Mae cyfleoedd haf dramor yn ffordd wych o ennill profiad diwylliannol a rhyngwladol yn ychwanegol at eich astudiaethau. Mae rhaglenni fel arfer yn amrywio o 2-8 wythnos ac yn gyfle i chi ennill profiad diwylliannol, gwirfoddol ac/neu academaidd mewn gwlad wahanol. Mae cyllid hael ar gael i’w roi tuag at rai o’r costau sydd ynghlwm ac mae cymorth ychwanegol ar gael ar gyfer myfyrwyr sy’n cwrdd â’r meini prawf ehangu cyfranogiad.
Mae’r holl raglenni’n cael eu cynnig yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth teithio lawn. Bydd angen i fyfyrwyr gwblhau proses cymeradwyo teithio rhyngwladol y Brifysgol er mwyn cyfranogi yn y rhaglenni haf a derbyn unrhyw gyllid cysylltiol. Mae yswiriant teithio Prifysgol Abertawe yn ei le ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cael cymeradwyaeth gan y Brifysgol am eu cynlluniau teithio. Fodd bynnag, nid yw yswiriant teithio’r Brifysgol yn cynnwys unrhyw amhariadau yn sgil Covid-19. Felly mae myfyrwyr yn gyfrifol am unrhyw golled ariannol a achosir yn sgil amhariadau Covid-19. Am fanylion llawn yswiriant teithio’r brifysgol, gweler <https://myuni.swansea.ac.uk/finance/insurance-information/travel-cover/>. Eich cyfrifoldeb chi yw cadarnhau polisïau canslo ac ad-dalu gyda’ch darparwr rhaglen a’ch darparwr teithio .
Nodwch, nid yw Rhaglenni Haf yn agored i fyfyrwyr yn y flwyddyn olaf.