Trosolwg o'r Cwrs
Bydd y dystysgrif ôl-raddedig unigryw hon yn sicrhau bod gennych chi'r wybodaeth a'r sgiliau proffesiynol sy'n ofynnol gan Lywodraeth Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru er mwyn i'w hasiantaeth nhw eich ystyried i fod yn warantedig ac i ymarfer fel Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Proffesiynol (AMHP). Mae AMHP yn gyfrifol am asesu person sydd ag anhwylder meddwl pan yn ystyried yr angen i gyflwyno cais i'r person gael ei dderbyn i ysbyty seiciatrig.
Mae'r Dystysgrif Ôl-raddedig (PGCert) Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP) yn gymhwyster lefel 7 60 credyd a astudir dros gyfnod o flwyddyn ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'n sicrhau bod gan ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol profiadol a chofrestredig yr wybodaeth a'r sgiliau proffesiynol sy'n ofynnol gan Lywodraeth Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru er mwyn iddynt gael eu henwebu am gymeradwyaeth AMHP gan yr Awdurdod Lleol sy'n eu cyflogi.
Rhaid i ymgeiswyr cymwys fod yn weithwyr cymdeithasol, nyrsys iechyd meddwl neu nyrsys anabledd dysgu, yn therapyddion galwedigaethol neu’n seicolegwyr siartredig cofrestredig, a rhaid iddynt gael eu noddi'n ffurfiol gan yr Awdurdod Lleol sy'n eu cyflogi.
Mae Gweithwyr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy yn cydlynu asesiadau statudol dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 ar gyfer unigolion sydd efallai angen cael eu derbyn yn orfodol i ysbyty. Mae'r rhaglen yn sicrhau bod graddedigion yn medru gwneud penderfyniadau cyfreithlon sy'n canolbwyntio ar hawliau sy'n cynnal ymddiriedaeth a hyder y bobl sy'n defnyddio gwasanaethau, gofalwyr ac asiantaethau partner. Y cymhwyster hwn yw'r unig raglen a gymeradwyir ar gyfer rôl yr AMHP sy'n cael ei chynnal yng Nghymru ar hyn o bryd, a chafodd ei datblygu mewn partneriaeth â 15 Awdurdod Lleol yng Nghymru i ddiwallu anghenion y gweithlu cenedlaethol.
Rhaid i bob ymgeisydd gael ei enwebu a'i noddi gan yr Awdurdod Lleol sy'n ei gyflogi a rhaid iddo gael ei gefnogi gan Berson Cyswllt Asiantaeth i sicrhau ymarfer dan oruchwyliaeth perthnasol drwy gydol y rhaglen.