Trosolwg o'r Cwrs
Mae diogelwch, trais a gwrthdaro bellach yn rhan ganolog o wleidyddiaeth ryngwladol a thrafodaethau am bolisi datblygu. Mae deall y byd modern yn mynnu gwerthfawrogi gwrthdaro a thrais yn llawn.
Ar y cwrs hwn byddwch yn edrych ar y sylw a roddir i faterion diogelwch 'traddodiadol' fel rhyfel a gwrthdaro, yn ogystal â materion 'anhraddodiadol' fel sicrwydd economaidd, diogelu'r amgylchedd, iechyd a mudo.
Byddwch yn derbyn cyflwyniad uwch i brif ymagweddau astudiaethau diogelwch.Mae'r rhain yn cwmpasu realaeth, theori diogelu, dulliau ffeministaidd, theori feirniadol ac ôl-strwythuroldeb.
Mae'r MA Estynedig (EMA) yn gymhwyster ôl-raddedig 240 o gredydau sy'n gyfwerth â 120 o ECTS (System Trosglwyddo Credydau Ewropeaidd) ac felly mae'n gymhwyster Meistr cydnabyddedig ledled yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r EMA yn MA safonol yn y DU gyda 60 credyd ychwanegol (30 ETCS) ac ymgymerir â'r gwaith cwrs ychwanegol hwn dros un semester mewn sefydliad partner dramor. Felly, nid yn unig mae'r EMA yn gymhwyster ôl-raddedig cydnabyddedig yn yr UE, ond mae'n ychwanegu profiad o astudio dramor, gan wella elfen cyflogadwyedd y cymhwyster.
Ein sefydliad partner ar gyfer EMA mewn Diogelwch a Datblygu Rhyngwladol yw Adran Astudiaethau Rhanbarthol a Rhyngwladol Prifysgol Oklahoma. Mae Adran Astudiaethau Rhanbarthol a Rhyngwladol Prifysgol Oklahoma yn uned academaidd gyffrous sy'n tyfu'n gyflym. Mae ganddi oddeutu ugain o aelodau cyfadrannol ac, yn hanfodol i'r EMA hon, mae ganddynt arbenigedd ym meysydd diogelwch a datblygu. Sefydlwyd Prifysgol Oklahoma ym 1890 ac mae mwy na 30,000 o fyfyrwyr yn cofrestru ynddi. Mae wedi cyrraedd haen uchaf gweithgaredd ymchwil Sefydliad Carnegie, ac mae ymhlith y 400 o brifysgolion gorau’r byd yn ôl tablau'r Times Higher.