Rheolaeth Peirianneg Gynaliadwy, MSc

Gwella ansawdd bywyd drwy ddatrysiadau peirianneg

Pobl yn gweithio ar brosiect yn yr awyr

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein gradd MSc gyffrous sydd wedi'i hailddatblygu yn ymateb yn uniongyrchol i'r galw brys am fath newydd o weithiwr proffesiynol – y rhai hynny sy'n meddu ar sgiliau rheoli peirianneg craidd ac sy'n deall cynaliadwyedd, sydd am wneud gwahaniaeth ac, yn bwysicach byth, sy'n meddu ar y sgiliau, y creadigrwydd a'r mentergarwch i arwain newid cadarnhaol. 

Wedi'i ddatblygu a'i ddarparu mewn partneriaeth â Sefydliad y Brenin, bydd y cwrs hwn yn galluogi myfyrwyr i feithrin dealltwriaeth ryngddisgyblaethol o rôl byd busnes, rheoli, peirianneg a chymunedau byd-eang wrth greu dyfodol cynaliadwy. Gan gynnig mynediad at randdeiliaid dylanwadol a meddylwyr blaenllaw mewn datblygu a rheoli cynaliadwy, nod yr MSc yw datblygu cymuned o arweinwyr sy'n meddu ar y canlynol: 

  • Yr wybodaeth a'r gallu i werthuso a datblygu atebion posib i heriau byd-eang cymhleth megis newid yn yr hinsawdd.
  • Dealltwriaeth ddofn o sut gall datblygu cynaliadwy a'r cymwyseddau cysylltiedig ddarparu fframwaith ar gyfer newid.
  • Dealltwriaeth eang o rôl technoleg peirianneg wrth fynd i'r afael â heriau i gynaliadwyedd.
  • Y gallu i ddefnyddio prosesau ac egwyddorion rheoli i ysgogi newid cadarnhaol.

Bydd y cwrs hwn yn meithrin y sgiliau i'ch galluogi i reoli ac arwain y gwaith o fynd i'r afael â heriau byd-eang a symud yn barhaus tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy.  

Pam Rheolaeth Peirianneg Gynaliadwy yn Abertawe?

Mae gan Abertawe enw da yn fyd-eang am waith ymchwil arloesol ym maes peirianneg ac ymrwymiad cadarn i ddatblygu rhyngwladol, a adlewyrchir gan brosiectau symudedd myfyrwyr diweddar mewn gwledydd megis Zambia, Liberia a De Affrica.

Mae'r staff addysgu'n arweinwyr byd-eang cydnabyddedig yn eu maes, gan gynghori llywodraethau a byd diwydiant ar gynaliadwyedd, sero net a chylcholdeb.

Wyddech chi?

Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i gyfrannu at Invent for the Planet (IFTP), profiad dylunio dwys a gynhelir gan Texas A&M, sy'n ennyn brwdfrydedd myfyrwyr mewn prifysgolion ledled y byd ac yn eu herio i ddatrys rhai o broblemau mwyaf enbyd y byd mewn 48 awr yn unig.

Yn 2023, enillodd myfyrwyr o Abertawe rownd derfynol fawr IFTP am eu pwmp gwrthdroi osmosis a allai droi dŵr gwenwynig o afonydd yn ddŵr y gellid ei yfed i gymunedau ffermio gwledig.

Students at Princes Foundation Graduation with Prince Charles

Eich Profiad Rheolaeth Peirianneg Gynaliadwy

Bydd myfyrwyr ar y cwrs hwn yn rhyngweithio â rhanddeiliaid dylanwadol a meddylwyr blaenllaw mewn datblygu cynaliadwy. Bydd yn eich galluogi i gynyddu eich rhwydwaith a'ch cyfleoedd cyflogaeth.

Mae gan y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg gymuned ryngwladol o fwy na 1,900 o fyfyrwyr ôl-raddedig a 120 o staff ymchwil.

Byddwch yn gallu defnyddio ein llyfrgell ar y safle, sydd ar agor 24 awr y dydd, labordai datblygedig, rhaglen o ddarlithoedd gwadd a gynhelir drwy gydol y flwyddyn ac ystafelloedd gwaith penodedig i fyfyrwyr ôl-raddedig.

Cyfleoedd Cyflogaeth Rheolaeth Peirianneg Gynaliadwy

Bydd graddedigion y radd hon yn Abertawe mewn sefyllfa dda i gael cyflogaeth arbenigol. Gallai eich dyfodol gynnwys rolau mewn rheoli peirianneg, ymgynghori, cynaliadwyedd corfforaethol, polisi llywodraethau a chymorth rhyngwladol.

Modiwlau

Mae'r radd MSc hon yn cynnwys modiwlau ar reoli, gweithgynhyrchu clyfar, technolegau peirianneg gynaliadwy, economi gylchol, datblygu rhyngwladol, ymgysylltu â'r gymuned, rhoi datblygu cynaliadwy ar waith, a thraethawd hir unigol gwerth 60 o gredydau, gan gynnig profiad dysgu gwirioneddol ryngddisgyblaethol.