Marine Restoration and Conservation, MSc

Mynd i'r afael â'r bwlch sgiliau cynyddol ar gyfer adfer a chadwraeth morol

Coral

Trosolwg o'r Cwrs

Mae Prifysgol Abertawe yn cyflwyno'r radd MSc gyntaf yn y byd mewn Adfer a Chadwraeth Morol; rhaglen unigryw a chyffrous dros 12 mis sy'n canolbwyntio ar addysgu i chi’r sgiliau i fynd i'r afael ag un o heriau amgylcheddol mwyaf ein hamser - adfer ecosystemau ein cefnforoedd.

Mae'r MSc hon mewn sefyllfa dda i ddiwallu angen byd-eang pwysig. Mae'r Cenhedloedd Unedig wedi nodi'r degawd hwn fel y degawd ar gyfer adfer ecosystemau, gyda llawer o fframweithiau cenedlaethol bellach yn amlygu'r angen dybryd am adfer cynefinoedd cefnforoedd, ac i genhedloedd fodloni’r nodau lleihau carbon. Mae'r rhaglen hefyd yn cydymffurfio'n hwylus â chynlluniau adfer a chadwraeth morol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, gan sicrhau dyfodol cadarn i raddedigion.

Mae lleoliad glan môr y brifysgol yn creu labordy adfer byw ar eich stepen drws gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol a llong ymchwil sy'n arbennig ar gyfer addysgu arfordirol ac ar y môr a dysgu arbrofol i roi i chi sgiliau craidd mewn adfer a chadwraeth morol. Byddwch yn gweithio gyda gwyddonwyr blaenllaw ar brosiectau megis adfer morwellt a morfeydd heli, gan ennill profiad cadwraeth gwerthfawr.

Yn un o gyfleusterau dyfrol mwyaf cynhwysfawr Ewrop, byddwch yn datblygu sgiliau hwsmonaeth ddyfrol ac ymchwil gymhwysol ar draws rhywogaethau sy'n sensitif o ran cadwraeth ac o bwys masnachol. Mae modiwlau'n cynnig cyfleoedd i astudio rhywogaethau dan fygythiad yn eu cynefinoedd naturiol, llunio cynlluniau gweithredu adfer rhywogaethau a chymryd rhan mewn mentrau cadwraeth forol. Byddwch hefyd yn cynnal gwaith ymchwil annibynnol ar bynciau adfer allweddol, gan wella eich arbenigedd mewn adfer a chadwraeth morol.

Gydag ymwybyddiaeth a chyllid byd-eang yn cynyddu ar gyfer adfer ecosystemau, mae'r MSc hon yn galluogi gwyddonwyr morol y dyfodol i feithrin y sgiliau a'r profiad i adfer a diogelu ein cefnforoedd ar gyfer cenedlaethau.

Pam Adfer a Chadwraeth Morol yn Abertawe?

Mae Prifysgol Abertawe mewn sefyllfa unigryw i arwain yn y maes hwn o ganlyniad i'r lleoliad, ei chyfleusterau a'i harbenigedd mewn adfer a chadwraeth morol. Mae ein lleoliad ar arfordir Cymru'n cynnig mynediad uniongyrchol at amgylcheddau morol ac arfordirol amrywiol, safleoedd cadwraeth ac adfer. Mae ein llong ymchwil a’n cyfleusterau o'r radd flaenaf ar gyfer hwsmonaeth ddyfrol gynaliadwy ac adfer morwellt yn cefnogi addysgu ac ymchwil, a bydd myfyrwyr yn cael eu haddysgu a'u goruchwylio gan ymchwilwyr o'r radd flaenaf mewn adfer a chadwraeth morol.

Mae Prifysgol Abertawe wedi cynnig rhaglen Bioleg y Môr am dros hanner can mlynedd, wedi'i chefnogi gan dîm rhyngddisgyblaethol o arbenigwyr. Mae'r adran wedi arwain prosiectau allweddol, gan gynnwys Handbook of the Marine Fauna of Northern Europe a chwarae rolau blaenllaw wrth gefnogi mentrau cyfathrebu gwyddonol pwysig (National Geographic Great Migrations, BBC Blue Planet) a bod yn arweinwyr byd-eang wrth ddeall symudiadau ecoleg fertebratau morol. Mae'r Biowyddorau hefyd yn gartref i'r cyfleusterau ymchwil ddyfrol rheoledig mwyaf yn Ewrop, y Ganolfan Ymchwil Ddyfrol Gynaliadwy (CSAR), sy'n cefnogi rhywogaethau sy'n sensitif o ran cadwraeth ac sy'n bwysig yn fasnachol drwy gynnal ymchwil i les, cyfoethogi, maeth a chynhyrchu larfaol.

Mae’r MSc hwn wedi cael ei chreu mewn ymateb uniongyrchol i'r angen brys am weithwyr proffesiynol ac ymchwilwyr hyfforddedig mewn cadwraeth ac adfer morol a rheoli adnoddau mewn ffordd gynaliadwy. Mae biolegwyr y môr ym Mhrifysgol Abertawe wedi bod ar flaen y gad o ran ymchwil ac arloesi mewn adfer morol. Maen nhw wedi arwain y rhaglen adfer morwellt fawr gyntaf o'i bath yn y DU, wedi datblygu canllawiau ar gyfer adfer morwellt ac yn arwain y ffordd wrth ddatblygu'r wyddoniaeth ar gyfer y pwnc hwn yn rhyngwladol. Nid yw'r gwaith hwn yn gyfyngedig i forwellt ac mae wedi cynnwys cyfraniadau o bwys at adfer morfeydd heli a'r wyddoniaeth sy'n sail i'r gwaith hwn yng Nghymru ac ymhellach i ffwrdd. Mae gwaith ymchwil i gefnogi adfer mangreoedd hefyd ar waith yn Y Gambia lle mae ein tîm yn gweithio gyda'r cymunedau lleol i wella cynefinoedd morol diraddiedig. O dan y diffiniad cyffredinol o adfer ecolegol ceir yr angen i ystyried adfer ecosystemau. Mae ein tîm yn cynnwys ymchwilwyr ar flaen y gad o ran mentrau cadwraeth forol i wella ac adfywio rhywogaethau a chynefinoedd morol presennol.

Mae ein cryfderau ymchwil yn cynnwys mentrau adfer ar gyfer cynefinoedd pwysig megis morwellt, riffiau wystrys a morfeydd heli, a datblygu sylfeini mathemategol a meintiol ar gyfer dad-ddofi tir. Mae Abertawe wedi sefydlu rhaglenni blaengar megis Prosiect Morwellt a’r Grŵp Fishbee, sy'n arwain ymchwil sy'n torri tir newydd ar adfer ecosystemau a chynaliadwyedd ecosystemau carbon glas. Mae'r arbenigedd hwn, ynghyd â'n cysylltiadau sefydledig â byd diwydiant a phartneriaid rheoleiddiol, yn gosod Abertawe fel arweinydd byd-eang o ran addysg cadwraeth ac adfer morol.

Mae Campws Parc Singleton yn cynnig labordai arbenigol ychwanegol, ystafelloedd cyfrifiadura a mannau ymchwil, tra mae dysgu yn y maes yn cael ei gyfoethogi drwy ddefnyddio llong ymchwil arfordirol y brifysgol, y Mary Anning, sy'n eich galluogi i gynnal arolygon ar y môr, asesu cynefinoedd a monitro rhywogaethau.

Byddwch yn astudio yn ein Hadran y Biowyddorau, sy'n cael ei chydnabod yn rhyngwladol am ei gwaith ymchwil, a rhestru fel a ganlyn:

  • Ymysg y 301-350 o raglenni gorau o'i bath yn y byd (Tabl Prifysgolion y Byd QS 2024), a
  • 100% o'n gwaith ymchwil o safon fyd-eang ac yn rhagorol yn rhyngwladol (REF 2021), a
  • Chydnabyddir bod 97% o'n hallbynnau ymchwil yn arwain y ffordd yn fyd-eang ac yn rhagorol yn rhyngwladol (REF 2021)

Eich Profiad Cadwraeth ac Adfer Morol

Mae'r rhaglen hon yn pwysleisio dysgu rhyngweithiol ac ymarferol drwy waith maes a phrosiectau labordy, gan eich annog i feithrin sgiliau allweddol sy'n eich galluogi chi i fynd i'r afael â heriau adfer a chadwraeth morol go iawn. 

Mae'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer rhaglenni adfer a chadwraeth llwyddiannus wedi cael eu hadolygu a'u cynnwys yn y cwrs MSc, er enghraifft hwsmonaeth anifeiliaid, meithrin larfaol, mapio cynefinoedd a monitro a modelu amgylcheddol gyda GIS, arolygon maes, asesiadau o'r Rhestr Goch, cynlluniau gweithredu i adfer rhywogaethau, ystadegau a dylunio arbrofol, ysgrifennu a chyfathrebu gwyddonol. Er bod llawer o sgiliau allweddol yn rhan o raglenni gradd cyfan, rydym yn galluogi myfyrwyr i feithrin gafael cryf ar themâu o bwys a'u heffaith ar adfer a chadwraeth.

Yn ogystal, byddwch hefyd yn meithrin arbenigedd hanfodol ym meysydd cadwraeth ac adfer drwy ddefnyddio technegau asesu a gydnabyddir yn rhyngwladol (e.e Rhestr Goch o Rywogaethau dan Fygythiad yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (IUC), cyfrannu at waith maes sy'n canolbwyntio ar gynllunio cadwraeth mewn amgylcheddau morol trofannol neu fwyn, ac ymgymryd â gwaith maes adfer mewn ecosystemau mwyn.

Bydd mentora academaidd rheolaidd, sesiynau datblygu gyrfa a digwyddiadau rhwydweithio â gweithwyr proffesiynol y diwydiant yn sicrhau eich bod yn cael eich cefnogi'n academaidd ac yn broffesiynol.

Drwy gydol y rhaglen hon, byddwch yn:

  • Arwain y ffordd mewn cadwraeth forol. Dysgu technegau adfer a chadwraeth sydd ar flaen y gad, o ailadeiladu dolydd morwellt i adfer morfeydd heli ac ailadeiladu poblogaethau o bysgod.
  • Cael profiad ymarferol. Cymryd rhan mewn gwaith maes, ymchwil mewn labordai a llunio rhaglenni adfer rhywogaethau, gan ennill sgiliau go iawn y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi.
  • Gallu gwerthuso ffynonellau gwyddonol i wneud penderfyniadau ar gadwraeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
  • Rhoi gwyddoniaeth ar waith. Deall sut mae adfer yn cyd-fynd â mentrau byd-eang o bwys, megis Degawd y CU ar Adfer Ecosystemau a Chyfraith Adfer yr UE.
  • Adeiladu gyrfa ag effaith. Paratoi am rolau cyffrous mewn sector sy'n tyfu'n gyflym.

Cyfleoedd Cyflogaeth mewn Adfer a Chadwraeth Morol

Mae newidiadau mewn polisi a mentrau ariannu byd-eang yn cynyddu'r angen yn gyflym am wyddonwyr cadwraeth ac adfer hyfforddedig, gyda biliynau o bunnoedd yn cael eu haddo gan lywodraethau i ddiogelu ein cynefinoedd.

Ar ben hyn, wrth i lywodraeth y DU symud tuag at weithredu ei gofynion budd net morol, ac wrth i Lywodraeth Cymru arwain ymdrechion yn y maes, gan gynnwys Cynllun Gweithredu Morwellt cenedlaethol cyntaf y byd, bydd y galw am wyddonwyr adfer medrus ond yn cynyddu.

Nod yr MSc mewn Adfer a Chadwraeth Morol yw eich datblygu i fod yn fyfyriwr graddedig hynod fedrus ac entrepreneuraidd sy'n gallu addasu, sy'n barod i fynd i'r afael â heriau adfer a chadw ecosystemau morol, a manteisio ar y cyfleoedd cyflogaeth cyffrous a buddiol sy'n cael eu cynnig yn y maes.

Drwy gyfuno arbenigedd gwyddonol, arloesedd, arweinyddiaeth a gallu proffesiynol, byddwch wedi'ch paratoi’n dda am yrfaoedd yn y maes hwn sy'n datblygu'n gyflym. Mae cyfleoedd cyflogaeth posibl i raddedigion yn cynnwys y canlynol:

 

Sefydliadau Cadwraeth ac Amgylcheddol

  • Cyrff Anllywodraethol Rhyngwladol (WWF, The Nature Conservancy, Project Seagrass, a Conservation International)
  • Elusennau Cadwraeth Forol (Marine Conservation Society, Blue Marine Foundation)
  • Prosiectau Adfer Arfordirol a Morol ledled y byd

Rolau mewn Llywodraeth a Pholisi

  • Cyrff Llywodraeth y DU (DEFRA, Natural England, Marine Management Organisation)
  • Llywodraeth Cymru (Cyfoeth Naturiol Cymru, Rolau mewn Polisi Morol a Chynaliadwyedd)
  • Y Comisiwn Ewropeaidd a Chyrff Rheoleiddiol Rhyngwladol (UNEP, IUCN, IPBES)
  • Asiantaethau Rheoli a Gorfodi Ardaloedd Morol Gwarchodedig

Ymgynghoriaeth Amgylcheddol a Morol

  • Asesiadau o Effaith Amgylcheddol ac Ymgynghoriaethau Adfer Ecolegol (CEFAS, APEM, Grŵp RPS)
  • Ymgynghoriaeth Hinsawdd a Charbon Glas (Yr Ymddiriedolaeth Garbon, Cwmnïau Ymgynghori ar Gynaliadwyedd)
  • Rheoli Pysgodfeydd a Rolau Ymgynghori ar Adnoddau Morol

Ymchwil a'r Byd Academaidd

  • PhD a swyddi ymchwil mewn cadwraeth, adfer morol a Gwyddoniaeth Carbon Glas
  • Rolau mewn Prifysgolion a Sefydliadau Ymchwil (Y Ganolfan ar gyfer Ymchwil Ddyfrol Gynaliadwy, Labordy Morol Plymouth)
  • Rolau Cyfathrebu Gwyddonol ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd

Cynaliadwyedd Corfforaethol a Diwydiant

  • Diwydiannau Morol ac Arfordirol sy’n Mabwysiadu Adfer (Gwynt Alltraeth, Dyframaethu, Pysgodfeydd Cynaliadwy)
  • Adrannau Amgylcheddol a Chynaliadwyedd Corfforaethol (cwmnïau fel; Deloitte, Nestlé, Mars, Aviva)
  • Rolau yn y Farchnad Credydau Carbon a Bioamrywiaeth sy'n gysylltiedig ag Ariannu Adfer Morol

Modiwlau

Drwy gydol y rhaglen, byddwch yn astudio 180 o gredydau, sy'n cynnwys chwe modiwl 20 credyd a addysgir (pedwar gorfodol a dau dewisol), gyda phrosiect ymchwil unigryw 60 credyd i gloi rhwng mis Mehefin a mis Medi.