Trosolwg o'r Cwrs
Mae mynediad mis Medi 2024 ar gyfer y cwrs hwn wedi'i atal.
Mae'r MA mewn Llenyddiaeth Saesneg Cymru yn rhaglen hynod ddiddorol sy'n archwilio datblygiad iaith a llenyddiaeth Saesneg yng Nghymru.
Arweinir yr addysgu gan y Ganolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru (CREW), ac mae modiwlau ysgogol yn mynd i'r afael â dimensiynau gwleidyddol, rhyweddol a llenyddol llenyddiaeth yng Nghymru.
Gallwch ddewis modiwlau o blith cyrsiau MA arbenigol eraill fel yr MA Llenyddiaeth Saesneg a'r MA Ysgrifennu Creadigol, yn ogystal â modiwlau llenyddiaeth o raglenni MA eraill a addysgir yng Ngholeg y Celfyddydau a'r Dyniaethau.
Bydd prosiect traethawd hir 60-credyd yn ail hanner y cwrs yn canolbwyntio ar bwnc o'ch dewis.