Peirianneg (Awyrofod), MSc

131 gorau yn y Byd ar gyfer Peirianneg - Fecanyddol, Awyrofod a Gweithgynhyrchu

QS World University Rankings 2025

Aerospace

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r MSc Peirianneg (Awyrofod) yn cynnig dealltwriaeth drylwyr a systemataidd o'r maes, gan sicrhau eich bod yn meddu ar yr ymwybyddiaeth a'r ddealltwriaeth gritigol sydd eu hangen i ddod yn beiriannydd awyrofod credadwy.

Cewch eich paratoi o ran damcaniaeth a gweithrediad cerbydau awyrennol, o awyrennau a gaiff eu gyrru gan bropelorau ac a gaiff eu pweru gan jetiau, i hofrenyddion a gleiderau. Ymdrinnir â'r prosesau dylunio, dadansoddi, profi a hedfan.

Fel rhan o'r profiad ymarferol a gynigir, cewch gyfle i ddefnyddio un o efelychwyr hedfan peirianyddol mwyaf datblygedig y byd, a gedwir yn y Peirianneg.

Pam Peirianneg Awyrofod ym Mhrifysgol Abertawe?

Mae gan yr adran Peirianneg Awyrofod ym Mhrifysgol Abertawe enw da ledled y byd ac mae ei gwaith yn denu diddordeb a sylw o bob cwr o'r byd.

Mae Peirianneg Awyrofod ym Mhrifysgol Abertawe yn cael ei rhoi yn y safleoedd canlynol:

  • Safle 131 yn y Byd ar gyfer Peirianneg - Fecanyddol, Awyrofod a Gweithgynhyrchu (QS World University Rankings 2025)
  • 100% yn arwain y byd ac yn rhagorol yn rhyngwladol - Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021

Eich profiad ym maes Peirianneg Awyrofod

Mae gwaith ymchwil o'r radd flaenaf ym maes awyrofod yn llywio addysgu o ansawdd uchel mewn amgylchedd dysgu arloesol ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae gan y Brifysgol gysylltiadau cadarn â'r diwydiant ac o ganlyniad, rydym wedi ennill ein plwyf fel sefydliad arweiniol ym maes datblygu peirianneg. Rydym yn gweithio â chwmnïau o'r radd flaenaf, megis Tata, Rolls-Royce, Airbus, BAE Systems a HP.

Gallwch ddisgwyl budd o'r cydberthnasau gwaith agos ag arbenigwyr yn y diwydiant.

Caiff eich astudiaethau eu cyfoethogi gan gymuned ryngwladol o dros 500 o fyfyrwyr ôl-raddedig a 120 o aelodau o staff ymchwil yn y Peirianneg.

Ceir cymorth astudio pellach drwy fynediad 24 awr i'n llyfrgell ar y safle, labordai cynhwysfawr, rhaglen o ddarlithoedd gwadd drwy gydol y flwyddyn, ac ystafelloedd gwaith penodedig i fyfyrwyr ôl-raddedig.

Cyfleoedd cyflogaeth ym maes Awyrofod

Mae graddedigion MSc Peirianneg (Awyrofod) ym Mhrifysgol Abertawe mewn sefyllfa dda i fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth gwerthfawr. Gallai eich dyfodol fod yn unrhyw un o'r rolau canlynol.

  • Peiriannydd dylunio awyrennau
  • Peiriannydd dylunio lloerenni
  • Peiriannydd systemau awyrennau
  • Gwyddonydd rocedi
  • Peiriannydd cynnal a chadw ac atgyweirio (MRO) awyrennau
  • Peiriannydd amddiffyn
  • Peilot cwmni awyrennau
  • Peiriannydd rheilffyrdd cyflymder uchel
  • Peiriannydd profion hedfan

Modiwlau

Mae myfyrwyr sydd yn dechrau ym mis Medi neu Ionawr yn astudio’r run modiwlau craidd fel rhan o’r rhaglen. Mae dyddiadau Ionawr i’w cadarnhau.

Mae blwyddyn gyntaf y radd MSc yn cynnwys modiwlau 10-credyd gorfodol a dewisol ar bynciau sy'n cynnwys strwythurau fframiau awyr datblygedig, dynameg a rheolaeth hediadau, aerodynameg uwch a'r Dull Elfen Feidraidd, yn ogystal â phrosiect grŵp awyrofod 30-credyd.

Byddwch yn treulio eich ail flwyddyn gyfan yn cwblhau prosiect traethawd hir, sydd werth 60 o gredydau.