Sgip i brif cynnwys
Hafan Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
Hafan Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
  1. Hafan
  2. Y Brifysgol
  3. Astudio
  4. Astudio, Gweithio a Haf Dramor
  5. Cyfleoedd Byd Eang i Fyfyrwyr
  6. Mynd yn Fyd Eang – Iechyd a Diogelwch
  • Astudio
    • Astudio
      Students studying in Singleton Park campus library

      Dechreuwch eich taith yma

      Astudiwch gyda ni
    • Israddedig
      • Cyrsiau
      • Llety
      • Clirio yn Abertawe
      • Canllaw Rhieni a Gwarcheidwaid i'r Brifysgol
      • Diwrnodau Agored
      • Sut i wneud cais
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Prosbectws Israddedig
      • Cofrestrwch am Diweddariadau Ebost
    • Ôl-raddedig
      • Cyrsiau
      • Rhaglenni Ymchwil
      • Diwrnod Agored
      • Sut i Wneud Cais
      • Llwybr carlam i fyfyrwyr presennol
      • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
      • Y Brifysgol
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Cofrestrwch am Diweddariadau Ebost
    • Bywyd Myfyriwr
      • Astudio
      • Pam Abertawe
      • Storïau Myfyrwyr
      • Bywyd y campws
      • Chwaraeon
      • Cynaliadwyedd - Cymrwch Ran
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
      • Taith Rhithwir
      • Beth yw Gŵyl y Glas?
    • Gwasanaethau i Fyfyrwyr
      • Llyfrgelloedd ac Archifau
      • BywydCampws
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe
      • Menter Myfyrwyr
      • Canolfan Llwyddiant Academaidd
      • Academi Hywel Teifi
      • Llesiant myfyrwyr
  • Rhyngwladol
  • Ein Ymchwil
    • Gwnewch Ymchwil Gyda Ni
      • Cefnogi eich taith ymchwil ôl-raddedig
      • Dod o hyd i raglen ymchwil ol-raddedig
      • Sut i wneud cais am raglen ymchwil Ôl-raddedig
      • Hyfforddiant a Datblygiad i Oruchwylwyr a Myfyrwyr Ymchwil
    • Archwiliwch ein hymchwil
      • Uchafbwyntiau Ymchwil
      • Ymchwil yn y cyfadrannau
      • Momentum - ein cylchgrawn ymchwil
      • Podlediad Archwilio Problemau Byd-eang
    • Darganfyddwch ein hymchwil
      • Cyfeiriadur Arbenigedd
      • Dod o hyd i bapur ymchwil
      • Manteisio ar ein Harbenigedd ym maes Ymchwil a Datblygu
    • Ein Hamgylchedd Ymchwil
      • Uniondeb Ymchwil: Moeseg a Llywodraethu
      • Effaith ymchwil
      • Hyfforddiant a datblygiad
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
    • Ein Cenhadaeth Ddinesig
      • Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe
      • Gŵyl Bod yn Ddynol
      • Oriel Science
      • Byd Copr Cymru
  • Busnes
    • Cydweithredwch â ni
      • Datblygu eich prosiectau
      • Manteisio ar wybodaeth ein hymgynghorwyr
      • Cyfleoedd Cyllid YDA
    • Recriwtio ein Doniau
      • Recriwtio ein Myfyrwyr a'n Graddedigion
      • Cwrdd â’n myfyrwyr
      • Hysbysebu eich swyddi gwag
    • Datblygu eich Gweithlu
      • Gweld ein cyrsiau
    • Defnyddio ein Gwasanaethau Masnachol
      • Gofyn am gymorth gyda phrosiect
      • Hysbysebu eich sefydliad
      • Dod yn gyflenwr
    • Llogi ein Cyfleusterau
      • Cael mynediad at ein cyfleusterau ymchwil
      • Cynnal digwyddiad
    • Gweithio gyda ni
      • Ymuno â’n rhwydwaith cydweithredol
      • Cysylltu â’n tîm ymgysylltu â busnesau
      • Cadw mewn cysylltiad
  • Cyn-fyfyrwyr
  • Y Brifysgol
    • Swyddfa'r Wasg
      Female student working with steel

      Newyddion a Ymchwil Diweddaraf straeon

      Darllenwch y newyddion diweddaraf yma
    • Y Brifysgol
      • Amdanom ni
      • Sut i ddod o hyd i ni
      • Dyfarniadau a Safleoedd y Brifysgol
      • Ein Cyfadrannau
      • Swyddfa'r Wasg
      • Swyddi a Gweithio yn Abertawe
      • Cynaliadwyedd
      • Teithio i’r campws ac oddi yno
      • Cysylltu â ni
    • Chwaraeon
      • Bod yn Actif
      • Cynghreiriau Cymdeithasol
      • Clybiau Chwaraeon
      • Perfformiad
      • Cyfleusterau
      • Nawdd
      • Newyddion
    • Bywyd y campws
      • Llety
      • Arlwyo
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Y Neuadd Fawr
      • Taliesin
      • Creu Taliesin
      • Ein Tiroedd
      • Cerddoriaeth
      • Rhithdaith
    • Ein Cyfadrannau
      • Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
      • Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
      • Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
      • Y Coleg
    • Academïau
      • Academi Iechyd a Llesiant
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA)
      • Academi Hywel Teifi
  • Newyddion a Digwyddiadau
  • Cefnogaeth a Lles
  1. Hafan
  2. Y Brifysgol
  3. Astudio
  4. Astudio, Gweithio a Haf Dramor
  5. Cyfleoedd Byd Eang i Fyfyrwyr
  6. Mynd yn Fyd Eang – Iechyd a Diogelwch

Mynd yn Fyd Eang – Iechyd a Diogelwch

Tudalennau cysylltiedig
  • Cyfleoedd Byd Eang i Fyfyrwyr
    • Prifysgolion Partner Astudio Dramor
    • Cyfleoedd Blwyddyn a Semester Dramor
    • Haf Dramor
    • Gwybodaeth am Gyllid ac Ariannu
    • Mynd yn Fyd Eang – Iechyd a Diogelwch
    • PrifAbertaweBydeang Amodau A Thelerau
  • Manylion Cyswllt Tîm Mynd yn Fyd Eang
  • Digwyddiadau a Sesiynau Gwybodaeth

Eich Diogelwch

Eich cyfrifoldeb chi yw ymgyfarwyddo â'r holl reoliadau Iechyd a Diogelwch sy'n berthnasol i'ch gweithle neu eich lle astudio pan fyddwch chi dramor. Am ragor o wybodaeth am eich cyrchfan penodol, ewch i: www.gov.uk/foreign-travel-advice

SafeZone: Mae Prifysgol Abertawe'n darparu gwasanaeth ap am ddim i helpu i gadw myfyrwyr yn ddiogel ar bob adeg yn y DU a thramor. Cymhwysiad sy'n hawdd ei ddefnyddio yw SafeZone a gallwch ei lawrlwytho am ddim. Fe'i lluniwyd i helpu myfyrwyr i alw am gymorth gan y tîm diogelwch ar eu ffonau symudol. Bydd hyn hefyd yn galluogi myfyrwyr i alw'r gwasanaethau brys yn y wlad maent yn ymweld â hi.

  1. Ewch i www.safezoneapp.com a dilynwch y cyfarwyddiadau ar gyfer eich dyfais.
  2. Unwaith eich bod chi wedi lawrlwytho'r ap am ddim, nodwch eich cyfeiriad e-bost, dewiswch Brifysgol Abertawe ac yna dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrîn.

GlobalRiskManager: Cyn i chi deithio, dylech chi lawrlwytho'r ap GlobalRiskManager am gyngor ar deithio, gwybodaeth am ddiogelwch ac i dderbyn rhybuddion am ddigwyddiadau yn y wlad neu’r rhanbarth rydych chi'n teithio iddi. Gellir hidlo’r rhybuddion yn ôl gwlad, agosrwydd, difrifoldeb a/neu gategori i sicrhau eich bod chi'n derbyn y rhybuddion y mae eu hangen arnoch chi. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n defnyddio'r ap du.

  • https://play.google.com/store/apps/details?id=com.dc.globalriskmanager&hl=en_GB
  • https://itunes.apple.com/gb/app/globalriskmanager/id1251926213?mt=8

Cymeradwyo Teithio Rhyngwladol

Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n darllen drwy'r holl adrannau isod!
Mae pob cyfle i fyfyrwyr deithio'n rhyngwladol yn destun proses cymeradwyo teithio rhyngwladol Prifysgol Abertawe, sydd wedi'i diffinio ym Mholisi Teithio Rhyngwladol y Brifysgol  (https://myuni.swansea.ac.uk/living-in-swansea/health-and-safety/undergraduates/policies-and-procedures/#international-travel=is-expanded).  Yn ddelfrydol, ni ddylai myfyrwyr ymrwymo'n ariannol i gyfle am deithio rhyngwladol (er enghraifft, drwy archebu tocynnau neu lety) tan ar ôl i'w cynlluniau teithio gael eu cymeradwyo; fodd bynnag, efallai na fydd hyn bob amser yn bosib. Rydych chi'n gwneud ymrwymiadau ariannol cyn i chi dderbyn cymeradwyaeth lawn am eich cyfnod dramor ar eich menter eich hun. Chi fydd yn atebol am dalu'r costau hyn os na fyddwch chi'n gallu cymryd rhan. Er mwyn i’ch cynlluniau teithio arfaethedig gael eu hadolygu, bydd angen i chi gwblhau'r camau canlynol:

Camau nesaf i'r holl fyfyrwyr:

Os ydych chi'n bwriadu cymryd rhan mewn rhaglen blwyddyn, semester neu haf dramor, mae angen i chi gwblhau proses Cymeradwyo Teithio Rhyngwladol y Brifysgol. Gellir gweld canllawiau a gwybodaeth am gwblhau camau'r broses hon yn ein fideo byr sydd ar gael ar-lein.

Trosolwg o'r Broses Cymeradwyo Teithio Rhyngwladol: https://swanseauniversity.zoom.us/rec/play/lzSfNcosuBcZLV2C8MpGH1lDbPTM4bJip_wbvZn3d8SbIxPyLplXOnyHUvdLNUGkdIqaKeAYkMDog_Il.Kcoeceda-NodCD5w (Cyfrinair: KF.PHpy8)

Yn ogystal â hynny, gellir gweld manylion am y broses a dogfennau ategol ar dudalennau gwe'r tîm Iechyd a Diogelwch.

Ar ôl i chi wylio'r fideo, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  1. Lawrlwytho a chwblhau'r Ffurflen Cais i Deithio, ynghyd â chwblhau hyfforddiant ar-lein Diogelwch Teithio Sylfaenol Drum Cussac.
  2. Canfod beth yw cyfradd risg eich cyrchfan arfaethedig (gwyrdd, melyn neu goch).
  3. Cwblhau'r Asesiad Risg Teithio priodol ar gyfer eich cyrchfan (Gwyrdd, Melyn neu Goch). Lawrlwytho a chwblhau'r ffurflen o'r dudalen we uchod.
    Os yw eich cyrchfan arfaethedig yn wyrdd, gallwch chi wylio’r recordiad isod am beth arweiniad ychwanegol - Arweiniad ar Asesiad Risg Gwyrdd:https://swanseauniversity.zoom.us/rec/play/nuBw0LhSaO1tgm67gLadCH2r_lESeSmyNNXSsg-bP_qKBYYwhUuXfQTdO4-quBHp94MnXdpU9AOQ2RsE.mXg4F8bKfLFQnVaJ (Cyfrinair: %7KLw1gy)
  4. Myfyrwyr sy'n treulio haf dramor - Os yw eich cyrchfan arfaethedig yn felyn neu'n goch rydyn ni'n trefnu sesiynau ar-lein gyda darparwyr y rhaglen er mwyn eich tywys chi drwy'r ffurflenni. Byddwn yn cysylltu â chi eto cyn bo hir ond, yn y cyfamser, gallwch chi gwblhau camau 1 a 2 uchod o hyd.
  5. Cwblhewch y Ffurflen Datganiad Iechyd (dogfen arweiniol ar gael ar dudalennau gwe'r Tîm Iechyd a Diogelwch)
  6. Myfyrwyr Blwyddyn a Semester dramor - anfonwch eich ffurflenni i'ch Cyfadran
    • Y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg:employability-scienceengineering@abertawe.ac.uk
    • Y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd: o.sinnott@abertawe.ac.uk
    • Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol: studyabroad-fhss@abertawe.ac.uk
  7. Myfyrwyr haf dramor- anfonwch eich ffurflenni i studyabroad@abertawe.ac.uk 

Yn bwysig i'r holl fyfyrwyr:

Nid yw eich lleoliad dramor wedi cael ei gadarnhau tan ar ôl i'r broses cymeradwyo teithio rhyngwladol gael ei chwblhau, ac ar ôl i'ch Cyfadran gadarnhau eich bod chi wedi llwyddo i symud ymlaen i'r semester/flwyddyn dramor yn dilyn penderfyniadau'r byrddau arholi.  Pan fydd myfyrwyr yn cyflwyno cais am gymeradwyo teithio ar gyfer rhaglen haf, bydd tîm Ewch yn Fyd-eang yn adolygu eu dogfennau.

Oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth (er enghraifft, fel yn ystod pandemig Covid-19), gall rhai prifysgolion partner ganslo rhaglenni cyfnewid ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Abertawe. Os bydd hyn yn digwydd, ni fyddwn yn gallu cynnig opsiynau amgen i fyfyrwyr.

Mae ffynonellau o wybodaeth ddefnyddiol yn cynnwys:

  1. Tudalennau gwe Iechyd a Diogelwch Prifysgol Abertawe
  2. Tudalennau gwe Cyngor ar Deithio’r FCDO
  3. Porth Crisis 24
  4. Ap SafeZone
  5. Risk Monitor Traveller

Gwybodaeth wedi'i diweddaru ym mis Ebrill 2024

Yswiriant Damweiniau Personol a Theithio

Mae gan Brifysgol Abertawe Bolisi Yswiriant Damweiniau Personol a Theithio sy'n yswirio myfyrwyr yn ystod eu blwyddyn dramor, eu haf dramor neu eu rhaglen haf/fer. Ni chodir tâl am yr yswiriant hwn. Mae manylion am yr yswiriant ar gael ar y dudalen we ganlynol: Gwybodaeth am Yswiriant - Prifysgol Abertawe 

Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio bod y polisi uchod yn diwallu eich anghenion. Byddwch yn barod i brynu Yswiriant Gofal Iechyd ychwanegol yn ôl anghenion eich Prifysgol letyol. Mae hyn yn orfodol yn UDA, yng Nghanada, yn Awstralia ac, yn fwyfwy, mewn llawer o wledydd eraill.

Os byddwch chi'n profi argyfwng meddygol pan fyddwch chi dramor ac os bydd angen cymorth arnoch chi drwy'r yswiriant teithio a nodir uchod, bydd angen i chi, neu rywun sy'n gweithredu ar eich rhan, gysylltu â Global Response, a fydd yn rhoi rhagor o gymorth. Darperir manylion cyswllt yn y polisi yswiriant teithio. Gall peidio â gwneud hyn ddirymu'r yswiriant teithio.

Ystyriaethau Iechyd

Os oes gennych chi gyflwr meddygol parhaus, gwnewch yn siŵr bod gennych chi lythyr gan eich meddyg teulu/ysbyty sy'n datgan eich bod chi'n ddigon iach i deithio; hefyd, dylech chi bob amser fynd â rhestr o'r meddyginiaethau y mae eu hangen arnoch chi.Bydd angen i chi ddatgan cyflyrau iechyd ac alergeddau fel rhan o'r broses cymeradwyo teithio.Yn ogystal â thrafod eich cyflyrau iechyd â'ch meddyg teulu, mae gwybodaeth ddefnyddiol ar gael ar-lein https://www.nhs.uk/common-health-questions/medicines/can-i-take-my-medicine-abroad/ 

Presgripsiynau a Meddyginiaeth: Os ydych chi'n cael meddyginiaeth yn rheolaidd ar bresgripsiwn, trafodwch y broses o barhau â'ch presgripsiwn dramor â'ch meddyg teulu cyn i chi adael. Cofiwch y gall meddyginiaethau, enwau masnach a lefelau dognau amrywio dramor. Dylech chi ystyried mynd â chopïau o ddogfennau iechyd pwysig wedi'u cyfieithu. Os oes rhaid i chi fynd â swm mawr o feddyginiaeth gyda chi, fe'ch cynghorir i ofyn i'ch meddyg teulu ddarparu disgrifiad o'r feddyginiaeth.

Brechiadau ac Imiwneiddiadau: Chi sy'n gyfrifol am sicrhau eich bod chi'n cael yr holl frechiadau sy'n angenrheidiol ar gyfer eich cyrchfan. Gall eich prifysgol letyol hefyd ofyn i chi gael imiwneiddiadau penodol. Ceir rhagor o wybodaeth yn: www.gov.uk/foreign-travel-advice 

Tystysgrif feddygol: Mae angen hon i fynd i rai gwledydd a gall fod yn angenrheidiol fel rhan o'r cais i'ch prifysgol neu eich sefydliad lletyol. 

Cymorth ychwanegol: Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch i ymgymryd â'ch cyfnod dramor, gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu â'r gwasanaeth perthnasol yma ym Mhrifysgol Abertawe ymhell cyn eich taith. Efallai byddwch am gysylltu â'r Gwasanaeth Anableddau neu'r Gwasanaeth Lles ar y campws. 

Cysylltwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol trwy ddefnyddio #SwanseaUniGlobal

  • Cyfleoedd Byd Eang i Fyfyrwyr
    • Prifysgolion Partner Astudio Dramor
    • Cyfleoedd Blwyddyn a Semester Dramor
    • Haf Dramor
    • Gwybodaeth am Gyllid ac Ariannu
    • Mynd yn Fyd Eang – Iechyd a Diogelwch
    • PrifAbertaweBydeang Amodau A Thelerau
  • Manylion Cyswllt Tîm Mynd yn Fyd Eang
  • Digwyddiadau a Sesiynau Gwybodaeth
  • Cysylltwch â ni
  • Swyddi
  • Cyfadrannau
  • Y Wasg
  • Iechyd a Diogelwch
  • Ymwadiad a Hawlfraint
  • Map o'r Safle
  • Preifatrwydd a Chwcis
  • Datganiad Caethwasiaeth Fodern
  • Mae Prifysgol Abertawe yn elusen gofrestredig, Rhif 1138342