Cyfathrebu, Arferion y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus, MA

Datblygwch sgiliau ar draws arferion y cyfryngau amrywiol

Llun o fyfyrwyr yn ffilmio cyfweliad

Trosolwg o'r Cwrs

Mae’r MA Cyfathrebu, Arferion y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus ym Mhrifysgol Abertawe'n cynnig cymysgedd deinameg o ddamcaniaeth feirniadol uwch a phrofiad ymarferol, gan sicrhau bod gennych chi'r sgiliau i ddadansoddi, creu ac arloesi ar draws newyddiaduraeth, cysylltiadau cyhoeddus a chyfryngau digidol. 

Rydym wedi dylunio ein rhaglen amser llawn un blwyddyn o hyd (gyda'r opsiwn i astudio dros gyfnod o 2 neu 3 blynedd yn rhan-amser) er mwyn darparu dealltwriaeth gynhwysfawr o ddamcaniaeth y cyfryngau a'i chymwysiadau ymarferol, gan sicrhau eich bod chi'n hyddysg mewn agweddau hanfodol ar y cyfryngau a chyfathrebu, ac yn medru cymhwyso'r wybodaeth hon i'ch bywyd gwaith yn hyderus. 

Mae gan ein cwrs ffocws canolog ar Gysylltiadau Cyhoeddus, a byddwch yn meithrin arbenigedd mewn cyfathrebu strategol, rheoli brand, cyswllt â’r cyfryngau, a rheoli enw da. Drwy ddadansoddi astudiaethau achos o'r byd go iawn yn feirniadol, byddwch chi'n deall y cymhlethdodau ynghlwm â chreu naratifau sy'n llawn perswâd, rheoli argyfyngau, a datblygu ymgyrchoedd sy'n apelio at gynulleidfaoedd amrywiol, gan ddeall ystyriaethau moesegol ac effaith gymdeithasol eich gwaith.

P'un a ydych chi'n berson graddedig newydd sy'n dymuno gwella eich sgiliau a'ch cyflogadwyedd drwy astudiaethau ôl-raddedig, neu'n weithiwr proffesiynol ym myd diwydiant sy'n dymuno gwella eich gyrfa, bydd ein cwrs yn datblygu eich llythrennedd yn y cyfryngau a'ch sgiliau dadansoddi'n feirniadol, yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau creu cynnwys safonol yn y diwydiant a sgiliau hyrwyddo ac yn sicrhau bod gennych chi'r gallu i fabwysiadu agweddau arloesol, moesegol a chynhwysol ar gynhyrchu at y cyfryngau a chyfathrebu, yn barod ar gyfer gyrfa ddeinameg yn niwydiannau'r cyfryngau.

Pam Cyfathrebu, Arferion y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus yn Abertawe?

Yn ein holl raglenni Cyfryngau a Chyfathrebu, rydym yn ymdrechu i gael ein harwain gan ymchwil, ein hysgogi gan ymarfer, ac i ganolbwyntio ar addysgu, gan sicrhau bod ein cyrsiau'n adlewyrchu damcaniaeth ac ymarfer cyfryngau a chyfathrebu sy'n esblygu'n barhaus, yn genedlaethol ac yn fyd-eang.

Mae ein cydweithwyr academaidd yn ymchwilwyr gweithredol ym maes y Cyfryngau a Chyfathrebu, gan ddefnyddio eu gwybodaeth i lywio eu haddysgu ar newidiadau i dirwedd y cyfryngau, ei heffaith ar gysylltiadau cyhoeddus a newyddiaduriaeth, a'r angen i sefydliadau ryngweithio'n uniongyrchol â'r cyhoedd a rhanddeiliaid. 

Mae ein cysylltiadau agos gyda byd diwydiant yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd profiad gwaith i chi, gan gynnwys interniaethau a phrosiectau gyda thâl a rhai gwirfoddol. Byddwch chi'n cael cipolwg ar y diwydiant ac yn rhoi eich gwybodaeth ddamcaniaethol ar waith mewn amgylcheddau byd go iawn, ond byddwch chi hefyd yn cael cyngor gyrfaoedd gan weithwyr proffesiynol ac yn meithrin cysylltiadau yn y sector, sydd wedi arwain at gyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol i lawer o'n graddedigion.

Eich Profiad Cyfathrebu, Arferion y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus

Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch chi'n astudio amrywiaeth eang o ymarferion y cyfryngau gan gynnwys creu cynnwys, cynhyrchu amlgyfrwng, strategaethau'r cyfryngau digidol a defnyddio technolegau cyfathrebu sy’n dod i’r amlwg, gan weithio gydag offer a thechnoleg safonol y diwydiant i gynhyrchu portffolios ar lefel broffesiynol. 

Elfen allweddol o'ch astudiaethau fydd y prif brosiect neu'r traethawd hir, a fydd werth 60 credyd. Bydd y prosiect yn eich galluogi i ddatblygu arbenigedd mewn maes diddordeb penodol, ac rydym yn eich annog i feddwl am y pwnc yr hoffech chi ganolbwyntio arno ym maes cyfathrebu, y cyfryngau, cysylltiadau cyhoeddus neu ymarfer creadigol cyn i chi ddechrau eich astudiaethau, er mwyn sicrhau bod gennych fan cychwyn da fel y gallwch fireinio eich prosiect gyda chymorth goruchwyliwr y traethawd hir.

Cyfleoedd Cyflogaeth Cyfathrebu, Arferion y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus

Pan fyddwch chi wedi cwblhau'r cwrs, bydd gennych chi'r wybodaeth ddamcaniaethol, y sgiliau ymarferol a'r profiad byd go iawn sy'n creu cyfathrebwr aml-ddimensiwn. 

Byddwch chi'n medru rhoi gwybodaeth a sgiliau sy'n berthnasol i ddiwydiant ar waith yn hyderus, mynd i'r afael â heriau byd-eang a heriau cenedlaethol yng Nghymru, megis tueddiadau yn y cyfryngau, amrywiaeth ddiwylliannol ac ystyriaethau moesegol, a chyfathrebu'n effeithiol ar blatfformau ysgrifenedig, llafar a digidol. 

Bydd eich rhagolygon cyflogadwyedd yn cael eu cryfhau drwy brofiad ymarferol o ddatblygu cyfathrebiadau strategol, ymgyrchoedd hyrwyddo, straeon chwaraeon a newyddion, podlediadau, hyrwyddo a fideos dogfennol, yn ogystal â phrofiad lleoliad gwaith ymarferol gan weithio mewn amgylchedd cyfathrebiadau. 

Mae graddedigion blaenorol wedi mynd ymlaen i weithio mewn amrywiaeth o ddiwydiannau creadigol gan gynnwys newyddiaduriaeth, cyhoeddusrwydd, darlledu, marchnata a hysbysebu.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cynnig Nodweddiadol

2.2