Rydym yn falch o ddarparu profiad addysgol rhagorol, gan ddefnyddio'r dulliau dysgu ac addysgu mwyaf effeithiol, wedi'u teilwra'n ofalus i anghenion penodol eich cwrs. Ar wahân i nifer fach o gyrsiau ar-lein, mae'r rhan fwyaf o'n cyrsiau'n cynnwys addysgu wyneb yn wyneb ar y campws, gan alluogi ymgysylltiad llawn â'ch darlithwyr a'ch cyd-fyfyrwyr.
Mae sesiynau sgiliau ymarferol, seminarau gwaith labordy, a gweithdai yn bennaf yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb ar y campws, gan ganiatáu gweithio mewn grŵp ac arddangosiadau. Rydym hefyd yn gweithredu labordai rhithwir ac Amgylcheddau Dysgu Efelychol a fydd yn hwyluso mwy o fynediad at gyfleoedd hyfforddi yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae ein dulliau addysgu hefyd yn cynnwys defnyddio rhywfaint o ddysgu ar-lein i gefnogi a gwella addysgu wyneb yn wyneb traddodiadol.
Gall dysgu ar-lein ddigwydd ‘yn fyw’ gan ddefnyddio meddalwedd fel Zoom, sy'n eich galluogi i ryngweithio â'r darlithydd a myfyrwyr eraill ac i ofyn cwestiynau. Mae recordiadau darlithoedd hefyd yn caniatáu mwy o hyblygrwydd i ailedrych ar ddeunydd, i adolygu at asesiadau ac i wella dysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Mae gan rai modiwlau adnoddau ychwanegol ar Canvas, megis fideos, sleidiau a chwisiau sy'n galluogi astudiaeth hyblyg bellach.
Mae'r rhaglen yn cynnwys dau fodiwl craidd: SHGM26 - Asesiad Clinigol a Gwneud Penderfyniadau mewn Rhagnodi Anfeddygol sy'n 40 credyd ar lefel 7 a SHGM27 - Egwyddorion ac arferion ffarmacoleg sy'n 20 credyd ar lefel 7. Rhaid cwblhau'r ddau fodiwl hwn yn llwyddiannus i ennill y cymhwyster hwn.
Dysgir y rhaglen ar safle Parc Dewi Sant yng Nghaerfyrddin.
Cynhelir yr addysgu un diwrnod yr wythnos yn ystod y flwyddyn academaidd.
Mae'n ofyniad proffesiynol eich bod hefyd yn cael 96 awr o ymarfer clinigol gyda mentor meddygol dynodedig y bydd angen i chi ddangos tystiolaeth o'r dysgu sydd wedi digwydd.
01/11/21 ar gyfer derbyn mis Mawrth