Trosolwg o'r Cwrs
Ni fu amser mwy cyffrous i astudio MSc mewn Ffisioleg Ymarfer Corff Glinigol. Wrth i faich cyflyrau hirdymor sy'n ymwneud ag anweithgarwch corfforol roi straen cynyddol ar y GIG a darparwyr gofal iechyd eraill, mae'r galw am raddedigion â sgiliau mewn gwyddor ymarfer corff a ffisioleg glinigol yn cynyddu.
Bydd y cwrs meistr amser llawn hwn, sy'n para blwyddyn, yn eich galluogi i feithrin yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth hollbwysig sy'n deillio o ymchwil, ynghyd â'r amrywiaeth eang o sgiliau cymhwysol ac ymarferol y bydd eu hangen i weithio gyda chleifion i optimeiddio iechyd, gweithrediad corfforol ac ansawdd bywyd drwy weithgarwch corfforol ac ymarfer corff.
Bydd gan yr MSc bwyslais ymarferol cryf a bydd yn datblygu eich cymwyseddau ymarferol mewn amrywiaeth eang o fesuriadau ffisiolegol a ffenoteipaidd sy'n ymwneud â ffisioleg ymarfer corff glinigol. Drwy gydol y rhaglen, byddwch yn dysgu sut i gynllunio, cynnal a dehongli amrywiaeth o asesiadau iechyd a ffitrwydd sy'n benodol i glefydau, yn ogystal â chynllunio a darparu ymyriadau gweithgarwch corfforol ac ymarfer corff sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ac yn cefnogi cleifion i hyrwyddo newid ystyrlon yn eu hymddygiad, er mwyn optimeiddio'r broses o atal a thrin amrywiaeth o gyflyrau iechyd cymhleth a'u rheoli yn y tymor hir.
Byddwch chi hefyd yn cwblhau modiwl lleoliad gwaith clinigol i ennill profiad pwysig a oruchwylir wrth gymhwyso eich sgiliau mewn lleoliadau go iawn.