Trosolwg o'r Cwrs
Bydd y rhaglen Fesitr yn cyflwyno safbwyntiau cymdeithasol a diwylliannol ar faterion amgylcheddol a newidiadau byd-eang ar droed yn y byd o'n cwmpas. Gan gynnig ystod o ymagweddau beirniadol a dulliau ymchwil o faes daearyddiaeth dynol ynghyd â’r gwyddorau cymdeithasol, byddwn yn dysgu sut mae ymdrin â nifer o argyfyngau trawsbynciol, gan gynnwys mudo a newid hinsawdd, diogelwch dynol ac anghydraddoldeb byd-eang.