Gall costau a hyd y rhaglenni newid.Mae cyllid ar gael ar gyfer y fersiwn 3 wythnos o'r rhaglen hon yn unig.
Amcangyfrif o’r costau ar gyfer pob myfyriwr ar y rhaglen 3 wythnos: Tua £500 y myfyriwr neu tua £250 y myfyriwr sy'n gymwys am y cynllun Ehangu Cyfranogiad
Mae hwn wedi'i seilio ar amcangyfrif o gostau cyffredinol sef £1,905 sy'n cynnwys:
- Amcangyfrif o gost y rhaglen - £1,205
- Amcangyfrif o gostau ychwanegol sef £700, sy'n cynnwys:
- cost dybiedig hedfan - £280
- cost dybiedig llety - £420
Amcangyfrifwyd costau ychwanegol ar gyfer mis Chwefror 2024 a gall y rheiny gynyddu/leihau. Efallai bydd angen i fyfyrwyr dalu costau ychwanegol nad ydynt wedi’u nodi uchod. Amcangyfrifon yw'r holl ffigurau uchod a gallant newid.
CYLLID SYDD AR GAEL
- Mae £1,405 y myfyriwr ar gael neu £1,655 y myfyriwr sy'n gymwys am y cynllun Ehangu Cyfranogiad
Mae cyllid ar gael i gefnogi hyd at 2 fyfyriwr cymwys o Brifysgol Abertawe ar gyfer y rhaglen 3 wythnos.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Nid ydym yn argymell eich bod yn ymrwymo'n ariannol i'r rhaglen sy'n well gennych tan eich bod wedi cael cadarnhad o gyllid a rhagor o arweiniad gan Brifysgol Abertawe.
- Ni chaiff myfyrwyr eu henwebu gan Brifysgol Abertawe ac felly bydd angen iddynt dalu ffi'r cwrs
- Y swm a nodir uchod yw uchafswm y cyllid y gallech chi ei dderbyn i astudio yn Aarhus - bydd angen i chi roi gwybod i dîm Ewch yn Fyd-eang beth yw hyd a chost y cwrs pan fyddwch chi'n cyflwyno cais am y fwrsariaeth
- Ceir cyllid am gyrsiau 3 wythnos yn unig
- Chi fydd yn gyfrifol am dalu cost y rhaglen yn uniongyrchol i Brifysgol Aarhus
- Gall cyllid gael ei ddarparu gan Taith neu Ewch yn Fyd-eang.
- Amcangyfrifon yw'r holl ffigurau uchod a gallant newid.
- Ni fydd diwrnodau rhaglen ar ôl 31 Awst 2024 yn cael eu hariannu.
- Os byddwch yn methu cwblhau'r rhaglen gyfan, bydd angen i chi ad-dalu unrhyw gyllid rydych chi wedi'i dderbyn.
- Os byddwch chi'n derbyn cyllid, caiff hwn ei dalu unwaith ein bod ni wedi cael cadarnhad eich bod chi wedi cyrraedd Aarhus.Mae'n bwysig i chi ystyried hyn wrth gyllidebu.