Lleolir Zaragoza, 5ed dinas fwyaf Sbaen, yn rhanbarth Aragon yng ngogledd-ddwyrain y wlad. Mae gan Zaragoza hinsawdd gyfandirol Môr y Canoldir, gyda gaeafau oer iawn a hafau poeth iawn. Mae'r Gyfadran Wyddoniaeth yn ganolfan ymchwil flaenllaw ym Mhrifysgol Zaragoza, ac mae'r brifysgol ymhlith y 200 prifysgol orau ar gyfer Gwyddorau Naturiol a Mathemateg felly mae'n lleoliad ardderchog ar gyfer myfyrwyr Daearyddiaeth a Mathemateg. Sbaeneg yw'r iaith addysgu felly byddai angen i fyfyrwyr cyfnewid feddu ar lefel B1 mewn Sbaeneg er mwyn astudio yn Zaragoza. Mae'r Gwasanaeth Llety yn rhoi gwybodaeth i fyfyrwyr am y fflatiau a'r ystafelloedd sydd ar gael i'w rhentu, ac yn cynghori myfyrwyr i edrych ar ei wefan yn rheolaidd er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf.
Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.