Mecaneg Gyfrifiadurol, MSc
Un o’r 201 - 240 o Brifysgolion Gorau yn y Byd ar gyfer Peirianneg - Sifil
QS World University Rankings 2024
Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r cwrs MSc mewn Mecaneg Gyfrifiadol yn rhaglen 2 flynedd ar gyfer myfyrwyr sy'n awyddus i ennill y sgiliau angenrheidiol ar gyfer modelu, llunio, dadansoddi, a gweithredu dulliau efelychu ar gyfer problemau peirianneg uwch, yn ogystal â sgiliau ar gyfer deall yr ymagweddau hyn yng nghyd-destun ehangach busnes ac arloesi.
Mae'r MSc hwn yn manteisio ar arbenigedd cydategol Prifysgol Abertawe a Universitat Politècnica de Catalunya (UPC) yn Barcelona, Sbaen. Gall myfyrwyr dreulio blwyddyn gyntaf yr MSc yn Abertawe a'r ail flwyddyn yn Barcelona neu i'r gwrthwyneb. Mae'r rhaglen gyfan yn cael ei haddysgu yn Saesneg, ond bydd myfyrwyr sy'n dechrau yn Abertawe yn cael cynnig, fel rhan o'r cwrs, gwrs gorfodol mewn Sbaeneg i ddechreuwyr er mwyn gwella eu profiad yn ystod yr ail flwyddyn yn Barcelona.
Ar ôl y flwyddyn gyntaf, bydd myfyrwyr yn gwneud lleoliad haf mewn diwydiant cyn symud i'r ail sefydliad. Dyma gyfle unigryw i roi ar waith y sgiliau a ddysgwyd yn ystod blwyddyn gyntaf yr MSc yn ogystal â gwella eu cyflogadwyedd. Yn wir, mae 20% o'r myfyrwyr yn y rhaglen yn cael eu cyflogi ar ôl graddio gan y cwmni lle ymgymeron nhw â'r lleoliad.
Yn y rhaglen hon bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau rhaglennu cadarn a byddant yn gallu teilwra'r radd drwy ddewis modiwlau dewisol ar amrywiaeth o bynciau cyfrifiadol, gan gynnwys dysgu peirianyddol a dulliau a ysgogir gan ddata.
Bydd y graddedigion yn cael diploma dwbl gan Brifysgol Abertawe ac UPC.
Mae'r MSc Rhyngwladol mewn Mecaneg Gyfrifiadol yn un o'r tri chwrs MSc Cyfrifiadol y mae Prifysgol Abertawe yn eu cynnig.
Pam Mecaneg Gyfrifiadol yn Abertawe a Barcelona?
Mae Prifysgol Abertawe yn sefydliad sy'n arwain y byd o ran Peirianneg Gyfrifiadol ers y 1960au, pan ymunodd yr Athro Zienkiewicz â Phrifysgol Abertawe. Mae'r Athro Zienkiewicz yn adnabyddus yn fyd-eang fel "Tad y Dull Elfen Feidraidd" a sefydlodd yr International Journal of Numerical Methods in Engineering a Chymdeithas y DU ar gyfer Mecaneg Gyfrifiadol. Ers hynny, mae Prifysgol Abertawe wedi cynnal safle rhyngwladol breintiedig ym maes Peirianneg Gyfrifiadol.
Ym 1976 daeth yr Athro Eugenio Oñate i Abertawe i wneud y cwrs MSc a thraethawd ymchwil PhD o dan oruchwyliaeth yr Athro O. C. Zienkiewicz Wedi hynny, dychwelodd i Barcelona lle sefydlodd yr International Centre for Numerical Methods (CIMNE), sydd hyd heddiw yn un o'r canolfannau pwysicaf ym maes dulliau rhifiadol ledled y byd. Yn sgil y cysylltiad cryf rhwng Barcelona ac Abertawe, cafodd yr Athro O. C. Zienkiewicz ei benodi'n gadeirydd UNESCO ar gyfer dulliau rhifiadol mewn Peirianneg yn Barcelona. Ers hynny, mae'r cydweithio rhwng Abertawe a Barcelona wedi tyfu ac arwain at gynhyrchu dros 70 o gyhoeddiadau ar y cyd rhwng academyddion o Brifysgol Abertawe ac UPC yn ystod y ddau ddegawd diwethaf.
Mae Pwyllgor Llywio Diwydiannol, sydd ag arbenigwyr diwydiannol mewn peirianneg gyfrifiadol, yn cynghori ar yr MSc mewn Peirianneg Gyfrifiadol gyda Diwydiant. Mae aelodau'r Pwyllgor Llywio Diwydiannol yn cynnwys:
Caiff yr MSc mewn Peirianneg Gyfrifiadol ei addysgu gan academyddion sydd gyda'r goreuon yn y byd, o Sefydliad Zienkiewicz ar gyfer Modelu, Data a Deallusrwydd Artiffisial ym Mhrifysgol Abertawe, ac o CIMNE a LaCaN yn UPC. Mae gan yr academyddion hyn brofiad eang o greu dulliau rhifiadol newydd a darparu offer cyfrifiadol sydd wedi'u mabwysiadu gan fyd diwydiant, gan gynnwys Airbus, BAE Systems, Chevron, NASA, SEAT, Siemens, Volkswagen.
Yn ogystal â hynny, mae'r academyddion hyn wedi ysgrifennu llyfrau enwog ym maes Peirianneg Gyfrifiadol, ac mae ganddynt rolau pwysig mewn cymdeithasau cenedlaethol a rhyngwladol yn y maes.
Bydd myfyrwyr yr MSc mewn Peirianneg Gyfrifiadol yn gallu dewis pwnc eu traethawd hir o ystod eang o themâu. Bydd gan fyfyrwyr fynediad am ddim at yr holl feddalwedd sydd ei hangen i ymgymryd â'u hastudiaethau, ar gyfrifiaduron y Brifysgol ac yn eu cartrefi. Ar gyfer eu traethawd hir bydd ganddynt hefyd fynediad at y cyfleusterau cyfrifiadura perfformiad uchel sydd ar gael yn Abertawe, gan gynnwys y Clwstwr Effaith a chyfleusterau Uwchgyfrifiadura Cymru yn Abertawe, sydd â chyfanswm o 4,920 o greiddiau a 47 Tb o gof RAM.
Pam astudio Mecaneg Gyfrifiadol?
Erbyn hyn mae modelu ac efelychu cyfrifiadurol yn ddull sy'n cael ei ddefnyddio'n eang mewn diwydiant, nid yn unig i ategu arbrofion a damcaniaethau, ond hefyd fel dull darganfod. Mae'r maes yn tyfu'n gyflym oherwydd cymhlethdod cynyddol y problemau a wynebir gan ddiwydiant a’n cymdeithas. Mae'r problemau hyn yn cynnwys yr angen i liniaru'r newid yn yr hinsawdd, yr angen i ddyfeisio deunyddiau newydd ac i optimeiddio cydrannau, systemau, a phrosesau, ac enwi ychydig yn unig .
Yr unig ffordd o fynd i'r afael â'r heriau hyn yw drwy ddefnyddio peirianneg gyfrifiadol i ategu gwaith arbrofol. Mae offer cyfrifiadol hefyd yn darparu llwybr unigryw i gwmnïau leihau amser-i'r-farchnad ac amser-i-weithgynhyrchu ar gyfer eu cynnyrch. Yn yr oes ddigidol sydd ohoni, mae defnyddio data mawr a dysgu peirianyddol i ddiweddaru'r modelau'n gyson hefyd wedi agor y drws i ddatblygu gefeilliaid digidol mewn sawl maes Peirianneg a Gwyddoniaeth.
Bydd yr MSc Peirianneg Gyfrifiadol yn rhoi i fyfyrwyr y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddatblygu offer cyfrifiadol ar gyfer heriau'r 21ain ganrif.
Cyfleoedd Cyflogaeth
Mae ystod eang o gyfleoedd ar gael i raddedigion y cwrs MSc Peirianneg Gyfrifiadol. Bydd cyfle iddynt gael swyddi ym myd diwydiant neu yn y byd academaidd, gan ddibynnu ar eu diddordebau.
O ganlyniad i sgiliau unigryw peiriannydd cyfrifiadol, mae'r cyflog disgwyliedig fel arfer yn uwch na chyflog peiriannydd arferol. Er enghraifft, yn y DU, cyflog cyfartalog peiriannydd cyfrifiadol ym mis Tachwedd 2022 oedd £43,000, tra mai £38,000 oedd cyflog cyfartalog peiriannydd. Mae'n werth nodi bod cyflogwyr sy'n chwilio am raddedigion yn defnyddio naill ai "Peiriannydd Cyfrifiadol", "Peiriannydd Modelu" neu "Beiriannydd Efelychu" yn eu disgrifiadau.
Mae cwmnïau sy'n cynnig swyddi i Beirianwyr Cyfrifiadol yn cynnwys rhai o frandiau enwocaf y byd, sef Alphabet, Amazon, Apple, Boeing, Chevron, Coca-Cola, ExxonMobil, General Dynamics, HP, IBM, Intel, Meta, Microsoft, Nike, Pfizer, Tesla.
Wedi iddynt raddio, mae'n well gan rai myfyrwyr ddilyn PhD mewn Peirianneg Gyfrifiadol. Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i ddilyn graddau PhD yn llawer o brifysgolion blaenllaw’r byd, ac mae gan lawer o raddedigion Abertawe swyddi ymchwil neu academaidd mewn prifysgolion a chanolfannau ymchwil a datblygu uchel eu bri.
Mae blwyddyn gyntaf y cwrs MSc Erasmus yn cynnwys modiwlau 10-credyd gorfodol a dewisol ar bynciau sy'n cynnwys mecaneg continwwm, mecaneg hylif ddatblygedig, dadansoddi cyfrifiadurol elfen feidraidd, plastigrwydd cyfrifiadurol, sgiliau cyfathrebu mewn iaith dramor, cyfres o fodiwlau yn Barcelona, a phrosiect diwydiannol 30-credyd.
Bydd eich ail flwyddyn hefyd yn cynnwys modiwlau 10-credyd gorfodol a dewisol, yn ogystal â modiwl astudiaeth achos 20-credyd gorfodol a modiwl prosiect traethawd hir 60-credyd.
MSc 2 Year Full-time - September
Blwyddyn 1 (Lefel 7T)
FHEQ 7 Taught Masters / PGDip / PGCert
Mae myfyrwyr yn dewis 120 o gredydau o'r opsiynau canlynol:
Modiwlau Gorfodol
Modiwlau Opsiynol
20
Dewiswch Yn union 20 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:
AND
10
Dewiswch Yn union 10 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:
Blwyddyn 2 (Lefel 7D)
FHEQ 7 Taught Masters Dissertation
Mae myfyrwyr yn dewis 120 o gredydau o'r opsiynau canlynol:
Modiwlau Gorfodol
Heb ddod o hyd i un
Modiwlau Opsiynol
120
Dewiswch Yn union 120 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:
MSc 2 Year Full-time - September
Blwyddyn 1 (Lefel 7T)
FHEQ 7 Taught Masters / PGDip / PGCert
Mae myfyrwyr yn dewis 120 o gredydau o'r opsiynau canlynol:
Modiwlau Gorfodol
Heb ddod o hyd i un
Modiwlau Opsiynol
Dewiswch Yn union 120 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:
Blwyddyn 2 (Lefel 7D)
FHEQ 7 Taught Masters Dissertation
Mae myfyrwyr yn dewis 120 o gredydau o'r opsiynau canlynol:
Modiwlau Gorfodol
Modiwlau Opsiynol
Optional rule
Dewiswch Yn union 20 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:
Gofynion mynediad y cwrs MSc Mecaneg Gyfrifiadurol yw gradd anrhydedd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth mewn Peirianneg, Mathemateg Gymhwysol, Ffiseg neu ddisgyblaeth wyddonol berthnasol debyg.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr o bob cwr o'r byd ac yn chwilio am dystiolaeth o astudiaethau blaenorol sy'n cyfateb i'r gofynion mynediad a nodwyd uchod. Mae'r Swyddfa Derbyn Ôl-raddedig yn fwy na pharod i roi cyngor i chi ar b'un a yw eich cymwysterau yn bodloni gofynion mynediad y cwrs yr hoffech ei astudio. Anfonwch neges e-bost i derbyniadau@abertawe.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth.
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf bydd angen marc llwyddo derbyniol mewn cymhwyster Saesneg cymeradwy arnoch er mwyn gwneud yn siŵr y byddwch yn gallu manteisio i'r eithaf ar eich astudiaethau yn Abertawe. Rydym yn ystyried amrywiaeth eang o gymwysterau, gan gynnwys Prawf Saesneg Prifysgol Abertawe, prawf IELTS y British Council (gyda sgôr o 6.5 a 5.5 o leiaf ym mhob elfen). Ceir rhestr lawn o brofion Saesneg derbyniol yn:
abertawe.ac.uk/cy/astudio/derbyn-myfyrwyr/gofynion-iaith-saesneg/
Yn ystod blwyddyn gyntaf y cwrs MSc Mecaneg Gyfrifiadurol, byddwch yn astudio set gyffredin o fodiwlau craidd sy'n arwain at arholiadau cyffredin yn Abertawe neu Barcelona. Yn ogystal, byddwch yn mynd ar leoliad diwydiannol yn ystod y flwyddyn hon ac yn cael cyfle i weld mecaneg gyfrifiadurol yn cael ei defnyddio mewn cyd-destun diwydiannol.
Yn ystod ail flwyddyn y cwrs MSc Mecaneg Gyfrifiadurol, byddwch yn symud i un o'r Prifysgolion eraill, gan ddibynnu ar eich dewis arbenigedd, er mwyn cwblhau cyfres o fodiwlau a addysgir a'r traethawd ymchwil.
Bydd dewis eang o feysydd arbenigedd (h.y. hylifau, strwythurau, awyrofod, biofeddygol) drwy gynnwys modiwlau o'r pedair Prifysgol. Mae hyn yn eich galluogi i gael addysg ôl-raddedig mewn mwy nag un sefydliad Ewropeaidd.
Gall modiwlau'r cwrs MSc Mecaneg Gyfrifiadurol newid o flwyddyn i flwyddyn ond gallech ddisgwyl astudio'r modiwlau craidd canlynol (ynghyd â modiwlau dewisol):
Dulliau Rhifyddol ar gyfer Hafaliadau Gwahaniaethol Rhannol
Dull Elfen Feidraidd
Mecaneg Continwwm
Mecaneg Solet Gyfrifiadurol
Elfen Feidraidd mewn Hylifau
Mecaneg a Dynameg Strwythurol Cyfrifiadurol
Lledaeniad Tonnau Cyfrifiadurol
Dull Elfen Feidraidd Estynedig a Thechnegau Set Lefel
Dadansoddi Strwythurol Amlraddfa
Modelu Defnyddiau ar gyfer Efelychiadau Rhifyddol
Technegau Rhifyddol ar gyfer Hafaliadau Gwahaniaethol Rhannol mewn Hylifau
Cynllun y Prosiect Ymchwil
Traethawd Ymchwil MSc
Hyfforddiant Ymarferol
Rhywfaint o ddarpariaeth
Darperir rhai elfennau o'r cwrs ôl-raddedig hwn trwy gyfrwng y Gymraeg ond
nid oes digon o ddarpariaeth eto i gyrraedd 40 credyd ym mhob blwyddyn. Gall
Cyfarwyddwr Rhaglen amlinellu union natur y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.
Mae Academi Hywel Teifi yma i'th
gefnogi trwy gydol dy amser ym Mhrifysgol Abertawe. Rydym yn cynnig:
- Mynediad at ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gyfer astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
- Mynediad at ap Arwain er mwyn derbyn y diweddaraf am ein cyrsiau a'n modiwlau cyfrwng Cymraeg. Gelli lawrlwytho'r ap am ddim drwy'r App Store a Google Play.
- Cyfweliad trwy gyfrwng y Gymraeg wrth wneud cais am le.
- Gohebiaeth bersonol yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog.
- Cyfle i lunio a chyflwyno gwaith cwrs neu sefyll arholiadau trwy gyfrwng y Gymraeg (hyd yn oed os wyt ti wedi dewis astudio yn Saesneg), a bydd dy waith yn cael ei asesu yn Gymraeg.
- Tiwtor Personol Cymraeg ei iaith.
- Cefnogaeth un i un i wella dy sgiliau Cymraeg academaidd.
- Cyfle i ennill cymhwyster ychwanegol sy'n dystiolaeth o dy allu Cymraeg i gyflogwyr y dyfodol.
- Aelodaeth o Gangen Prifysgol Abertawe o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cer i'r dudalen Mae Gen i
Hawl am wybodaeth bellach am hawliau iaith Gymraeg myfyrwyr.
Bydd parhau i astudio trwy'r Gymraeg yn:
- ddatblygiad naturiol i ti os wyt ti wedi astudio trwy'r Gymraeg ar lefel israddedig.
- ffordd o sicrhau dy gyfle i gael yr addysg orau.
- ffordd o dderbyn lefel uchel o gefnogaeth wrth i'r grwpiau astudio fod yn llai.
- ychwanegiad gwerthfawr i dy CV a dy ddatblygiad gyrfaol.
Caiff y cwrs Mecaneg Gyfrifiadurol ei achredu gan Gyd-fwrdd y Cymedrolwyr (JBM).
Mae Cyd-fwrdd y Cymedrolwyr (JBM) yn cynnwys Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE); Sefydliad y Peirianwyr Strwythurol (IStructE); y Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant (CIHT); Sefydliad y Peirianwyr Priffyrdd (IHE); a The Permanent Way Institution (PWI).
Mae'r achrediad yn golygu bod y radd hon yn bodloni gofynion Addysg Bellach Peiriannydd Siartredig yn achos ymgeiswyr sydd eisoes wedi ennill gradd israddedig gyntaf CEng (Rhannol), BEng (Anrh) achrededig neu IEng (Llawn), BEng/BSc (Anrh) achrededig.
Mae'r radd hon wedi'i hachredu gan Gyd-fwrdd y Cymedrolwyr dan drwydded rheoleiddiwr y DU, y Cyngor Peirianneg.
Mae achrediad yn nod sicrwydd bod y radd yn cyrraedd y safonau a nodir gan y Cyngor Peirianneg yn y ddogfen, UK Standard for Professional Engineering Competence (UK-SPEC). Bydd gradd achrededig yn rhoi o leiaf rhywfaint, os nad yr holl wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau sylfaenol sydd eu hangen arnoch er mwyn cofrestru yn y pen draw yn Beiriannydd Corfforedig (IEng) neu'n Beiriannydd Siartredig (CEng). Mae'n well gan rai cyflogwyr recriwtio unigolion o raddau achrededig, ac mae gradd achrededig yn debygol o gael ei chydnabod gan wledydd eraill sydd wedi llofnodi cytundebau rhyngwladol.
Cewch eich addysgu gan ddarlithwyr o’r radd flaenaf sy’n ymchwilwyr brwd. Mae eu meysydd arbenigedd ymchwil yn cynnwys Ynni a'r Amgylchedd, Peirianneg Gyfrifiadol, Solidau, Strwythurau a Systemau Cypledig, Deunyddiau ac Ymarfer Cynaliadwy a Pheirianneg Trafnidiaeth.
Gweler yr holl staff Peirianneg Sifil yma.
Dyddiad Dechrau |
D.U. |
Rhyngwladol |
Medi 2024
|
£ 4,500
|
£ 4,500
|
Medi 2025
|
£ 4,750
|
£ 4,750
|
Dyddiad Dechrau |
D.U. |
Rhyngwladol |
Medi 2024
|
£ 4,500
|
£ 4,500
|
Medi 2025
|
£ 4,500
|
£ 4,500
|
Mae ffioedd dysgu ar gyfer blynyddoedd o astudiaeth ar ôl eich blwyddyn gyntaf yn amodol ar gynnydd o 3%.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.
Efallai y byddwch yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.
I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.
Myfyrwyr cyfredol: Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.
Mae’n bosib eich bod yn gymwys i gael cymorth ariannol tuag at eich astudiaethau.
Os ydych yn fyfyriwr y DU neu'r UE sy’n dechrau ar radd Meistr ym Mhrifysgol Abertawe, efallai y byddwch yn gymwys i gyflwyno cais am arian gan y Llywodraeth i helpu tuag at gostau eich astudiaethau.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i'n tudalen benthyciadau Ôl-raddedig.
I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd eraill am gymorth ariannol sydd ar gael, ewch i dudalen
ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.
Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael ar gael gan Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog.
I ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch i dudalen Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Academi Hywel Teifi
Bydd mynediad i'ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i'ch galluogi i ymgysylltu'n llawn â'ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i'w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu'ch dyfais.
Efallai y byddwch chi'n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
- Teithio i'r campws ac oddi yno
- Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
- Prynu llyfrau neu werslyfrau
- Gwisgoedd ar gyfer seremonïau graddio
Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe'n cefnogi myfyrwyr Prifysgol Abertawe ar bob cam yn eu taith yrfaol.
Mae ein gwasanaethau cymorth gyrfaoedd yn cynnwys:
- Gweithdai cyflogadwyedd, sgyrsiau gan gyflogwyr, digwyddiadau pwrpasol a ffeiriau gyrfaoedd
- Cyngor ac arweiniad unigol gan Ymgynghorwyr Gyrfaoedd proffesiynol
- Cymorth i chwilio am swyddi, interniaethau, lleoliadau gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli
- Mynediad i adnoddau gwybodaeth am amrywiaeth eang o bynciau rheoli gyrfa
Rydym hefyd yn darparu cymorth a chyngor i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe am hyd at bum mlynedd ar ôl iddynt raddio.
Yn ogystal â chymorth pwnc penodol gan staff addysgu'r coleg a'ch tiwtor
personol, mae'r
Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn darparu cyrsiau, gweithdai a chymorth un-i-un mewn
meysydd fel:
- Ysgrifennu academaidd
- Mathemateg ac ystadegau
- Meddwl critigol
- Rheoli amser
- Sgiliau digidol
- Sgiliau cyflwyno
- Cymryd nodiadau
- Technegau adolygu, dysgu ar gof ac arholiadau
- Sgiliau Saesneg (os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf)
Yn ogystal, os oes gennych Anhawster Dysgu Penodol (ADP/SpLD), anabledd,
cyflwr iechyd meddwl neu gyflwr meddygol, mae gan y Ganolfan Llwyddiant
Academaidd Diwtoriaid Arbenigol i gefnogi'ch dysgu. Bydd y tiwtoriaid yn
gweithio ochr yn ochr â'r Swyddfa Anabledd
a'r Gwasanaeth Lles i gefnogi eich holl anghenion a
gofynion tra byddwch yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe.
**MAE CEISIADAU AM FYNEDIAD 22/23 AR GYFER Y RHAGLEN HON BELLACH WEDI CAU A BYDDANT YN AILAGOR AR TACHWEDD 2022 AR GYFER MYNEDIAD 23/24**
Argymhellwn eich bod chi'n cyflwyno eich cais am le ar ein cyrsiau mor fuan â phosibl cyn ein dyddiadau cau ar gyfer
cyflwyno cais. Bydd cyrsiau'n cau yn gynharach na'r dyddiadau cau a restrir os caiff yr holl leoedd eu llenwi. Mae
rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen we Dyddiadau
cau ar gyfer cyflwyno cais.