Realiti Rhithwir, MSc

Defnyddio pŵer realiti rhithwir mewn llu o ddiwydiannau

VR headset

Trosolwg o'r Cwrs

Mae’r cwrs hwn, sy’n croesawu graddedigion o bob maes pwnc, yn defnyddio ac yn crynhoi’r wybodaeth rydych chi wedi’i hennill o gefndir eich gradd mewn amgylchedd realiti rhithwir y gellir ei ddefnyddio mewn ffordd gyffrous a rhyngweithiol y gellir ymgolli ynddi at ddibenion masnachol, meddygol, ymchwil, addysg neu hyd yn oed adloniant, gan ehangu eich sgiliau deallusol o sail wybodaeth israddedig fwy cul i set sgiliau amlddisgyblaethol.

Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyfle i chi wneud ail flwyddyn ychwanegol ar gyfer Prosiect neu Leoliad Gwaith ym myd diwydiant, gan roi profiad gwaith gwerthfawr i chi a'r cyfle i wella sgiliau technegol a rhyngbersonol.

Darllenwch ein Canllaw MSc Realiti Rhithw

Nod y rhaglen yw:

  • Darparu trosolwg o dechnoleg a chymwysiadau XR
  • Galluogi graddedigion i ddeall a chymhwyso technoleg realiti rhithwir yng nghyd-destun heriau cymdeithasol, economaidd a thechnegol ac arddel ymagwedd gyfannol ac amlddisgyblaethol at ddatrys problemau
  • Diffinio a datblygu cymwysiadau effeithiol sy’n seiliedig ar gyfrifiaduron
  • Galluogi graddedigion i adlewyrchu ar bwysigrwydd, cryfderau a gwendidau unigol, meddwl yn entrepreneuraidd ac yn arloesol ac i ddefnyddio technegau meddwl am syniadau a datrys problemau’n effeithiol
  • Archwilio barn ddamcaniaethol ar ddylunio sy’n canolbwyntio ar y cyfryngau, marchnata, diwylliant a phobl drwy gydol y broses o lunio’r prosiect
  • Ymgysylltu’n effeithiol â sefydliadau i ddatblygu cynlluniau prosiect
  • Datblygu graddedigion sydd â dealltwriaeth sylfaenol o reoli prosiectau

Pam Realiti Rhithwir yn Abertawe?

Er bod y cwrs yn weddol newydd, yn ei flwyddyn gyntaf dyma'r unig gwrs i dderbyn dau grybwylliad anrhydeddus yng ngwobrau SALT Abertawe, un ar gyfer y cwrs gorau ac un ar gyfer y Defnydd Gorau o Ddysgu â Chymorth Technoleg.

Pecyn holl gynhwysfawr:

Wrth ddatblygu cymwysiadau realiti rhithwir, rhaid cael y cyfarpar cywir ar gyfer y gwaith. Mae'r cwrs hwn yn darparu pecyn hollgynhwysol o'r cyfarpar y mae ei angen, gan gynnwys eich gliniadur datblygu realiti rhithwir eich hun, gyda phenset a rheolyddion realiti rhithwir. Gallwch gadw'r cyfarpar hwn ar ôl cwblhau'r cwrs yn ddi-dâl, felly gallwch barhau i ddefnyddio eich sgiliau realiti rhithwir newydd yn eich gyrfa yn y dyfodol. Mae'r cyfarpar hwn yn galluogi myfyrwyr i ymgymryd â phob agwedd ar y cwrs, o ddysgu'r hanfodion i ddatblygu eu prosiect traethawd hir.

Mae'r cit yn cynnwys:

  • Gliniadur sy'n cydweddu â Realiti Rhithwir
  • Meta Quest 3 gyda chês cludo a chebl cysylltu
  • Bag i gludo'r gliniadur a'r penset realiti rhithwir
  • Monitor ychwanegol, a bysellfwrdd a llygoden allanol gyda hyb USB ar gyfer y cartref

Mae ein cyfleusterau a'n hadnoddau o'r radd flaenaf yn cynnwys:

  • Meta Quest Pro a Meta Quest 3 ar gyfer datblygu realiti cymysg
  • Gweithfannau realiti rhithwir dynodedig gan olrhain y corff, y llygaid a'r dwylo'n llawn ar gyfer cymwysiadau uwch yn ogystal â synwyryddion ar gyfer curiad y galon a monitro tonfeddi'r ymennydd
  • Amrywiaeth o berifferolion sy'n cefnogi datblygiad realiti rhithwir gydag adborth cyffyrddiadol
  • Amrywiaeth o setiau pen eraill i arbrofi gyda nhw a'u datblygu, gan gynnwys cynhyrchwyr Magic Leap, Pico, Pimax, Sony, Valve a Varjo

Eich Profiad Realiti Rhithwir

Pa fath o bethau y byddwch chi'n eu gwneud?

Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i greu bydoedd rhithwir, gan greu ac adeiladu gwrthrychau 3D y gellir rhyngweithio â nhw. I greu 'profiad ymdrochi' gwell i ddefnyddwyr a  gwneud i'r defnyddwyr deimlo eu bod nhw 'yno', addysgir dylunio seinweddau ymdrochi (parthau amgylchynol, cyfeiriadol, Foley, atsain etc) ac effeithiau goleuo realistig. Hefyd, trafodir creu a rheoli NPCs (cymeriadau nad ydynt yn chwarae), gan gynnwys defnyddio technegau deallusrwydd artiffisial i reoli eu hymddygiad. Caiff rheoli'r amgylchedd realiti rhithwir drwy ddefnyddio côd cyfrifiadur (C#) ei gyflwyno’n gynnar yn ogystal â thechnegau rheoli prosiectau safonol y diwydiant (Agile, Scrum, storfeydd GIT) y mae'r myfyriwr yn eu defnyddio drwy gydol y cwrs. Bydd myfyrwyr yn datblygu o greu bydoedd 'cartŵn' syml i adeiladu amgylcheddau realiti rhithwir llawer mwy realistig ac ymdrochol.

Caiff y sgiliau hyn eu mireinio ymhellach mewn tri phrosiect grŵp:

(i) Peiriant Emosiwn (wedi’i ddylunio i ysgogi emosiwn yn y defnyddiwr e.e. mae'r defnyddiwr yn profi anabledd corfforol neu efallai'n gorfod wynebu ffobia penodol).

(ii) Peiriant Hyfforddi (caiff cymhwysiad realiti rhithwir ei greu i hyfforddi'r defnyddiwr mewn tasg benodol e.e. hyfforddiant diogelwch tân a threfniadau gadael sylfaenol).

(iii) Peiriant Gwybodaeth (e.e. cymhwysiad "realiti estynedig" neu AR gan ddefnyddio cyfrifiadur llechen sy'n gosod gwybodaeth a data rhithwir ar ben peiriannau a chyfarpar go iawn gan alluogi'r defnyddiwr i holi a rheoli cyfarpar yn ddiwifr drwy'r ap).

Hefyd, ar wahân i'r cyrsiau datblygu realiti rhithwir arbenigol, mae modiwlau eraill yn trafod themâu megis marchnata, datblygu eich presenoldeb eich hun ar y we a’ch sgiliau cyflwyno/ysgrifennu. Bydd hyn yn sicrhau bod myfyrwyr yn fwy na rhaglennwyr yn unig.

Wedi hyn oll, dylai'r myfyriwr fod wedi'i baratoi'n dda ar gyfer ei brif brosiect unigol, a gynhelir dros yr haf, pan fydd yn gweithio ar brosiect realiti rhithwir gyda phartner allanol. Yn ystod y prosiect terfynol hwn (a thrwy gydol yr holl aseiniadau blaenorol), mae'r staff addysgu ar gael i roi help ac arweiniad a chynnig gwasanaeth dadfygio am ddim yn aml! 

Cyfleoedd Cyflogaeth Realiti Rhithwir

Mae diffyg arbenigwyr realiti rhithwir sydd ag arbenigedd pwnc ar draws peirianneg, gwyddoniaeth, busnes a sectorau’r celfyddydau a’r dyniaethau, yn atal twf yn y diwydiant. Nod y rhaglen hon yw creu arbenigwyr sy’n gwybod sut i greu dyfeisiau realiti rhithwir ac sydd â’r profiad i bontio’r bwlch hwn.

 

Cyrchfannau Posib i Raddedigion

Mae diwydiannau sydd eisoes wedi mabwysiadu arferion realiti rhithwir (ac sy’n gyflogwyr ar gyfer y dyfodol yn y diwydiant hwn o ganlyniad i hyn) yn cynnwys:

  • Diwydiannau gweithgynhyrchu
  • Gofal iechyd/y GIG
  • Dadansoddeg Ddata
  • Dylunio gemau
  • Treftadaeth y Celfyddydau
  • Seicoleg
  • Iechyd a Diogelwch
  • Hyfforddiant
  • Newyddiaduraeth
  • Manwerthu
  • Twristiaeth
  • Eiddo tirol
  • Pensaernïaeth
  • Dysgu a Datblygu
  • Recriwtio
  • Addysg
  • Chwaraeon – gan gynnwys Ymchwil Chwaraeon ac Adloniant Chwaraeon
  • Celf a Dylunio
  • Digwyddiadau a Chynadleddau
  • Elusennau
  • Maes milwrol
  • Asiantaethau’r Gofod – gan gynnwys Hyfforddiant a Datblygu, Dadansoddeg Ddata
  • Gorfodi’r gyfraith

Modiwlau

Bydd modiwlau ymarferol allweddol yn rhoi cyflwyniad eang i feddalwedd realiti rhithwir a thrin a chreu asedau (siapiau 3D, synau ac effeithiau arbennig, gwrthrychau rhyngweithiol etc.). Bydd modiwlau eraill yn ymdrin â diwydiannau’r cyfryngau, diwylliannol a chreadigol, wedi’u cyfuno â datblygiad personol a phroffesiynol a rhyngweithiad rhwng cwsmeriaid a chleientiaid.

Yn ogystal â chael eich addysgu gan y Coleg Peirianneg, bydd yr Ysgol Reolaeth hefyd yn darparu safbwynt busnes/marchnata i’r cwrs i sicrhau bod myfyrwyr yn ymwybodol o natur fasnachol maes rhithrealiti. A bydd Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau hefyd yn canolbwyntio ar agweddau cymdeithasol a chreadigol ar yr amgylchedd rhithrealiti. Gall cyfranwyr mewnol ehangu wrth i’r rhaglen ddatblygu.

[ Ymarferion tîm: Ap Dianc o Ystafell a ddatblygwyd gan fyfyrwyr ]