Trosolwg o'r Cwrs
Mae MA Hanes yr Henfyd a Diwylliant Clasurol yn gwrs deinamig sy’n canolbwyntio ar hanes a diwylliant yr Hen Roeg, y byd Rhufeinig, y Lefant, a’r Dwyrain Agos gan ddefnyddio arbenigedd ysgolheigion a gydnabyddir yn rhyngwladol.
ac cwrs canolbwyntiau ar mae'r Hanes a Diwylliant; yn mae'r oddi wrth Gwlad Groeg i. Bydd y pynciau a astudir efallai yn cynnwys y berthynas rhwng y byd Groegaidd-Rufeinig a chymdeithasau Affro-Ewrasia cyfagos, ynghyd â’r dadlau diweddaraf ynghylch y driniaeth o dreftadaeth deunyddiau'r cynfyd yn y byd modern. Gallwch arbenigo mewn hanes neu lenyddiaeth, neu gyfuniad o’r ddau. Gallwch hefyd astudio Groeg yr henfyd a Lladin.
Cewch eich annog i feithrin ymwybyddiaeth fethodolegol wrth i chi gael eich cyflwyno i gysyniadau allweddol a thechnegau dehongli sydd wedi llywio’r gwaith o astudio gwareiddiadau hynafol yn y byd modern.
Drwy gydol y cwrs byddwch yn meithrin y sgiliau ymchwil arbenigol sydd eu hangen ar gyfer gwaith lefel uchel mewn unrhyw faes o Hanes yr Henfyd a Gwareiddiad Clasurol.
Mae Hanes yr Henfyd yn Abertawe wedi'i restru:
51-100 safle QS Prifysgol y Byd gorau (2024)