Arwain a Rheoli Peirianneg, MSc

myfyrwyr yn grŵp pecynnu rhyngwladol Seda

Delwedd arwain

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r cwrs MSc Arwain a Rheoli Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe wedi cael ei ddylunio i weithwyr proffesiynol uchelgeisiol, ac unigolion sydd eisiau datblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth mewn arwain a rheoli, gyda ffocws penodol ar y sector peirianneg.

Bydd y rhaglen hon yn rhoi'r sgiliau hanfodol sydd eu hangen arnoch er mwyn llwyddo mewn rolau rheoli peirianneg, gan archwilio dulliau a phrosesau arweinyddiaeth, a'r ffocws cynyddol ar sgiliau meddal. Byddwch yn cael y cyfle i ddatblygu'r wybodaeth ddamcaniaethol a'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus yn y maes, gan bontio'r bwlch rhwng y byd academaidd a defnydd ymarferol drwy gydol y rhaglen.

Wrth i'ch astudiaethau fynd rhagddynt, byddwch yn datblygu eich gwybodaeth mewn strategaeth arweinyddiaeth allweddol, ochr yn ochr â dysgu sut i reoli prosiectau'n effeithlon ac yn effeithiol. Byddwch hefyd yn dysgu sut i lywio pynciau ac amgylcheddau peirianneg cymhleth, gan gynnwys meysydd megis gweithgynhyrchu clyfar, yr economi gylchol a thechnolegau cynaliadwy, a fydd yn eich galluogi i gyfuno gwybodaeth am feysydd technegol ac arferion rheoli, er mwyn arwain yn effeithiol mewn meysydd peirianneg cymhleth.

Datblygwyd y rhaglen mewn ymgynghoriad uniongyrchol â byd busnes a diwydiant, er mwyn sicrhau eich bod chi'n dysgu am y themâu mwyaf cyfredol yn y maes hwn. Drwy weithio ochr yn ochr â’n partner diwydiant, Tata Steel, byddwch yn medru rhoi'r gwybodaeth y gwnaethoch chi ei dysgu yn yr ystafell ddosbarth ar waith yn uniongyrchol. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall materion sy'n wynebu byd diwydiant ar hyn o bryd mewn manylder, a bydd yn eich galluogi i ddarparu atebion posib sydd â phwysigrwydd strategol uchel i fusnesau, gan sicrhau eich bod yn datblygu'n unigolyn graddedig sy'n barod i feddu ar rolau arweinyddiaeth yn hyderus.

Pam Arwain a Rheoli Peirianneg yn Abertawe?

Fel myfyriwr ar y rhaglen meistr hon, byddwch yn medru ennill y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer rolau rheoli ac arwain ar draws y sector peirianneg.

Mae ein partneriaethau â byd diwydiant yn golygu y byddwch yn derbyn heriau a senarios strategol byd go iawn i weithio arnynt, a fydd yn rhoi cyfleoedd gwerthfawr i chi roi yr hyn rydych chi wedi'i ddysgu ar waith. Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn elwa o argymhellion ac atebion cadarn wrth y diwydiant yn uniongyrchol, gan atgyfnerthu eich dysgu a datblygu eich gwybodaeth sy'n berthnasol i'r diwydiant.

Drwy weithio ochr yn ochr â’n Hysgol Reolaeth, a chael eich cefnogi gan fwrdd diwydiant sy'n cynnwys arweinwyr o amrywiaeth o gefndiroedd a sefydliadau, rydym yn sicrhau eich bod yn dysgu am y themâu mwyaf arloesol a pherthnasol, gan sicrhau eich bod chi'n barod ar gyfer byd gwaith.

Gan fod y rhaglen hon wedi cael ei datblygu ar y cyd â’r Ysgol Reolaeth, byddwch yn elwa o gael eich dysgu gan academyddion Rheolaeth a Pheirianneg, a byddwch yn medru manteisio ar y cyfleusterau yn y ddwy gyfadran, sy'n cynnwys:

  • Gofod addysgu ac ardaloedd astudio dynodedig yn yr Ysgol Reolaeth y buddsoddwyd £22 miliwn ynddynt
  • Cyfleusterau TG eang sydd â'r galedwedd a'r feddalwedd arbenigol ddiweddaraf
  • Labordai o'r radd flaenaf sydd ag offer a chyfarpar datblygedig
  • Cyfleusterau arbenigol yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg sy'n cynnwys amrywiaeth o labordai ac offer arbenigol megis twnelau gwynt, tanciau tonnau a chyfleusterau delweddu datblygedig, gan hwyluso ymchwil mewn meysydd sy'n berthnasol i'r rhaglen hon gan gynnwys gweithgynhyrchu clyfar ac ynni adnewyddadwy.

Darllenwch yr erthygl hon am sut mae'r rhaglen hon yn Pontio'r Bwlch Rhwng Sefydliadau Academaidd a Chyflogi mewn byd sy'n newid yn barhaus.

Eich profiad Arwain a Rheoli ym maes Peirianneg

Mae'r rhaglen hon yn uno arbenigedd peirianneg a rheolaeth yn effeithiol er mwyn i chi ddatblygu'n arweinydd tra medrus a gwybodus.

O'r cychwyn cyntaf, byddwch yn dyfnhau eich dealltwriaeth o egwyddorion craidd mewn peirianneg a rheolaeth. O ganlyniad, byddwch yn dod yn arweinydd effeithiol sy'n medru rheoli prosiectau cymhleth, ac sy'n medru arwain timau i ddatblygu atebion sy'n bwysig iawn, mewn sector sy'n gwella ac yn esblygu'n barhaus.

Byddwch chi'n astudio fel rhan o garfan fach, a fydd yn eich galluogi i gael amser gwerthfawr gyda'n hacademyddion gwybodus o'r adrannau Peirianneg a Rheolaeth, a chydag arbenigwyr o fyd diwydiant. Mae'r rhaglen yn denu myfyrwyr o bob cwr o'r byd, gan greu amgylchedd dysgu amrywiol a bywiog.

Datblygwyd y rhaglen yn dilyn adborth uniongyrchol gan y farchnad yn nodi bod graddedigion â chymwysterau academaidd da yn ymuno â sefydliadau, ond nid oedd ganddynt wybodaeth ynghylch sut mae sefydliadau'n gweithio. Mae ein hymagwedd integredig, sy'n dod â rheolaeth a pheirianneg ynghyd, yn sicrhau y byddwch mewn sefyllfa dda i lenwi'r bwlch gwybodaeth presennol, ac yn barod i ymgymryd â rolau blaenllaw yn y sector.

Byddwch yn derbyn llawer o gyfleoedd i ddatblygu'r sgiliau mwy meddal sy'n galluogi rheoli effeithiol, gyda gwaith tîm, sesiynau un wrth un ac adolygiadau tîm 360 yn rhan o strwythur y cwrs, er mwyn annog adborth gonest sy'n medru ffurfio'r sylfaen ar gyfer datblygiad a thwf.

Mae'r gallu i herio senarios mewn ffordd effeithiol yn aml yn gymhwysedd y mae galw mawr amdano mewn diwydiant. Mae'r aseiniadau a osodir fel rhan o'r rhaglen hon yn cynnwys ein partneriaid mewn diwydiant, ac maen nhw'n eich galluogi i ddarparu atebion i faterion byd go iawn y mae eu sefydliadau'n eu hwynebu, gan ddatblygu ymhellach eich sgiliau fel unigolyn sy'n medru herio'r norm, ac arwain timau i weithredu atebion effeithiol.

Byddwch hefyd yn ymgymryd â thraethawd hir, gan gyflwyno canlyniadau eich prosiect i uwch-reolwyr yn y sefydliad lletyol. Mae hyn yn eich galluogi i ddod i gysylltiad â chyflogwyr, tra hefyd yn ehangu eich parth cysur ac yn eich paratoi ar gyfer yr heriau y byddwch chi'n eu hwynebu mewn diwydiant yn y dyfodol.

Cyfleoedd Cyflogaeth Arwain a Rheoli Peirianneg

O ganlyniad i gwblhau'r rhaglen hon, byddwch wedi cael eich paratoi'n drylwyr ar gyfer rolau arweinyddiaeth mewn peirianneg, tra'n datblygu dealltwriaeth ddofn ar draws meysydd amrywiol ymarfer peirianneg, gan ystyried hefyd eu heffaith ar gymdeithas a'r amgylchedd.

Ein nod yw sicrhau ein bod yn cydweithio â chyflogwyr allweddol drwy integreiddio gweithwyr proffesiynol o fyd diwydiant yn ein prosesau dylunio a chyflwyno'r rhaglen. Mae hyn yn sicrhau eich bod chi'n medru gweithio i ddeall yr heriau y mae sefydliadau'n eu hwynebu, a sut gallwch chi, fel graddedig, ddefnyddio eich sgiliau a'ch profiad i fynd i'r afael â'r materion hyn, gan ddod yn weithiwr rheoli peirianneg proffesiynol y mae galw mawr amdanoch.

O ganlyniad, mae ein partneriaid mewn diwydiant wedi rhoi adborth uniongyrchol i ni yn nodi bod myfyrwyr sydd wedi astudio ar y rhaglen hon ar flaen y gad, ac mae ein graddedigion yn aml yn cael dyrchafiad i swyddi yn gynt na'u cyfoedion, gan sicrhau bod gennych ragolygon gyrfa cryf.

Mae'r rhaglen hon hefyd yn un uchel ei pharch mewn diwydiant:

"Mae'r cwrs yn cynnig trosglwyddiad gwych i reoli ac arweinyddiaeth ar gyfer myfyrwyr Peirianneg, gyda'r nod o roi hwb i ddechrau eu gyrfaoedd drwy ymwybyddiaeth well ynghylch sut mae eu hymddygiad yn effeithio ar berfformiad, yn ogystal â sut i gymhwyso eu gwybodaeth am beirianneg i broblemau a phrosiectau byd go iawn. Mae'r cwrs yn ymdrin â sgiliau sy’n ganlyniad uniongyrchol i anghenion diwydiant, fel y'u nodir gan aelodau'r Bwrdd Cynghori Diwydiant (IAB)."

Dean Cartwright, Cadeirydd y Bwrdd Cynghori Diwydiant, Tata Steel

Myfyrwyr Prifysgol Abertawe a Tata Steel

Stori Bethany

Delwedd o Bethany

Profiad Bethany

Graddedig MSc ELM
Rheolwr Rhaglen Ymchwil a Datblygu, City Science
Aelod o Fwrdd ymgynghorol MSc mewn Diwydiant

Beth oedd yn amlwg i ti am y cwrs Arwain a Rheoli Peirianneg yn Abertawe?
Yn gyffredinol, mae'r cwrs Arwain a Rheoli Peirianneg yn cynnig cyfuniad unigryw o egwyddorion rheoli ac arbenigedd peirianneg, gan gydweddu'n berffaith â'm nodau gyrfaol wrth iddynt ddatblygu. Rhoddodd gyfle i mi gyfuno fy ngallu naturiol i arwain â'm diddordeb

cynyddol mewn atebion ynni strategol, yn enwedig drwy archwilio ynni adnewyddadwy.

Sut mae'r cwrs Arwain a Rheoli Peirianneg wedi dy helpu i gyrraedd dy sefyllfa bresennol?
I gloi, mae'r cwrs Arwain a Rheoli Peirianneg wedi bod yn hanfodol wrth lywio fy nhaith a'm sbarduno i gyrraedd fy sefyllfa bresennol. Mae ei ddylanwad yn amlwg o'm cyflawniadau proffesiynol, gan gynnwys cyfradd lwyddo o 100% o ran ceisiadau am swyddi a chynigion swyddi, yn ogystal â'm twf personol, megis cynnal cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd a bod yn drefnus. Mae'r cwrs wedi rhoi'r sgiliau a'r fframweithiau angenrheidiol i'm galluogi i ragori fel arweinydd, rheolwr prosiectau ac aelod da o dîm. Drwy groesawu egwyddorion y cwrs Arwain a Rheoli Peirianneg, rwyf wedi llwyddo i ymdrin â heriau cymhleth, cyflawni canlyniadau llwyddiannus a meithrin bywyd proffesiynol boddhaus a chytbwys.

Myfyrwyr ELM yn Seda UK

Archwilio arddulliau arwain, prosesau, a phwysigrwydd sgiliau meddal.

Myfyrwyr ELM yn Seda UK

Modiwlau

Yn seiliedig ar anghenion modern byd diwydiant, mae'r cwrs hwn yn cynnwys modiwlau allweddol sy'n cwmpasu themâu rheoli eang, ochr yn ochr â phynciau mwy manwl sy'n canolbwyntio'n benodol ar beirianneg.

Mae'r cwrs yn cynnwys 180 credyd o fodiwlau gorfodol. Mae'r rhain yn cynnwys pump modiwl 10 credyd ar bynciau sy'n cynnwys strategaeth, gweithgynhyrchu clyfar a rheoli prosiectau, dau fodiwl 20 credyd ar seiliau rheolaeth a'r economi gylchol, a modiwl 30 credyd ar arweinyddiaeth a strategaeth, a phrosiect arweinyddiaeth a rheoli gwerth 60 credyd, a fydd yn cael ei gyflwyno mewn cyd-destun Peirianneg.