Trosolwg o'r Cwrs
Mae Gwyddor Fiofeddygol yn astudiaeth wyddonol integreiddiol o faterion biolegol sy'n cefnogi diagnosis a thrin cyflyrau amrywiol sy'n effeithio ar ansawdd bywyd pobl. Mae'n broffesiwn sy'n cael ei gydnabod yn eang, wedi'i lywio gan dystiolaeth ac yn cael ei werthfawrogi sy'n cynnwys ymagwedd gyfannol a gydol oes at ddarparu gweithdrefnau diagnostig, asesu ac ymyrraeth.
Mae ein cwrs ym Mhrifysgol Abertawe'n archwilio agweddau damcaniaethol ac ymarferol ar Fiocemeg Glinigol yng nghyd-destun disgyblaeth ddiagnostig ac ymchwiliol Gwyddor Fiofeddygol. Rydym yn defnyddio ymagwedd ddysgu integredig sy'n cynnwys y defnydd o weithgareddau dysgu hunangyfeiriedig ac adnoddau dysgu ychwanegol a ddarperir drwy blatfform dysgu digidol Canvas i ategu'r profiad dysgu ar y campws. Byddai'r ymagwedd arloesol hon yn cefnogi datblygiad eich profiad dysgu ymhellach ynghyd â chyflwyno sgiliau labordy ymarferol allweddol a'ch darpariaeth ymarfer proffesiynol.