Ffiseg Ymbelydredd Meddygol, MSc

Cyflawni Rhagoriaeth Feddygol drwy Dechnoleg

CT Scanner

Trosolwg o'r Cwrs

Os ydych chi'n fyfyriwr peirianneg neu'r gwyddorau ffisegol, bydd ein gradd MSc mewn Ffiseg Ymbelydredd Meddygol yn rhoi'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth ddamcaniaethol o agweddau sylfaenol ar ddefnyddio ymbelydredd mewn meddygaeth i wella'ch rhagolygon gyrfa.  

Byddwch yn cael ymarfer clinigol drwy gyfarwyddyd ymarferol o'r offer sy'n cael ei ddefnyddio'n gyffredinol mewn lleoliad ysbyty, gan gynnwys cyfleusterau MRI a CT o'r radd flaenaf, a chyflymyddion unionlin meddygol, a fydd yn eich paratoi ar gyfer hyfforddiant ymchwil neu glinigol yn y maes hwn sy'n datblygu'n yn gyflym. Byddwch yn derbyn hyfforddiant mewn modelu â chymorth cyfrifiadurol, methodoleg ymchwil a'r agweddau moesegol sy'n gysylltiedig ag ymchwil feddygol. 

Mae'r radd hon yn baratoad perffaith ar gyfer ymchwil ôl-raddedig mewn technoleg ffiseg feddygol ac mae hefyd yn llwybr tuag at gofrestriad gwladol fel gwyddonydd clinigol.  

Mae'r cwrs hwn wedi'i achredu gan y Sefydliad Ffiseg a Pheirianneg mewn Meddygaeth (IPEM), sy'n cefnogi gwyddonwyr clinigol a thechnolegwyr yn eu hymarfer trwy ddarparu ac asesu addysg a hyfforddiant. 

Pam Ffiseg Ymbelydredd Meddygol ym Mhrifysgol Abertawe?

  • Top 5 for overall research quality (REF2021)
  • Mae gan fyfyrwyr ôl-raddedig fynediad at gyfleusterau yn yr Athrofa Gwyddor Bywyd gwerth £100 miliwn 
  • What Uni? Enillydd Dewis Myfyriwr 2017 – Ôl-raddedig
  • Lleoliadau myfyrwyr ar gael
  • Cysylltiadau cryf gyda sefydliadau diwydiannol
  • Ymweliadau safle ar gael
  • Siaradwyr gwadd clinigol
  • Prosiectau ymchwil gydag ymddiriedolaethau gofal iechyd blaenllaw

Eich Profiad Ffiseg Ymbelydredd Meddygol

O'r eiliad y cyrhaeddwch yr Ysgol Feddygaeth, bydd ein staff arbenigol yn eich helpu i gynllunio a pharatoi at eich dyfodol drwy nodi a datblygu sgiliau a fydd yn eich galluogi i fanteisio i'r mwyaf ar eich gradd ôl-raddedig a chynyddu eich opsiynau gyrfa. 

Mae'r ffaith bod Prifysgol Abertawe yn agos iawn at ddwy o'r Ymddiriedolaethau GIG mwyaf yn y DU y tu allan i Lundain, yn ogystal ag Ymddiriedolaeth GIG Felindre (canolfan â phwyslais academaidd sy'n trin canser), yn cynnig cyfleoedd am ymchwil cydweithredol trwy leoliadau myfyrwyr. 

Mae'ch cwrs yn adeiladu ar y partneriaethau ymchwil hynod lwyddiannus rhwng yr Ysgol Feddygaeth a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (ABMU), gan gynnwys mentrau'r Sefydliad Gwyddor Bywyd a'r Ganolfan NanoIechyd, a gwaith parhaus ar fodelu radiotherapi a datblygu dosimedr ym Monte Carlo, cyfansoddiad corfforol, nodweddu meinwe a dulliau arloesol o ddarganfod clefyd gyda chyfleusterau MRI a CT o'r radd flaenaf. 

Cyfleoedd Cyflogaeth Ffiseg Ymbelydredd Meddygol

Ein nod yw'ch darparu â gwybodaeth a dealltwriaeth well o Ffiseg Ymbelydredd Meddygol, a'r sgiliau a'r wybodaeth y mae eu hangen arnoch i ddefnyddio'r hyn a ddysgwch wrth ymarfer yn broffesiynol. 

O ganlyniad, bydd y radd Meistr hon yn rhoi gwybodaeth drylwyr i chi o’r maes, gan wella eich rhagolygon am ddilyniant gyrfa o bosib. 

Modiwlau

Yn gyffredinol, mae modiwlau'n cynnwys: Ffiseg y Corff, Meddygaeth Niwclear a Radioleg Ddiagnostig a Diogelwch Ymbelydredd.  Ceir modiwlau dewisol hefyd y gallwch eu hastudio.  

Mae myfyrwyr sydd yn dechrau ym mis Medi neu Ionawr yn astudio’r run modiwlau craidd fel rhan o’r rhaglen. Mae dyddiadau Ionawr i’w cadarnhau.