Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r LLM mewn Technoleg Gyfreithiol a Chyfraith Fasnachol yn cyfuno technoleg â masnach er mwyn agor cyfleoedd gyrfa cyffrous sy'n defnyddio pŵer technoleg.
Byddwch yn dysgu am y technolegau diweddaraf mewn perthynas â'r gyfraith, gan ystyried deallusrwydd artiffisial a Blockchain a sut gellir eu rhoi ar waith, ond hefyd sut dylid eu rheoleiddio. Yn ogystal â hyn, mae'r rhaglen yn cynnwys themâu cyfoes cyfraith fasnachol, a cheir themâu astudio dewisol sef eiddo deallusol, e-fasnach, cymrodeddu ac arloesi.
Mae'r themâu hyn yn sicrhau y bydd graddedigion y rhaglen hon wedi meithrin dealltwriaeth a phrofiad mewn perthynas â'r datblygiadau diweddaraf yn y sector, gan eu galluogi i ddod yn ymarferwyr myfyriol sy'n gallu llywio dyfodol y proffesiwn yn gyfrifol.
Mae'r rhaglen hon yn gallu agor drysau i swyddi mewn cwmnïau blaengar ac mewn sectorau technoleg sy'n dod i'r amlwg, megis technoleg ariannol a thechnoleg yswiriant, yn ogystal â'r sectorau masnachol traddodiadol sef bancio, yswiriant a morgludiant.