Cyfieithu Proffesiynol (Estynedig), MA

Hyfforddwch i fod yn Ieithydd Proffesiynol

students speaking together

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd yr MA Estynedig mewn Cyfieithu Proffesiynol (MAPT) yn eich helpu i ddatblygu o fod yn siaradwr iaith dramor ardderchog i fod yn ieithydd proffesiynol llwyddiannus.

Mae MAPT (Cyfieithu gyda Thechnoleg Iaith yn flaenorol) yn rhan o Rwydwaith Gradd Meistr mewn Cyfieithu Ewrop, sydd â 64 o aelodau ledled Ewrop ar hyn o bryd. Prifysgol Abertawe yw'r unig aelod yng Nghymru.

Gall y rhaglen 240 credyd hon, sy'n cydymffurfio â Bologna, gael ei hastudio ar sail amser llawn dros gyfnod o 15 i 21 mis, neu'n rhan amser dros bedair blynedd. Gall ail ran y cwrs gael ei hastudio dramor.

Byddwch yn gwneud gwaith cyfieithu uwch mewn un neu ddau bâr o ieithoedd ar destun cyffredinol, gweinyddol a thechnegol, ynghyd â hyfforddiant mewn adnoddau Cyfieithu â Chymorth Cyfrifiadur sy'n cyrraedd safon y diwydiant.

Mae rhan gyntaf y radd yn cynnwys cyfleoedd i feithrin sgiliau arbenigol mewn dehongli i wasanaethau cyhoeddus, cyfieithu clywedol, cyfieithu peirianyddol a lleoli meddalwedd, rheoli terminoleg, creu fideo neu gyhoeddi digidol.

Ymhlith yr opsiynau arbenigol eraill mae dehongli, technolegau pellach, terminoleg, amlgyfryngau ac iaith newydd/canolraddol.

Yn y modiwl profiad gwaith ym maes cyfieithu byddwch yn efelychu cwmnïau cyfieithu drwy weithio gyda busnesau cyfieithu lleol a chyflawni gwaith comisiynu go iawn i safonau proffesiynol.

Yn ail ran y radd cewch ddewis o ddau gyfieithiad estynedig, neu draethawd hir academaidd, neu interniaeth 13 wythnos gyda chwmni cyfieithu yn y DU neu dramor.

Parau iaith (yn amodol ar alw):

  • O'r Saesneg i: Arabeg, Tsieinëeg (Mandarin), Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Sbaeneg, Cymraeg
  • I'r Saesneg o: Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Sbaeneg, Cymraeg

Pam Cyfieithu Proffesiynol (Estynedig) yn Abertawe?

Fel yr unig aelod o Rwydwaith Gradd Meistr mewn Cyfieithu Ewrop yng Nghymru, mae gan Brifysgol Abertawe enw da ym maes cyfieithu proffesiynol. Mae gennym gyfleusterau o'r radd flaenaf sy'n cyrraedd safon y diwydiant, ynghyd â rhwydwaith byd-eang cadarn o sefydliadau allanol i helpu i lywio eich astudiaethau.

Mae Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau wedi’i leoli ar ein campws ysbrydoledig ym Mharc Singleton, ar barcdir sy’n edrych dros Fae Abertawe.

Wedi’i dylunio i hyrwyddo gweithgareddau ymchwil unigol a chydweithredol o safon ryngwladol, mae'r Ganolfan i Raddedigion yn darparu amgylchedd cefnogol ar gyfer ymchwil ôl-raddedig ac astudio cwrs meistr a addysgir.

Mae’n cynnig hyfforddiant ôl-raddedig er mwyn gwella datblygiad academaidd a phroffesiynol, ac mae’n hwyluso rhaglenni seminar, gweithdai a chynadleddau rhyngwladol.

Eich Profiad Cyfieithu Proffesiynol (Estynedig)

Byddwch yn astudio nifer benodol o fodiwlau gorfodol a dewisol 20 credyd ar gyfieithu a dehongli uwch, cyn astudio modiwl 60 credyd ar ddau gyfieithiad estynedig, neu draethawd hir academaidd, neu interniaeth 13 wythnos mewn cwmni cyfieithu.

Mae'r cwrs estynedig hwn yn cynnwys 60 credyd arall o fodiwlau rhan un, neu ail brosiect.

Mae'r modiwlau'n cwmpasu cyfieithu a dehongli uwch ar gyfer nifer o ieithoedd gwahanol mewn cyd-destunau a diwydiannau gwahanol. Ceir modiwlau arbenigol ar gyfer dehongli busnes, iechyd a'r gyfraith.

Ymhlith yr opsiynau arbenigol eraill mae dehongli, technolegau pellach, terminoleg, amlgyfryngau ac iaith newydd/canolraddol.

Yn yr ail ran, mae'r opsiwn cyfieithu estynedig yn cynnig y cyfle i chi ddatblygu maes arbenigol. Rhaid i un cyfieithiad fod yn dechnegol a chael ei wneud gan ddefnyddio prif adnodd CAT.

Gall yr opsiwn traethawd hir ganolbwyntio ar bwnc astudiaethau cyfieithu, fel cymharu dau neu fwy o gyfieithiadau a gyhoeddwyd, neu ymchwil i derminoleg mewn maes arbenigol, neu ymchwilio i dechnoleg cyfieithu.

Gall yr opsiwn interniaeth gael ei gyflawni yn y DU neu dramor. Mae ein rhestr hir o gysylltiadau proffesiynol ar gael i chi ond rhaid i chi wneud eich ceisiadau eich hunain a llwyddo mewn profion derbyn.

Opsiwn ail gam unigryw yw cynllun blwyddyn dramor METS. Yn yr opsiwn hwn byddwch yn astudio 50 credyd mewn dwy ysgol gyfieithu bartner dramor, gydag adroddiad 20 credyd ar gyfer Abertawe yn arwain at ddyfarniad dwbl: MA Abertawe yn ogystal â Diploma METS.

Cyfleoedd Cyflogaeth Cyfieithu Proffesiynol (Estynedig)

Bydd yr MA galwedigaethol mewn Cyfieithu Proffesiynol yn gwella eich rhagolygon gyrfa ym maes cyfieithu yn sylweddol. Yn ystod eich astudiaethau, neu eich interniaeth, efallai y gwnewch gysylltiadau pwysig ar gyfer eich gwaith yn y dyfodol.

Mae graddedigion o’r cwrs hwn yn cyflawni amrywiaeth o rolau cyfieithu a dehongli gwahanol. Mae llawer hefyd yn gwneud graddau ymchwil ac yn dilyn gyrfa academaidd.

Modiwlau

Byddwch yn astudio nifer benodol o fodiwlau gorfodol a dewisol 20 credyd ar gyfieithu a dehongli uwch, cyn astudio modiwl 60 credyd ar ddau gyfieithiad estynedig, neu draethawd hir academaidd, neu interniaeth 13 wythnos mewn cwmni cyfieithu.

Mae'r modiwlau'n cwmpasu cyfieithu a dehongli uwch ar gyfer nifer o ieithoedd gwahanol mewn cyd-destunau a diwydiannau gwahanol. Ceir modiwlau arbenigol ar gyfer dehongli busnes, iechyd a'r gyfraith.

Mae'r cwrs estynedig hwn yn cynnwys 60 credyd arall o fodiwlau rhan un, neu ail brosiect. Opsiwn ail gam unigryw yw blwyddyn dramor METS, lle byddwch yn astudio 50 credyd mewn dwy ysgol gyfieithu bartner, gan arwain at ddyfarniad dwbl: MA Abertawe yn ogystal â Diploma METS.