Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r MA mewn Hanes Cyhoeddus a Threftadaeth yn rhaglen meistr hyblyg sydd wedi'i chynllunio i gynnig hyfforddiant academaidd i'r rhai sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd ymchwil, a'r sgiliau perthnasol sydd eu hangen i ymgymryd â rolau yn y sector treftadaeth neu sectorau cysylltiedig. Mae hefyd yn addas iawn i'r rhai sy'n bwriadu symud ymlaen i astudiaethau lefel doethuriaeth cyn ymuno â'r sector mewn rôl guradurol lefel uwch.
Mae amrywiaeth o fodiwlau ysgogol yn cynnwys themâu sy'n cwmpasu dealltwriaeth o orielau, llyfrgelloedd, archifau ac amgueddfeydd, treftadaeth gwrthdaro, llawysgrifau canoloesol, a hanes cyfoes. Mae'r natur hyblyg yn golygu y gellir teilwra'r rhaglen i gyd-fynd â'ch diddordebau unigol (er enghraifft, ffocws ar Wlad Groeg a Rhufain yr Henfyd, neu ffocws ar hanes lleol cyfoes).
Drwy gydol eich astudiaethau, fe'ch anogir i feithrin eich ymwybyddiaeth ddadansoddol a methodolegol o gysyniadau allweddol, a dulliau o gyfleu'r gorffennol i wahanol gynulleidfaoedd cyhoeddus. Byddwch chi hefyd yn dysgu mwy am hanes treftadaeth, a rôl fywiog hanes a cyhoeddus a threftadaeth mewn dadleuon byd-eang.
Agwedd allweddol yw'r cyfle i chi gysylltu â sefydliadau treftadaeth allanol, ag â phrosiectau staff ym maes treftadaeth a hanes cyhoeddus, gan eich galluogi i gael profiad ymarferol mewn lleoliadau perthnasol.
Mae'r rhaglen yn mynd rhagddi mewn modd rhesymegol, gan symud ymlaen o drafodaeth ddamcaniaethol yn yr ystafell ddosbarth am dreftadaeth a hanes cyhoeddus hyd at gymhwyso'r wybodaeth hon yn ymarferol yn amgylchedd y gweithle.
Byddwch chi wedyn yn cwblhau'r rhaglen drwy dreulio semester yn astudio dramor, gan fod y radd MA Estynedig yn cael ei chyflwyno mewn partneriaeth â Phrifysgol Talaith Appalachian.