Hanes, MA

Defnyddio'r gorffennol, i lywio dy ddyfodol

Delwedd o fyfyrwyr ym Mharc Singleton

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r MA mewn Hanes yn eich galluogi i ddarganfod cyfnodau gwahanol diddorol mewn hanes, o'r canoloesoedd ymlaen.

Gallwch astudio Hanes Prydain, Ewrop, America neu Asia, a gefnogir gan arbenigedd amrywiol haneswyr sy'n gweithio ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae'r modiwlau ychwanegol yn cwmpasu hanes celf a diwylliant, ymerodraeth, rhywedd, gwleidyddiaeth, crefydd, rhywioldeb a gwyddoniaeth.

Byddwch yn cael budd o nifer anarferol o uchel o haneswyr yn Abertawe, Canolfan Callaghan ar gyfer Astudio Gwrthdaro, Pŵer ac Ymerodraethau, a Chanolfan Richard Burton.

Pam Hanes yn Abertawe?

Mae gan hanes ym Mhrifysgol Abertawe broffil sefydledig ac mae'n denu nifer fawr o haneswyr uchel eu parch i astudio, ymchwilio ac addysgu.

Byddwch yn astudio ar ein campws syfrdanol ym Mharc Singleton, mewn parcdir sy'n edrych dros Fae Abertawe ar gyrion Penrhyn Gŵyr.

O fewn yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu, mae'r Ganolfan Graddedigion, a gynlluniwyd i hyrwyddo gweithgarwch ymchwil unigol a chydweithredol o safon ryngwladol, a darparu amgylchedd cefnogol i'r rhai sy'n dilyn ymchwil ôl-raddedig ac astudio meistr a addysgir.

Byddwch yn ymuno ag adran flaenllaw, sy’n adnabyddus am ei hymchwil a’i harbenigedd:

  • Ystyrir bod 100% o effaith ein hymchwil yn arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol (REF 2021)

Eich Profiad Hanes

Byddwch yn astudio nifer benodol o fodiwlau 20-credyd dewisol cyn cyflawni prosiect traethawd hir 60-credyd o'ch dewis chi yn ystod ail hanner y cwrs.

Mae'r modiwlau amrywiol yn cynnwys dulliau hanesyddol, darganfod Hen Saesneg, Cymru ers 1945, Abertawe a'r môr, cyfathrebu hanes a darllen llawysgrifau canoloesol. Gall fod cyfle hefyd i gael lleoliad gwaith treftadaeth, sy'n werth 20 credyd.

Yn Abertawe cewch wledd o adnoddau ymchwil at ddiben astudiaethau ôl-raddedig. Yn ogystal â'r hyn a gedwir yn llyfrgell y Brifysgol yn gyffredinol, mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth o fewn pellter teithio ac rydym yn gweithio'n agos gydag Orielau ac Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru. 

Mae ystafell gyffredin ôl-raddedig ac ystafell adnoddau electronig ar gael yn Adeilad James Callaghan.

Cyfleoedd Cyflogaeth Hanes

Byddwch yn meithrin sgiliau trosglwyddadwy arbennig o dda ym maes ymchwil, ysgrifennu a siarad, wrth i chi fagu hyder yn cyflwyno eich syniadau mewn ffyrdd gwahanol.

Mae graddedigion o’r cwrs hwn yn ymuno ag amrywiaeth o ddiwydiannau gan gynnwys:

  • Addysg, y llywodraeth marchnata a hysbysebu. Maent hefyd yn mynd ati i astudio graddau ymchwil a dilyn gyrfa academaidd.

Modiwlau

Byddwch yn astudio nifer benodol o fodiwlau 20-credyd cyn cyflawni prosiect traethawd hir 60-credyd o'ch dewis chi. Mae'r modiwlau yn cynnwys dulliau hanesyddol, darganfod Hen Saesneg, Cymru ers 1945, Abertawe a'r môr, cyfathrebu hanes a darllen llawysgrifau canoloesol.