Mae unrhyw gyfeiriad at gostau, ffioedd, tystiolaeth ariannol a gwybodaeth am fisâu at ddibenion arweiniad cyffredinol yn unig ac yn amodol ar newid ar unrhyw adeg.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfeirio at wybodaeth a ddarperir gan brifysgolion lletyol a thudalennau gwe llywodraeth/llysgenhadaeth y wlad dan sylw am yr wybodaeth ddiweddaraf.

Wedi’i lleoli yn ninas fwyaf a mwyaf cosmopolitan Awstralia, sef Sydney, mae Prifysgol New South Wales ger milltiroedd o arfordir a thraethau syrffio tywodlyd. Ar wahân i’w lleoliad rhagorol, mae gan Brifysgol New South Wales natur ryngwladol. Mae’n ymgysylltu’n rhanbarthol ac yn fyd-eang ac yn ymfalchïo mewn bod yn un o brifysgolion ymchwil ac addysgu blaenllaw Awstralia.
Mae Sydney yn ddinas ddiogel, gyda thrafnidiaeth gyhoeddus yn cysylltu campysau Prifysgol New South Wales, y traethau a chanol y ddinas. Mae llawer o weithgareddau dan do ac awyr agored fforddiadwy i'w mwynhau yn Sydney: ewch i galeri celf am ddim, gwylio ffilm mewn sinema leol, mynd ar daith gerdded arfordirol, snorcelu neu syrffio ar y traeth. Os oes eisiau trip diwrnod neu antur penwythnos arnoch, mae'r Blue Mountains i'r gorllewin o Sydney, y Royal National Parc i'r de, neu Palm Beach godidog yn y gogledd yn wych i ddianc iddynt. Ac wrth gwrs, mae’r traethau mwyaf prydferth i'r dwyrain.
Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u gohirio, yn ystod cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.
PWY SY'N GALLU ASTUDIO YMA?
Nid yw'r brifysgol hon yn derbyn myfyrwyr o Brifysgol Abertawe ar gynlluniau cyfnewid yn 2025/26.
Mae gan Abertawe bartneriaeth prifysgol gyfan â'r brifysgol hon.
GWYBODAETH BWYSIG
BLWYDDYN ACADEMAIDD: O fis Awst tan fis Mai.
COST: Bydd y gost o fyw yn Sydney yn amrywio gan ddibynnu ar eich llety dewisol a'ch ffordd o fyw. Mae Prifysgol New South Wales wedi amcangyfrif cost sylfaenol o fyw am fis ac nid yw'n cynnwys costau teithio gwyliau ac adloniant. Gall costau newid.
FISA: Bydd angen arnoch fisa i astudio ym Mhrifysgol New South Wales a byddent yn anfon tystysgrif cofrestru (CoE) atoch, y ddogfen sydd ei hangen arnoch i wneud cais am fisa. Bydd eich prifysgol letyol yn darparu rhagor o wybodaeth i chi am y broses cyflwyno cais ac mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Awstralia. Rhaid i chi ganiatáu digon o amser i gwblhau'r cais am fisa ac i'ch fisa gael ei hanfon atoch chi. Gall fod oedi sylweddol felly peidiwch â gadael hyn tan y funud olaf oherwydd na fydd modd i chi deithio i Awstralia hebddi.
LLETY: Mae’r opsiynau o ran llety’n cynnwys byw ar y campws ac ymdrochi yn yr ymdeimlad o gymuned, neu fyw mewn fflat neu ar eich pen eich hun er mwyn cael profiad cymunedol. Mae llety ar y campws yn gyfyngedig iawn ac nid yw wedi'i warantu hyd yn oed os ydych yn cyflwyno cais cyn y dyddiad cau. Gellir dod o hyd i wybodaeth am ble a sut i ddod o hyd i lety yma.
YSWIRIANT IECHYD: Bydd angen i chi brynu Yswiriant Iechyd Dramor i Fyfyrwyr (OSHC) ar gyfer cyfnod eich fisa myfyriwr. Darperir manylion yr yswiriant i fyfyrwyr ar ôl iddynt gael eu derbyn.
DOLENNI DEFNYDDIOL: