Cemeg
Prifysgol Abertawe... Lle mae'r dyfodol byd-eang yn dechrau
Fel myfyriwr cemeg ym Mhrifysgol Abertawe, byddwch yn gallu trosglwyddo o'ch cynllun gradd tair blynedd i gwrs pedair blynedd sy'n cynnwys blwyddyn dramor. Fel arfer, bydd angen i chi ddechrau meddwl am hyn yn ystod eich blwyddyn gyntaf ac yna mynychu cyflwyniadau Astudio Dramor ar ddechrau eich ail flwyddyn, lle byddwn yn dweud wrthych beth y mae angen i chi ei wneud nesaf.
Mae Cemeg yn adran weddol newydd i’r cynllun astudio dramor, ac mae'r adran yn archwilio opsiynau gyda phrifysgolion partner. Yn y cyfamser, cymerwch olwg ar y sefydliadau partner sy’n berthnasol i’r holl brifysgol, lle mae opsiynau i fyfyrwyr cemeg astudio dramor yng Nghanada ac UDA. Gall y rhestr hon newid yn flynyddol yn dibynnu ar argaeledd, ac mae cyrchfannau yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn felly byddwch yn barod i fod yn hyblyg! Efallai y bydd yr opsiynau sydd ar gael i chi yn dibynnu ar fanylion setliad BREXIT a chaiff ei bennu gan Lywodraeth y DU.