Sgip i brif cynnwys
Hafan Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
Hafan Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
  1. Hafan
  2. Ôl-raddedig
  3. Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir
  4. Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu
  5. Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Cyfieithu ar y Pryd
  6. Cyfieithu Proffesiynol (Estynedig, gydag Université Grenoble Alpes), MA
  • Astudio
    • Astudio
      Students studying in Singleton Park campus library

      Dechreuwch eich taith yma

      Astudiwch gyda ni
    • Israddedig
      • Cyrsiau
      • Llety
      • Clirio yn Abertawe
      • Canllaw Rhieni a Gwarcheidwaid i'r Brifysgol
      • Diwrnodau Agored
      • Sut i wneud cais
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Prosbectws Israddedig
      • Cofrestrwch am Diweddariadau Ebost
    • Ôl-raddedig
      • Cyrsiau
      • Rhaglenni Ymchwil
      • Diwrnod Agored
      • Sut i Wneud Cais
      • Llwybr carlam i fyfyrwyr presennol
      • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
      • Y Brifysgol
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Cofrestrwch am Diweddariadau Ebost
    • Bywyd Myfyriwr
      • Astudio
      • Pam Abertawe
      • Storïau Myfyrwyr
      • Bywyd y campws
      • Chwaraeon
      • Cynaliadwyedd - Cymrwch Ran
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
      • Taith Rhithwir
      • Beth yw Gŵyl y Glas?
    • Gwasanaethau i Fyfyrwyr
      • Llyfrgelloedd ac Archifau
      • BywydCampws
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe
      • Menter Myfyrwyr
      • Canolfan Llwyddiant Academaidd
      • Academi Hywel Teifi
      • Llesiant myfyrwyr
  • Rhyngwladol
  • Ein Ymchwil
    • Gwnewch Ymchwil Gyda Ni
      • Cefnogi eich taith ymchwil ôl-raddedig
      • Dod o hyd i raglen ymchwil ol-raddedig
      • Sut i wneud cais am raglen ymchwil Ôl-raddedig
      • Hyfforddiant a Datblygiad i Oruchwylwyr a Myfyrwyr Ymchwil
    • Archwiliwch ein hymchwil
      • Uchafbwyntiau Ymchwil
      • Ymchwil yn y cyfadrannau
      • Momentum - ein cylchgrawn ymchwil
      • Podlediad Archwilio Problemau Byd-eang
    • Darganfyddwch ein hymchwil
      • Cyfeiriadur Arbenigedd
      • Dod o hyd i bapur ymchwil
      • Manteisio ar ein Harbenigedd ym maes Ymchwil a Datblygu
    • Ein Hamgylchedd Ymchwil
      • Uniondeb Ymchwil: Moeseg a Llywodraethu
      • Effaith ymchwil
      • Hyfforddiant a datblygiad
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
    • Ein Cenhadaeth Ddinesig
      • Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe
      • Gŵyl Bod yn Ddynol
      • Oriel Science
      • Byd Copr Cymru
  • Busnes
    • Cydweithredwch â ni
      • Datblygu eich prosiectau
      • Manteisio ar wybodaeth ein hymgynghorwyr
      • Cyfleoedd Cyllid YDA
    • Recriwtio ein Doniau
      • Recriwtio ein Myfyrwyr a'n Graddedigion
      • Cwrdd â’n myfyrwyr
      • Hysbysebu eich swyddi gwag
    • Datblygu eich Gweithlu
      • Gweld ein cyrsiau
    • Defnyddio ein Gwasanaethau Masnachol
      • Gofyn am gymorth gyda phrosiect
      • Hysbysebu eich sefydliad
      • Dod yn gyflenwr
    • Llogi ein Cyfleusterau
      • Cael mynediad at ein cyfleusterau ymchwil
      • Cynnal digwyddiad
    • Gweithio gyda ni
      • Ymuno â’n rhwydwaith cydweithredol
      • Cysylltu â’n tîm ymgysylltu â busnesau
      • Cadw mewn cysylltiad
  • Cyn-fyfyrwyr
  • Y Brifysgol
    • Swyddfa'r Wasg
      Female student working with steel

      Newyddion a Ymchwil Diweddaraf straeon

      Darllenwch y newyddion diweddaraf yma
    • Y Brifysgol
      • Amdanom ni
      • Sut i ddod o hyd i ni
      • Dyfarniadau a Safleoedd y Brifysgol
      • Ein Cyfadrannau
      • Swyddfa'r Wasg
      • Swyddi a Gweithio yn Abertawe
      • Cynaliadwyedd
      • Teithio i’r campws ac oddi yno
      • Cysylltu â ni
    • Chwaraeon
      • Bod yn Actif
      • Cynghreiriau Cymdeithasol
      • Clybiau Chwaraeon
      • Perfformiad
      • Cyfleusterau
      • Nawdd
      • Newyddion
    • Bywyd y campws
      • Llety
      • Arlwyo
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Y Neuadd Fawr
      • Taliesin
      • Creu Taliesin
      • Ein Tiroedd
      • Cerddoriaeth
      • Rhithdaith
    • Ein Cyfadrannau
      • Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
      • Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
      • Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
      • Y Coleg
    • Academïau
      • Academi Iechyd a Llesiant
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA)
      • Academi Hywel Teifi
  • Newyddion a Digwyddiadau
  • Cefnogaeth a Lles
  1. Hafan
  2. Ôl-raddedig
  3. Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir
  4. Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu
  5. Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Cyfieithu ar y Pryd
  6. Cyfieithu Proffesiynol (Estynedig, gydag Université Grenoble Alpes), MA

Cyfieithu Proffesiynol (Estynedig, gydag Université Grenoble Alpes), MA

Ymgeisio

O ble ydych chi'n gwneud cais?

Dewiswch Llawn Amser neu Ran Amser.

Dewiswch y math o gwrs

Dewiswch y dyddiad dechrau.

  • Medi 2025

    Gwnewch Gais Nawr

Dewiswch Llawn Amser neu Ran Amser.

Dewiswch y math o gwrs

Dewiswch y dyddiad dechrau.

  • Medi 2025

    Gwnewch Gais Nawr
Cadwch Mewn Cysylltiad

Manylion Allweddol y Cwrs

MA 2 Flynedd Llawn Amser
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol (gweler dewisiadau arall)
2:1
Lleoliad
Campws Parc Singleton
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2025 £ 6,300
MA 2 Flynedd Llawn Amser
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol
2:1 - Gwybodaeth Rhagor
Lleoliad
Campws Parc Singleton
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2025 £ 13,750

Beth am fod yn Ieithydd Proffesiynol a Datblygu Sgiliau mewn Dwy Wlad Wahanol

Student in translation lab.
  • Trosolwg
  • Rhagor
    • Related Pages
    • Back
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a ddysgir yn dod yn fuan
    • Diwrnodau Agored
    • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
    • Ffioedd ac Ariannu
    • Cyrsiau Trosi
    • Sut i Wneud Cais
    • Rhaglenni Ymchwil
    • Llety
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Peirianneg Awyrofod,Sifil, Drydanol a Mecanyddol
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Biowyddorau, Daearyddiaeth
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu
      • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Clasuron, Hanes Henfyd, Eifftoleg
      • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Iaith Saesneg, TESOL, Ieithyddiaeth Gymhwysol
      • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Llenyddiaeth Saesneg, Ysgrifennu Creadigol
      • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Hanes
      • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Cyfryngau, Cyfathrebu, Newyddiaduraeth a Cysylltiadau Cyhoeddus
      • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Cyfieithu ar y Pryd
        • MA Cyfieithu Proffesiynol (Estynedig)
        • MA Cyfieithu Proffesiynol
        • MA Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd (Estynedig)
        • MA Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd
        • MA Cyfieithu Proffesiynol, (Estynedig, ar y cyd ag Université Grenoble Alpes)
        • Cyfieithu a Chyfieithu ar y pryd (estynedig gydag Université Grenoble Alpes)
      • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Cymraeg
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Peirianneg a Gwyddorau Cymhwysol
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir iechyd a gofal cymdeithasol
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Reolaeth
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Fathemateg a Chyfrifiadureg
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Feddygaeth
    • Cyrsiau Ôlraddedig Ysgol Seicoleg
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
    • Llwybr carlam i fyfyrwyr presennol

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r radd MA ddwbl hon mewn Cyfieithu Arbenigol yn cael ei chynnig drwy bartneriaeth unigryw rhwng ysgolion cyfieithu uchel eu parch Prifysgol Abertawe ac Université Grenoble Alpes (UGA), sef trydedd brifysgol fwyaf Ffrainc. Mae’n rhoi cyfle i chi astudio a hyfforddi ar gyfer ymarfer proffesiynol mewn dau amgylchedd academaidd gwahanol, a fydd yn datblygu eich rhwydweithiau cyfieithu yn y ddwy wlad.

Mae'r radd MA Ddwbl hon ar gael i ymgeiswyr â chymhwysedd ieithyddol brodorol yn Saesneg ac yn Ffrangeg yn unig, neu i’r rhai sy’n agos at y safon honno, ac mae'n cyfuno elfennau allweddol o radd MA mewn Cyfieithu Proffesiynol Abertawe (Blwyddyn 1) a gradd Meistr LEA parcours Traduction spécialisée Université Grenoble Alpes (Blwyddyn 2), y cynlluniwyd y ddwy ohonynt i gyflawni'r ystod gyflawn o gymwyseddau proffesiynol a amlinellwyd yn Fframwaith Cymwyseddau 2017 yr EMT. Mae'r radd MA Ddwbl ar gael i ieithyddion rhagorol, p'un a yw eu cymwysterau yn gysylltiedig ag ieithoedd neu mewn meysydd pwnc eraill lle maent yn cynllunio datblygu arbenigedd cyfieithu. Wrth gwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn graddio â graddau Meistr o'r ddwy brifysgol. Yn ogystal â'r Saesneg a'r Ffrangeg, gall myfyrwyr hefyd ddewis astudio cyfieithu yn naill ai'r Almaeneg neu'r Sbaeneg, mewn cyfuniad â'r Saesneg ym Mlwyddyn 1 a'r Ffrangeg ym Mlwyddyn 2.

Nifer gyfyngedig iawn o leoedd sydd a chânt eu dyrannu ar sail teilyngdod gan Fwrdd Astudiaethau ar y Cyd, ar sail y ffurflen gais a'r trawsgrifiad(au), geirdaon a chyfweliad (yn ôl yr angen). Caiff ffioedd eu talu ar gyfradd bresennol myfyrwyr y DU, Ewrop neu ryngwladol i’r sefydliad lle rydych chi'n astudio ar y pryd (h.y. i Abertawe ym Mlwyddyn 1, i UGA ym Mlwyddyn 2).

Pam Cyfieithu Proffesiynol (Estynedig, gydag Université Grenoble Alpes) yn Abertawe?

Mae gan Brifysgol Abertawe enw da’n rhyngwladol am gyfieithu a chyfieithu ar y pryd proffesiynol. Roeddem yn un o aelodau-sefydlu'r Rhwydwaith Ewropeaidd Graddau Meistr mewn Cyfieithu (2009-2020), sef nod ansawdd a sefydlwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd i annog lledaenu arfer gorau mewn hyfforddiant i gyfieithwyr. Mae ein rhaglenni ôl-raddedig wedi bod yn destun datblygu a diweddaru parhaus ers lansio'r MA mewn Cyfieithu gyda Thechnoleg Iaith yn 2020. Mae gennym ni gyfleusterau o'r radd flaenaf (sef labordai cyfieithu gyda'r feddalwedd ddiweddaraf, ac ystafell cyfieithu ar y pryd mewn cynadleddau sy’n gydnaws â safon y proffesiwn). Rydym ni'n perthyn i raglenni academaidd cwmnïoedd sy’n cynhyrchu offer cyfieithu â chymorth cyfrifiadur o safon y proffesiwn megis Trados, Memsource, memoQ a Lilt, y mae'r ddwy gyntaf yn cynnig profion Ardystio am ddim i'n myfyrwyr mewn perthynas â'u meddalwedd nhw, yn ogystal â'r Gymdeithas Defnyddwyr Awtomeiddio Cyfieithu a'r Gymdeithas Globaleiddio a Lleoleiddio. Rydym ni'n cydweithio'n agos â chyrff proffesiynol y DU sef Sefydliad Siartredig yr Ieithyddion (mae ein modiwl cyfieithu ar y pryf ar gyfer Iechyd yn eich paratoi i sefyll eu Diploma mewn Cyfieithu ar y Pryd yn y Gwasanaethau Cyhoeddus) a'r Sefydliad Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd. Rydym ni hefyd yn gweithio gyda llawer o ddarparwyr gwasanaethau iaith mawr a bach yn y DU ac yn Ewrop i sefydlu a monitro interniaethau myfyrwyr.

Mae Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol wedi'i lleoli ar ein campws bywiog ym Mharc Singleton, mewn parcdir trawiadol sy'n edrych dros Fae Abertawe a'i draeth pum milltir o hyd. Mae opsiynau llety, cyfleusterau chwaraeon a chyfleoedd cymdeithasol rhagorol yn golygu y gall Abertawe gynnig profiad perffaith i ôl-raddedigion.

Mae gradd Meistr Langues étrangères appliquées, parcours Traduction spécialisée multilingue  Université Grenoble Alpes hefyd yn un o aelodau-sefydlu’r Rhwydwaith EMT. Mae'r UFR de Langues Etrangères yn cynnwys tua 2,500 o fyfyrwyr ar bob lefel sy’n astudio am amrywiaeth o raddau mewn ieithoedd, llenyddiaeth, gwareiddiad, busnes rhyngwladol etc. yn ogystal â chyfieithu, a rhyw 170 o staff addysgu. Mae gan yr Adran gyfleusterau technegol rhagorol ar gyfer Astudiaethau Cyfieithu, a llyfrgell Ieithoedd Modern â chasgliad helaeth o lenyddiaeth Cyfieithu. Mae hefyd yn cynnal cysylltiadau gwaith cryf â'r Société Française des Traducteurs, a llawer o gwmnïoedd cyfieithu yn ardal Grenoble a'r tu hwnt yn Ffrainc.

Eich Profiad Cyfieithu Proffesiynol (Estynedig, gydag Université Grenoble Alpes)

Blwyddyn 1, Abertawe (120 o gredydau/60 ECTS)

Modiwlau Gorfodol: Mae gwaith cyfieithu uwch yn Ffrangeg a Saesneg (gallwch ddewis Almaeneg neu Sbaeneg a Saesneg hefyd ) wedi'i ategu gan hyfforddiant mewn offer Cyfieithu â Chymorth Cyfrifiadur (CAT) o safon y proffesiwn (MLRM03). Mae'r modiwl 'Sylfeini (MLTM05) yn cynnwys damcaniaeth cyfieithu a chyfieithu ar y pryd, gan ddarparu trosolwg o sefyllfa gyfredol y diwydiant gwasanaethau iaith a'i rolau proffesiynol.

Opsiynau: Gallwch ddewis arbenigo mewn cyfieithu ar y pryd ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus (MLTM07), cyfieithu clyweledol (MLTM19), technolegau cyfieithu gan gynnwys offer meddalwedd lleoleiddio (MLTM11) neu reoli terminoleg (MLTM18). Yn y modiwl Efelychu Swyddfa Gyfieithu (MLTM17), rydych chi'n sefydlu ac yn cynnal cwmni cyfieithu realistig, gan weithio gyda darparwr gwasanaethau iaith (LSP) lleol a myfyrwyr MA eraill ledled Ewrop yn y rhwydwaith INSTB. Gallwch  hefyd astudio cwrs iaith dwys ar lefel Dechreuwyr neu Ganolradd. Fel arall, mae Dysgu ac Addysgu Iaith â Chymorth Technoleg (ALEM28) yn darparu sgiliau addysgeg iaith y mae galw mawr amdanynt.

Blwyddyn 2, Grenoble (60 ECTS/120 o gredydau)

Mae cyrsiau gorfodol a dewisol yn dod o raglen Blwyddyn 2 UGA (M2) (mae myfyrwyr heb ail iaith dramor yn cymryd dosbarthiadau M1 yn lle’r cyrsiau cyfieithu hynny). Mae UGA yn arbenigo mewn cyfieithu Technegol, Cyfreithiol a Busnes a therminoleg, wedi’i ategu gan seminarau Gwyddoniaeth a'r Gyfraith. 

Lleoliad gwaith rhan-amser 3-6 mis (o fis Ebrill), wedi'i asesu yn UGA gan adroddiad interniaeth ac arholiad llafar (yn Ffrangeg neu'n Saesneg).

Cyfleoedd Cyflogaeth Cyfieithu Proffesiynol (Estynedig, gydag Université Grenoble Alpes)

Bydd y radd MA alwedigaethol mewn Cyfieithu Proffesiynol yn gwella eich rhagolygon gyrfa ym maes cyfieithu yn sylweddol. Yn ystod eich astudiaethau, neu eich interniaeth, gallwch wneud cysylltiadau pwysig ar gyfer eich gwaith yn y dyfodol.

Mae graddedigion o’r cwrs hwn yn cyflawni amrywiaeth o rolau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd gwahanol. Mae llawer hefyd yn gwneud graddau ymchwil ac yn dilyn gyrfa academaidd.

Modiwlau

Byddwch yn astudio nifer benodol o fodiwlau gorfodol a dewisol 20 credyd ar gyfieithu a dehongli uwch, cyn astudio modiwl 60 credyd ar ddau gyfieithiad estynedig, neu draethawd hir academaidd, neu interniaeth 13 wythnos mewn cwmni cyfieithu.

Mae'r modiwlau'n cwmpasu cyfieithu a dehongli uwch ar gyfer nifer o ieithoedd gwahanol mewn cyd-destunau a diwydiannau gwahanol. Ceir modiwlau arbenigol ar gyfer dehongli busnes, iechyd a'r gyfraith.

Modiwlau

Blwyddyn 1 (Lefel 7T)

FHEQ 7 Taught Masters / PGDip / PGCert

Mae myfyrwyr yn dewis 120 o gredydau o'r opsiynau canlynol:

Modiwlau Gorfodol
Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y Modiwl
Technology-enhanced TranslationSeptember-January (TB1)20MLTM03
Foundations of Translation and InterpretingSeptember-January (TB1)20MLTM05
Localisation and Transcreation in the AI Age September-January (TB1)20MLTM11
Specialised Translation Language 1January-June (TB2)20MLTM34
Modiwlau Opsiynol

Dewiswch Yn union 40 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:

SYLWER :Please select two of the following.

Optional module choices 
Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y ModiwlCanllawiau
Research in Translation StudiesJanuary-June (TB2)20ML-M20
Simulated Translation BureauJanuary-June (TB2)20MLTM17
Audiovisual TranslationJanuary-June (TB2)20MLTM19
Information MiningJanuary-June (TB2)20MLTM29
Specialised Translation Language 2January-June (TB2)20MLTM35

Blwyddyn 2 (Lefel 7D)

FHEQ 7 Taught Masters Dissertation

Mae myfyrwyr yn dewis 120 o gredydau o'r opsiynau canlynol:

Heb ddod o hyd i un

Modiwlau Opsiynol

Dewiswch Yn union 120 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:

SYLWER :Students take the following two modules in their second year.

Year Abroad Modules 
Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y ModiwlCanllawiau
Semester Abroad - UGA (Grenoble)September-January (TB1)60MLTM91
Semester Abroad - UGA (Grenoble)January-June (TB2)60MLTM91A

Gofynion Mynediad

Y gofyniad mynediad arferol yw 2.1 gradd mewn (Ffrangeg - Saesneg) Cyfieithu, (Ffrangeg - Saesneg) Iaith neu bwnc cysylltiedig (neu gyfwerth dramor). Rhaid bod yn siaradwr Ffrangeg rhugl neu'n gallu dangos gallu yn yr iaith Ffrangeg. Ar gyfer ymgeiswyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf, mae angen IELTS 6.5 yn gyffredinol (gyda lleiafswm o 5.5 ym mhob cydran) neu brawf Saesneg cyfatebol.

 

 

Sut byddwch chi'n cael eich dysgu

Nid yw'r rhaglen hon ar gael yn y modd rhan-amser.

Blwyddyn 1 - Mae myfyrwyr yn cymryd tri modiwl 20 credyd (10 ECTS) ym mhob un o ddau semester academaidd. Mae tri modiwl gorfodol: Sylfeini Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd, Offer Cyfieithu, ac un modiwl Cyfieithu Uwch o'r ystod o barau iaith a restrir uchod. Yna mae myfyrwyr yn dewis tri modiwl dewisol.

Blwyddyn 2 - Mae myfyrwyr yn dilyn pedwar cwrs yn UGA gwerth cyfanswm o 30 ECTS y semester.

 

Fel rhan o'r modiwl Cyfieithu â Chymorth Technoleg, byddwch chi'n dysgu sut i ddefnyddio rhaglenni cyfieithu â chymorth cyfrifiadur allweddol megis Trados Studio a Phrase.

MFL Partner Logos

Darpariaeth Gymraeg

Dim darpariaeth

Yn anffodus, does dim darpariaeth cyfrwng Cymraeg ffurfiol ar y cwrs hwn ar hyn o bryd. Os hoffet ti roi gwybod i ni bod gennyt ddiddordeb mewn dilyn elfen o'r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg yna e-bostia astudio@abertawe.ac.uk i nodi hynny gan nodi'r flwyddyn mynediad ac fe wnawn ein gorau i weld beth sy'n bosib.

Er nad yw'r cwrs hwn yn darparu cynnwys academaidd trwy'r Gymraeg ar hyn o bryd, mae'r Brifysgol yn gallu darparu'r canlynol ar dy gyfer, ac mae cefnogaeth ar gael i ti trwy Academi Hywel Teifi:

  • Cyfweliad trwy gyfrwng y Gymraeg wrth wneud cais am le.
  • Gohebiaeth bersonol yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog.
  • Cyfle i lunio a chyflwyno gwaith cwrs neu sefyll arholiadau trwy gyfrwng y Gymraeg (hyd yn oed os wyt ti wedi dewis astudio yn Saesneg), a bydd dy waith yn cael ei asesu yn Gymraeg.
  • Tiwtor Personol Cymraeg ei iaith.
  • Cefnogaeth un i un i wella dy sgiliau Cymraeg academaidd.
  • Cyfle i ennill cymhwyster ychwanegol sy'n dystiolaeth o dy allu yn y Gymraeg i gyflogwyr y dyfodol.
  • Aelodaeth o Gangen Prifysgol Abertawe o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Cer i'r dudalen Mae Gen i Hawl am wybodaeth bellach am hawliau myfyrwyr.

Cwrdd â'ch Darlithwyr

Addysgir ein graddau gan arbenigwyr sydd â gwybodaeth helaeth iawn i’w rhannu â’n myfyrwyr.

Mae rhagor o wybodaeth am ein harbenigedd academaidd ar ein tudalennau staff.

Ffioedd Dysgu

Dyddiad Dechrau D.U. Rhyngwladol
Medi 2024 £ 6,000 £ 13,050
Medi 2025 £ 6,300 £ 13,750

Mae ffioedd dysgu ar gyfer blynyddoedd o astudiaeth ar ôl eich blwyddyn gyntaf yn amodol ar gynnydd o 3%.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Myfyrwyr cyfredol: Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Ariannu ac Ysgoloriaethau

Mae’n bosib eich bod yn gymwys i gael cymorth ariannol tuag at eich astudiaethau.

Os ydych yn fyfyriwr y DU neu'r UE sy’n dechrau ar radd Meistr ym Mhrifysgol Abertawe, efallai y byddwch yn gymwys i gyflwyno cais am arian gan y Llywodraeth i helpu tuag at gostau eich astudiaethau. I gael mwy o wybodaeth, ewch i'n tudalen benthyciadau Ôl-raddedig.

I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd eraill am gymorth ariannol sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael ar gael gan Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog. I ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch i dudalen Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Academi Hywel Teifi

Mae myfyrwyr nad ydynt yn ddinasyddion Ffrainc yn gymwys i wneud cais am Ysgoloriaeth Meistr ‘Initiative d’excellence’ (IDEX) i dalu ffioedd a chostau byw am ail flwyddyn yr MA Dwbl yn Grenoble. Am fanylion pellach, gweler https://bourses-etudes-en-france.net/bourses-idex-universite-grenoble-alpes-en-france-2021/ .

Costau Ychwanegol

Bydd mynediad i'ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i'ch galluogi i ymgysylltu'n llawn â'ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i'w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu'ch dyfais.

Efallai y byddwch chi'n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • Teithio i'r campws ac oddi yno
  • Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
  • Prynu llyfrau neu werslyfrau
  • Gwisgoedd ar gyfer seremonïau graddio

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe'n cefnogi myfyrwyr Prifysgol Abertawe ar bob cam yn eu taith yrfaol.

Mae ein gwasanaethau cymorth gyrfaoedd yn cynnwys:

  • Gweithdai cyflogadwyedd, sgyrsiau gan gyflogwyr, digwyddiadau pwrpasol a ffeiriau gyrfaoedd
  • Cyngor ac arweiniad unigol gan Ymgynghorwyr Gyrfaoedd proffesiynol
  • Cymorth i chwilio am swyddi, interniaethau, lleoliadau gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli
  • Mynediad i adnoddau gwybodaeth am amrywiaeth eang o bynciau rheoli gyrfa
  • Cyllid i gefnogi cyfleoedd interniaeth i fyfyrwyr a digwyddiadau Cymdeithasau/Clybiau Myfyrwyr

Rydym hefyd yn darparu cymorth a chyngor i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe am hyd at bum mlynedd ar ôl iddynt raddio.

Cymorth Academaidd

Yn ogystal â chymorth pwnc penodol gan staff addysgu'r coleg a'ch tiwtor personol, mae'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn darparu cyrsiau, gweithdai a chymorth un-i-un mewn meysydd fel:

  • Ysgrifennu academaidd
  • Mathemateg ac ystadegau
  • Meddwl critigol
  • Rheoli amser
  • Sgiliau digidol
  • Sgiliau cyflwyno
  • Cymryd nodiadau
  • Technegau adolygu, dysgu ar gof ac arholiadau
  • Sgiliau Saesneg (os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf)

Yn ogystal, os oes gennych Anhawster Dysgu Penodol (ADP/SpLD), anabledd, cyflwr iechyd meddwl neu gyflwr meddygol, mae gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd Diwtoriaid Arbenigol i gefnogi'ch dysgu. Bydd y tiwtoriaid yn gweithio ochr yn ochr â'r Swyddfa Anabledd a'r Gwasanaeth Lles i gefnogi eich holl anghenion a gofynion tra byddwch yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe.

Sut i wneud cais

Sylwch: rhaid i bob ymgeisydd ar gyfer yr MA Dwbl hwn gwblhau ffurflenni cais ar-lein y DDAU sefydliad dyfarnu.

Ar gyfer Prifysgol Abertawe: gwnewch gais trwy system ymgeisio ganolog y Brifysgol.

Am arweiniad pellach ewch i'n tudalennau ar sut i wneud cais am astudiaeth ôl-raddedig.

Myfyrwyr yr UE - mae gwybodaeth fisa a mewnfudo ar gael a bydd yn cael ei diweddaru'n rheolaidd ar ein tudalen gwybodaeth i fyfyrwyr yr UE.

Ar gyfer Université Grenoble Alpes, crëwch gyfrif ar y system eCandidat.

Dyddiadau Cau Ymgeisio

Argymhellwn eich bod chi'n cyflwyno eich cais am le ar ein cyrsiau mor fuan â phosibl cyn ein dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno cais. Bydd cyrsiau'n cau yn gynharach na'r dyddiadau cau a restrir os caiff yr holl leoedd eu llenwi. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen we Dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno cais.

Gwybodaeth Ychwanegol

Fel arfer gallwn dderbyn myfyrwyr ar sail eu ffurflen gais a thystlythyrau yn unig, ond rydym yn cadw'r hawl i gynnal cyfweliad ychwanegol (o bell neu wyneb yn wyneb) yn ôl yr angen.

 
 
 
 
 
 
  • Trosolwg
  • Related Pages
  • Back
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a ddysgir yn dod yn fuan
  • Diwrnodau Agored
  • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
  • Ffioedd ac Ariannu
  • Cyrsiau Trosi
  • Sut i Wneud Cais
  • Rhaglenni Ymchwil
  • Llety
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Peirianneg Awyrofod,Sifil, Drydanol a Mecanyddol
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Biowyddorau, Daearyddiaeth
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Clasuron, Hanes Henfyd, Eifftoleg
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Iaith Saesneg, TESOL, Ieithyddiaeth Gymhwysol
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Llenyddiaeth Saesneg, Ysgrifennu Creadigol
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Hanes
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Cyfryngau, Cyfathrebu, Newyddiaduraeth a Cysylltiadau Cyhoeddus
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Cyfieithu ar y Pryd
      • MA Cyfieithu Proffesiynol (Estynedig)
      • MA Cyfieithu Proffesiynol
      • MA Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd (Estynedig)
      • MA Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd
      • MA Cyfieithu Proffesiynol, (Estynedig, ar y cyd ag Université Grenoble Alpes)
      • Cyfieithu a Chyfieithu ar y pryd (estynedig gydag Université Grenoble Alpes)
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Cymraeg
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Peirianneg a Gwyddorau Cymhwysol
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir iechyd a gofal cymdeithasol
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Reolaeth
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Fathemateg a Chyfrifiadureg
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Feddygaeth
  • Cyrsiau Ôlraddedig Ysgol Seicoleg
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
  • Llwybr carlam i fyfyrwyr presennol
Ymgeisio

Darganfyddwch eich prifysgol

Ewch ar rithdaith

Two students walking around campus

Prosbectws ol-raddedig

Prosbectws ol-raddedig

Astudio trwy'r Gymraeg

welsh medium

Sgwrsiwch â Myfyriwr Cyfredol

Dau fyfyriwr wrth gyfrifiadur
Ymwadiad Rhaglen
  • Cysylltwch â ni
  • Swyddi
  • Cyfadrannau
  • Y Wasg
  • Iechyd a Diogelwch
  • Ymwadiad a Hawlfraint
  • Map o'r Safle
  • Preifatrwydd a Chwcis
  • Datganiad Caethwasiaeth Fodern
  • Mae Prifysgol Abertawe yn elusen gofrestredig, Rhif 1138342