Sgip i brif cynnwys
Hafan Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
Hafan Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
  1. Hafan
  2. Ôl-raddedig
  3. Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir
  4. Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Peirianneg a Gwyddorau Cymhwysol
  5. Cyrsiau Ôl-raddedig Gwyddor Chwaraeon
  6. Seicoleg Chwaraeon, MSc
  • Astudio
    • Astudio
      Students studying in Singleton Park campus library

      Dechreuwch eich taith yma

      Astudiwch gyda ni
    • Israddedig
      • Cyrsiau
      • Llety
      • Clirio yn Abertawe
      • Canllaw Rhieni a Gwarcheidwaid i'r Brifysgol
      • Diwrnodau Agored
      • Sut i wneud cais
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Prosbectws Israddedig
      • Cofrestrwch am Diweddariadau Ebost
    • Ôl-raddedig
      • Cyrsiau
      • Rhaglenni Ymchwil
      • Diwrnod Agored
      • Sut i Wneud Cais
      • Llwybr carlam i fyfyrwyr presennol
      • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
      • Y Brifysgol
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Cofrestrwch am Diweddariadau Ebost
    • Bywyd Myfyriwr
      • Astudio
      • Pam Abertawe
      • Storïau Myfyrwyr
      • Bywyd y campws
      • Chwaraeon
      • Cynaliadwyedd - Cymrwch Ran
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
      • Taith Rhithwir
      • Beth yw Gŵyl y Glas?
    • Gwasanaethau i Fyfyrwyr
      • Llyfrgelloedd ac Archifau
      • BywydCampws
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe
      • Menter Myfyrwyr
      • Canolfan Llwyddiant Academaidd
      • Academi Hywel Teifi
      • Llesiant myfyrwyr
  • Rhyngwladol
  • Ein Ymchwil
    • Gwnewch Ymchwil Gyda Ni
      • Cefnogi eich taith ymchwil ôl-raddedig
      • Dod o hyd i raglen ymchwil ol-raddedig
      • Sut i wneud cais am raglen ymchwil Ôl-raddedig
      • Hyfforddiant a Datblygiad i Oruchwylwyr a Myfyrwyr Ymchwil
    • Archwiliwch ein hymchwil
      • Uchafbwyntiau Ymchwil
      • Ymchwil yn y cyfadrannau
      • Momentum - ein cylchgrawn ymchwil
      • Podlediad Archwilio Problemau Byd-eang
    • Darganfyddwch ein hymchwil
      • Cyfeiriadur Arbenigedd
      • Dod o hyd i bapur ymchwil
      • Manteisio ar ein Harbenigedd ym maes Ymchwil a Datblygu
    • Ein Hamgylchedd Ymchwil
      • Uniondeb Ymchwil: Moeseg a Llywodraethu
      • Effaith ymchwil
      • Hyfforddiant a datblygiad
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
    • Ein Cenhadaeth Ddinesig
      • Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe
      • Gŵyl Bod yn Ddynol
      • Oriel Science
      • Byd Copr Cymru
  • Busnes
    • Cydweithredwch â ni
      • Datblygu eich prosiectau
      • Manteisio ar wybodaeth ein hymgynghorwyr
      • Cyfleoedd Cyllid YDA
    • Recriwtio ein Doniau
      • Recriwtio ein Myfyrwyr a'n Graddedigion
      • Cwrdd â’n myfyrwyr
      • Hysbysebu eich swyddi gwag
    • Datblygu eich Gweithlu
      • Gweld ein cyrsiau
    • Defnyddio ein Gwasanaethau Masnachol
      • Gofyn am gymorth gyda phrosiect
      • Hysbysebu eich sefydliad
      • Dod yn gyflenwr
    • Llogi ein Cyfleusterau
      • Cael mynediad at ein cyfleusterau ymchwil
      • Cynnal digwyddiad
    • Gweithio gyda ni
      • Ymuno â’n rhwydwaith cydweithredol
      • Cysylltu â’n tîm ymgysylltu â busnesau
      • Cadw mewn cysylltiad
  • Cyn-fyfyrwyr
  • Y Brifysgol
    • Swyddfa'r Wasg
      Female student working with steel

      Newyddion a Ymchwil Diweddaraf straeon

      Darllenwch y newyddion diweddaraf yma
    • Y Brifysgol
      • Amdanom ni
      • Sut i ddod o hyd i ni
      • Dyfarniadau a Safleoedd y Brifysgol
      • Ein Cyfadrannau
      • Swyddfa'r Wasg
      • Swyddi a Gweithio yn Abertawe
      • Cynaliadwyedd
      • Teithio i’r campws ac oddi yno
      • Cysylltu â ni
    • Chwaraeon
      • Bod yn Actif
      • Cynghreiriau Cymdeithasol
      • Clybiau Chwaraeon
      • Perfformiad
      • Cyfleusterau
      • Nawdd
      • Newyddion
    • Bywyd y campws
      • Llety
      • Arlwyo
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Y Neuadd Fawr
      • Taliesin
      • Creu Taliesin
      • Ein Tiroedd
      • Cerddoriaeth
      • Rhithdaith
    • Ein Cyfadrannau
      • Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
      • Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
      • Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
      • Y Coleg
    • Academïau
      • Academi Iechyd a Llesiant
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA)
      • Academi Hywel Teifi
  • Newyddion a Digwyddiadau
  • Cefnogaeth a Lles
  1. Hafan
  2. Ôl-raddedig
  3. Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir
  4. Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Peirianneg a Gwyddorau Cymhwysol
  5. Cyrsiau Ôl-raddedig Gwyddor Chwaraeon
  6. Seicoleg Chwaraeon, MSc

Seicoleg Chwaraeon, MSc

Ymgeisio

O ble ydych chi'n gwneud cais?

Dewiswch Llawn Amser neu Ran Amser.

Dewiswch y math o gwrs

Dewiswch y dyddiad dechrau.

  • Medi 2025

    Gwnewch Gais Nawr
  • Medi 2025

    Gwnewch Gais Nawr

Dewiswch Llawn Amser neu Ran Amser.

Dewiswch y math o gwrs

Dewiswch y dyddiad dechrau.

  • Medi 2025

    Gwnewch Gais Nawr
  • Medi 2025

    Gwnewch Gais Nawr
Cadwch Mewn Cysylltiad

Manylion Allweddol y Cwrs

MSc 1 Blynedd Llawn Amser
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol (gweler dewisiadau arall)
2:1
Lleoliad
Campws Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu
Med 2025 £ 9,900
MSc 2 Flynedd Rhan Amser
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol (gweler dewisiadau arall)
2:1
Lleoliad
Campws Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2025 £ 5,000
MSc 1 Blynedd Llawn Amser
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol
2:1 - Gwybodaeth Rhagor
Lleoliad
Campws Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu
Med 2025 £ 18,750
MSc 2 Flynedd Rhan Amser
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol
2:1 - Gwybodaeth Rhagor
Lleoliad
Campws Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2025 £ 9,400

Ymysg y 51-100 gorau yn y byd o ran y Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff

Tablau Prifysgolion y Byd QS 2024

Sport Science Seminar
  • Trosolwg
  • Rhagor
    • Related Pages
    • Back
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a ddysgir yn dod yn fuan
    • Diwrnodau Agored
    • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
    • Ffioedd ac Ariannu
    • Cyrsiau Trosi
    • Sut i Wneud Cais
    • Rhaglenni Ymchwil
    • Llety
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Peirianneg Awyrofod,Sifil, Drydanol a Mecanyddol
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Biowyddorau, Daearyddiaeth
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Peirianneg a Gwyddorau Cymhwysol
      • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Peirianneg Gemegol
      • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg
      • Cyrsiau Ôl-raddedig Gwyddor Chwaraeon
        • MSc Gwyddor Perfformiad Chwaraeon Uwch
        • MSc Seicoleg Chwaraeon
        • MSc Ffisioleg Ymarfer Corff Glinigol
      • Cemeg
      • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Peirianneg Fiofeddygol
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir iechyd a gofal cymdeithasol
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Reolaeth
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Fathemateg a Chyfrifiadureg
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Feddygaeth
    • Cyrsiau Ôlraddedig Ysgol Seicoleg
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
    • Llwybr carlam i fyfyrwyr presennol

Trosolwg o'r Cwrs

Oherwydd ei gyfuniad o ymchwil, damcaniaeth a mewnwelediadau ymarferol, mae’r MSc Seicoleg Chwaraeon yn gwrs cynhwysfawr a deinamig sydd wedi'i lunio i'ch galluogi chi i ennill yr wybodaeth graidd, y sgiliau ymarferol a'r gallu y mae eu hangen arnoch chi i fod yn ymarferwyr gwyddonol, sy'n canolbwyntio ar foeseg, dulliau empirig a damcaniaethau, ym maes seicoleg chwaraeon.

Bydd myfyrwyr yn ymwneud ag amrywiaeth o bynciau ar draws wyth cymhwysedd craidd seicoleg, yn amrywio o seicoleg gymdeithasol a gwybyddol i seicoleg ddatblygiadol. Rhoddir pwyslais cryf ar roi arweiniad i fyfyrwyr ynghyd â chipolwg ar weithio fel ymarferydd cymhwysol yn y maes hwn.

Pam Seicoleg Chwaraeon yn Abertawe?

  • Ymysg y 51-100 gorau yn y byd (Tabl Prifysgolion y Byd QS 2025)
  • 100% o'n heffaith yn arwain y ffordd yn fyd-eang ac yn rhagori'n rhyngwladol - Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021

Staff Arbenigol: Byddwch chi'n dysgu gan academyddion ac ymarferwyr profiadol ym maes Seicoleg Chwaraeon sy'n ymroddedig i'ch helpu chi i lwyddo. Mae gan ein harbenigwyr gefndiroedd a diddordebau ymchwil amrywiol, gan sicrhau profiad addysgol cyflawn.

Ymchwil sy'n torri tir newydd: Byddwch chi'n dod i gyswllt â'r ymchwil a'r datblygiadau diweddaraf ym maes Seicoleg Chwaraeon. Mae Prifysgol Abertawe'n adnabyddus am ei chyfraniadau at ymchwil ym maes seicoleg chwaraeon, a bydd gennych chi gyfle hefyd i arsylwi ar brosiectau sydd ar y gweill.

Datblygu Gyrfa: Byddwch chi'n derbyn arweiniad a chymorth ar gyfer eich nodau o ran gyrfa. P’un a ydych chi'n dyheu am weithio gydag athletwyr elitaidd, timau chwaraeon neu bobl ifanc, neu a ydych chi am ymgymryd ag ymchwil ymhellach, bydd y rhaglen hon yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn damcaniaeth ac ymarfer Seicoleg Chwaraeon.

Cyfleoedd Ymchwil: Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymgymryd â PhD neu yrfa ymchwil, bydd ein rhaglen yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer eich ymdrechion academaidd yn y dyfodol.

Cymuned Fyd-eang: Byddwch chi'n ymuno â charfan amrywiol o fyfyrwyr o bob cwr o'r byd, gan feithrin amgylchedd dysgu amlddiwylliannol ac ehangu eich safbwynt byd-eang.

Lleoliad Prydferth: Byddwch chi'n mwynhau harddwch naturiol trawiadol Abertawe a lleoliad ein Campws y Bae yn agos at ei bromenâd glan môr ei hun.

Eich Profiad Seicoleg Chwaraeon

Bydd yr MSc Seicoleg Chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe'n symud o ddamcaniaeth i broses ac yna i gynnyrch – gan helpu myfyrwyr i ennill yr wybodaeth a'r mewnwelediadau y mae eu hangen arnynt i werthuso a chymhwyso'n feirniadol ymchwil seicoleg chwaraeon ar draws poblogaethau, cyd-destunau a lleoliadau amrywiol.

Bydd yr ymagwedd hon sy'n symud o ddamcaniaeth i ymarfer ac yna i gynnyrch yn sicrhau bod myfyrwyr yn deall damcaniaethau a chysyniadau sylfaenol a chyfoes ym maes seicoleg chwaraeon, yn ogystal ag ennill mewnwelediadau helaeth i sut i fod yn seicolegydd chwaraeon effeithiol sy’n ymarfer ar draws lleoliadau a dulliau cyflogaeth gwahanol. Bydd yr ymagwedd hon yn sicrhau y gall myfyrwyr sy'n graddio ddechrau gweithio mewn maes sy'n tyfu ac yn datblygu'n gyflym ar ôl iddynt ennill yr wybodaeth sylfaenol, y mewnwelediadau beirniadol a'r sgiliau ymarferol y mae eu hangen arnynt i addasu, datblygu ac, yn y pen draw, lwyddo i ddeall, rhagweld a gwella perfformiad athletwyr elît ac amatur mewn chwaraeon tîm ac unigol.

Cyfleoedd Cyflogaeth Seicoleg Chwaraeon

Dyluniwyd y rhaglen hon gan ystyried sgiliau cyflogadwyedd ac entrepreneuraidd penodol. Bydd gan raddedigion o'r MSc Seicoleg Chwaraeon y potensial i fod yn seicolegwyr chwaraeon achrededig. Bydd hyn yn galluogi graddedigion i weithio fel seicolegwyr chwaraeon hunangyflogedig neu gyda thimau chwaraeon a sefydliadau chwaraeon, sef cyfle sy'n tyfu. Gall rhai hefyd fynd ymlaen i ymgymryd ag astudiaethau PhD, neu fod yn ymchwilwyr neu'n ymarferwyr mewn sefydliadau chwaraeon neu'n ymgynghorwyr ffordd o fyw.

Lleoliadau Gwaith:

Nid oes gofyniad i gwblhau lleoliadau gwaith yn ffurfiol yn ystod y radd. Fodd bynnag, rhoddir cyfleoedd i fyfyrwyr gael mynediad at leoliadau arsylwi ac efallai y byddant am achub ar y cyfleoedd hyn i ddatblygu eu sgiliau a'u CV. Yn benodol, mae gan y tîm addysgu gysylltiadau cryf â chyrff lleol a chenedlaethol a thrwy weithio gyda nhw, mae'r tîm yn gallu cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i fyfyrwyr fanteisio arnynt, o arsylwi ar benwythnosau hyfforddiant, i arsylwi'n fwy rheolaidd ar sesiynau ymarfer a gemau a chyflwyno gweithdai addysgol o dan oruchwyliaeth. Caiff yr holl gyfleoedd eu hysbysebu i garfan y myfyrwyr a chynhelir proses cyfweld gyda'r partner (os bydd angen ac os bydd digon o ddiddordeb) ac yna bydd myfyrwyr yn cael mynediad at y lleoliad. Disgwylir i'r cyfleoedd am leoliadau fod yn hyblyg, gan amrywio o ychydig oriau i ymrwymiadau mwy rheolaidd i sicrhau eu bod mor hygyrch â phosib. Sylwer y bydd angen i fyfyrwyr rhyngwladol ystyried y goblygiadau o ran uchafswm nifer yr oriau y caniateir iddynt eu gweithio'n unol ag amodau eu fisa.

Ar ben hynny, rhoddir pwyslais penodol ar ddatblygu ac ymarfer sgiliau cymhwysol drwy seminarau a addysgir, trafodaethau wedi'u hwyluso a chyfleoedd dysgu unigol gan gynnwys cyfleoedd i gwblhau lleoliadau. Yn ogystal â hyn, drwy gydol y radd, bydd gan fyfyrwyr gyfle i siarad yn uniongyrchol ag athletwyr i ddysgu am eu profiadau personol ac ennill dealltwriaeth well o gymhlethdod a naws bywyd athletwr ar adegau gwahanol yn ei fywyd ac ar gamau gwahanol yn ei yrfa. Ar ben hynny, bydd myfyrwyr hefyd yn dod i gyswllt ag ymarferwyr seicoleg chwaraeon drwy gydol y radd, gan ddysgu'n uniongyrchol o'u profiadau a deall o lygad y ffynnon sut i lwyddo fel seicolegydd chwaraeon.

Gofynion Mynediad

Gradd israddedig ym maes Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (neu gyfwerth) gyda gradd 2.1 neu uwch.

Gradd israddedig mewn Seicoleg (neu gyfwerth) gyda gradd 2.1 neu uwch. Dylai'r radd israddedig fod wedi'i hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain neu gwrs trosi sydd wedi'i achredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain.

Sut byddwch chi'n cael eich dysgu

Gallai myfyrwyr rhan-amser gwblhau'r radd hon dros gyfnod o ddwy flynedd, gan ddewis hanner y modiwlau a addysgir yn y flwyddyn gyntaf a hanner ohonynt yn yr ail flwyddyn.

Yn benodol, anogir myfyrwyr i gwblhau'r ddau fodiwl damcaniaeth: 1) Egwyddorion Craidd Seicoleg Chwaraeon a 2) Dysgu Seicoechddygol a Chysyniadau Cyfredol mewn Seicoleg Chwaraeon, ar y cyd â dulliau ymchwil yn y flwyddyn gyntaf.

Yn yr ail flwyddyn, bydd myfyrwyr yn cwblhau'r tri modiwl cymhwysol (Ymagweddau at Ymarfer Seicoleg Chwaraeon; Gwella Perfformiad Chwaraeon a Lles Gydol Oes; Gweithio fel Seicolegydd Chwaraeon), ynghyd â'u traethawd estynedig. Felly, o safbwynt asesu, bydd myfyrwyr yn cwblhau'r asesiadau sy'n gysylltiedig â'r modiwlau hyn ym mhob un o'r blynyddoedd

Darpariaeth Gymraeg

Achrediad Corff Proffesiynol

Mae'r radd MSc mewn Seicoleg Chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe yn Rhaglen Gymeradwy Ôl-raddedig PSES BASES.

 

Mae Cymdeithas Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prydain (BASES) yn sefydliad aelodaeth proffesiynol Prydeinig sy'n ardystio cyrsiau israddedig gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff.  Lansiwyd cynllun ardystio'r gymdeithas yn 2005, a heddiw dyma'r safon gydnabyddedig ar gyfer holl raglenni gradd israddedig gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff.

Mae meini prawf asesu trwyadl BASES yn sicrhau mai cyrsiau o'r ansawdd uchaf yn unig sy'n derbyn ei dyfarniad ardystio.

Cwrdd â'ch Darlithwyr

Cewch eich addysgu gan ddarlithwyr o’r radd flaenaf sy’n ymchwilwyr brwd. Mae eu meysydd arbenigedd ymchwil yn cynnwys Atal Dopio, Moeseg Chwaraeon, Gweithgarwch Corfforol Plant, Ffisioleg Ymarfer Corff a llawer mwy.

Gweler yr holl staff Gwyddor Chwaraeon a Pheirianneg yma.

 

Ffioedd Dysgu

MSc 1 Blynedd Llawn Amser

Dyddiad Dechrau D.U. Rhyngwladol
Medi 2024 £ 9,450 £ 17,850
Medi 2025 £ 9,900 £ 18,750

MSc 2 Flynedd Rhan Amser

Dyddiad Dechrau D.U. Rhyngwladol
Medi 2024 £ 4,750 £ 8,950
Medi 2025 £ 5,000 £ 9,400

Mae ffioedd dysgu ar gyfer blynyddoedd o astudiaeth ar ôl eich blwyddyn gyntaf yn amodol ar gynnydd o 3%.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Myfyrwyr cyfredol: Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Ariannu ac Ysgoloriaethau

Mae’n bosib eich bod yn gymwys i gael cymorth ariannol tuag at eich astudiaethau.

Os ydych yn fyfyriwr y DU neu'r UE sy’n dechrau ar radd Meistr ym Mhrifysgol Abertawe, efallai y byddwch yn gymwys i gyflwyno cais am arian gan y Llywodraeth i helpu tuag at gostau eich astudiaethau. I gael mwy o wybodaeth, ewch i'n tudalen benthyciadau Ôl-raddedig.

I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd eraill am gymorth ariannol sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael ar gael gan Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog. I ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch i dudalen Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Academi Hywel Teifi

Costau Ychwanegol

Bydd mynediad i'ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i'ch galluogi i ymgysylltu'n llawn â'ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i'w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu'ch dyfais.

Efallai y byddwch chi'n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • Teithio i'r campws ac oddi yno
  • Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
  • Prynu llyfrau neu werslyfrau
  • Gwisgoedd ar gyfer seremonïau graddio

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe'n cefnogi myfyrwyr Prifysgol Abertawe ar bob cam yn eu taith yrfaol.

Mae ein gwasanaethau cymorth gyrfaoedd yn cynnwys:

  • Gweithdai cyflogadwyedd, sgyrsiau gan gyflogwyr, digwyddiadau pwrpasol a ffeiriau gyrfaoedd
  • Cyngor ac arweiniad unigol gan Ymgynghorwyr Gyrfaoedd proffesiynol
  • Cymorth i chwilio am swyddi, interniaethau, lleoliadau gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli
  • Mynediad i adnoddau gwybodaeth am amrywiaeth eang o bynciau rheoli gyrfa
  • Cyllid i gefnogi cyfleoedd interniaeth i fyfyrwyr a digwyddiadau Cymdeithasau/Clybiau Myfyrwyr

Rydym hefyd yn darparu cymorth a chyngor i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe am hyd at bum mlynedd ar ôl iddynt raddio.

Cymorth Academaidd

Yn ogystal â chymorth pwnc penodol gan staff addysgu'r coleg a'ch tiwtor personol, mae'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn darparu cyrsiau, gweithdai a chymorth un-i-un mewn meysydd fel:

  • Ysgrifennu academaidd
  • Mathemateg ac ystadegau
  • Meddwl critigol
  • Rheoli amser
  • Sgiliau digidol
  • Sgiliau cyflwyno
  • Cymryd nodiadau
  • Technegau adolygu, dysgu ar gof ac arholiadau
  • Sgiliau Saesneg (os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf)

Yn ogystal, os oes gennych Anhawster Dysgu Penodol (ADP/SpLD), anabledd, cyflwr iechyd meddwl neu gyflwr meddygol, mae gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd Diwtoriaid Arbenigol i gefnogi'ch dysgu. Bydd y tiwtoriaid yn gweithio ochr yn ochr â'r Swyddfa Anabledd a'r Gwasanaeth Lles i gefnogi eich holl anghenion a gofynion tra byddwch yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe.

Sut i wneud cais

Dylech wneud cais drwy system ymgeisio fewnol.

I gael rhagor o gyngor, ewch i’n tudalennau sut i wneud cais ar gyfer astudio ôl-radd.

Dyddiadau Cau Ymgeisio

Argymhellwn eich bod chi'n cyflwyno eich cais am le ar ein cyrsiau mor fuan â phosibl cyn ein dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno cais. Bydd cyrsiau'n cau yn gynharach na'r dyddiadau cau a restrir os caiff yr holl leoedd eu llenwi. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen we Dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno cais.

  • Trosolwg
  • Related Pages
  • Back
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a ddysgir yn dod yn fuan
  • Diwrnodau Agored
  • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
  • Ffioedd ac Ariannu
  • Cyrsiau Trosi
  • Sut i Wneud Cais
  • Rhaglenni Ymchwil
  • Llety
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Peirianneg Awyrofod,Sifil, Drydanol a Mecanyddol
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Biowyddorau, Daearyddiaeth
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Peirianneg a Gwyddorau Cymhwysol
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Peirianneg Gemegol
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg
    • Cyrsiau Ôl-raddedig Gwyddor Chwaraeon
      • MSc Gwyddor Perfformiad Chwaraeon Uwch
      • MSc Seicoleg Chwaraeon
      • MSc Ffisioleg Ymarfer Corff Glinigol
    • Cemeg
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Peirianneg Fiofeddygol
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir iechyd a gofal cymdeithasol
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Reolaeth
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Fathemateg a Chyfrifiadureg
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Feddygaeth
  • Cyrsiau Ôlraddedig Ysgol Seicoleg
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
  • Llwybr carlam i fyfyrwyr presennol
Ymgeisio

Darganfyddwch eich prifysgol

Ewch ar rithdaith

Two students walking around campus

Prosbectws ol-raddedig

Prosbectws ol-raddedig

Astudio trwy'r Gymraeg

welsh medium

Sgwrsiwch â Myfyriwr Cyfredol

Dau fyfyriwr wrth gyfrifiadur
Ymwadiad Rhaglen
  • Cysylltwch â ni
  • Swyddi
  • Cyfadrannau
  • Y Wasg
  • Iechyd a Diogelwch
  • Ymwadiad a Hawlfraint
  • Map o'r Safle
  • Preifatrwydd a Chwcis
  • Datganiad Caethwasiaeth Fodern
  • Mae Prifysgol Abertawe yn elusen gofrestredig, Rhif 1138342