fyd-eang
- Cwblhewch yr arolwg adborth ar-lein. Bydd dolen yn cael ei hanfon atoch trwy eich cyfeiriad e-bost Abertawe.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau'r holl gamau gofynnol, byddwn yn gallu prosesu unrhyw gyllid sy'n weddill.
DYFARNU MARCIAU PRIFYSGOL ABERTAWE AM Y FLWYDDYN DRAMOR
Lleoliadau astudio: Defnyddir y trawsgrifiad academaidd a ddarperir gan eich prifysgol letyol ar ddiwedd eich astudiaethau gan Brifysgol Abertawe i asesu a ydych wedi cyflawni nodau disgwyliedig eich blwyddyn dramor (fel yr amlinellir yn y cynllun dysgu ac a adolygir yn erbyn eich Cytundeb Dysgu cymeradwy). Defnyddir y trawsgrifiad ynghyd â siartiau trosi gradd y Brifysgol letyol a siartiau trosi Prifysgol Abertawe i ddyrannu marc ar gyfer eich blwyddyn dramor. I weld tablau trosi Prifysgol Abertawe, ewch i: https://myuni.swansea.ac.uk/cy/bywyd-academaidd/rheoliadau-academaidd/asesu-a-chynnydd/canllawiau-ar-gyfleoedd-symudedd/
Lleoliadau gwaith: Bydd angen i chi ddychwelyd copi wedi'i gwblhau o'r Trawsgrifiad Gwaith. Bydd hwn yn cael ei adolygu i asesu a ydych wedi cyflawni nodau disgwyliedig eich blwyddyn dramor (fel yr amlinellir yn y Cynllun Hyfforddi, y Cytundeb Hyfforddi a'r Cytundeb Teiran lle bo hynny'n berthnasol).
Bydd myfyrwyr sy'n methu'r flwyddyn dramor yn cael eu trosglwyddo yn ôl i'r cynllun gradd tair blynedd ar ôl iddynt ddychwelyd i Abertawe, ac eithrio myfyrwyr Ieithoedd Modern a Chyfieithu y mae'r flwyddyn dramor yn orfodol iddynt. Fe'u gwahoddir i sefyll arholiad llafar blwyddyn dramor a drefnir gan y gyfadran.
Gwneud iawn am fethu’r Flwyddyn Dramor
Fel arfer, nid yw Prifysgol Abertawe yn cynnig cyfle atodol i fyfyrwyr sy'n methu modiwl(au) yn ystod lleoliad blwyddyn o hyd. Fodd bynnag, gall rhai sefydliadau partner gynnig cyfleoedd atodol fel arfer safonol yn ystod y cyfnod symudedd astudio arferol. Yn yr achos hwn, fe'ch cynghorir i fanteisio ar y cyfle hwn i wneud iawn am unrhyw fethiannau.
Mewn achosion lle gwnaeth amgylchiadau esgusodol neu amgylchiadau eraill y tu hwnt i'ch rheolaeth effeithio’n niweidiol ar eich profiad, gall eich Cyfadran gynnig ail gyfle. Bydd y Pwyllgor Achosion Myfyrwyr perthnasol yn ystyried ceisiadau o'r fath fesul achos.
Dosbarthiadau Gradd
Gallwch wirio'r canllawiau ar sut gallai’ch cyfnod dramor effeithio ar ddosbarthiad eich gradd yn y canllaw academaidd ar-lein: https://myuni.swansea.ac.uk/cy/bywyd-academaidd/rheoliadau-academaidd/dyfarniad-rheoliadau-israddedigion/rheoliadau-asesu-israddedig/dosbarthiad-graddau-anrhydeddus/