Trosolwg o'r Cwrs
Ydych chi wedi cymhwyso’n gyfrifydd gyda'r cyrff proffesiynol yn ystod y pum mlynedd diwethaf (neu oes gennych brofiad ychwanegol perthnasol) a hoffech ddatblygu eich gyrfa drwy astudio am gymhwyster Meistr?
Mae'r cwrs 4 mis hwn* yn hyrwyddo’r gwaith o gyfannu ymarfer proffesiynol a theori, a gall y credydau yn sgîl eich dysgu blaenorol fel cyfrifydd cymwys eich rhoi ar y llwybr carlam i'n MSc mewn Cyfrifeg Broffesiynol.
Wrth astudio ar y rhaglen, byddwch yn cwblhau modiwl mewn Sgiliau Ymchwil, a fydd yn eich paratoi ar gyfer prosiect annibynnol. Mae’r modiwl hwn ar gael ar-lein ac felly nid oes gofyniad am gyswllt personol ar y campws.
Gan gynnig hyblygrwydd ychwanegol, mae ein MSc mewn Cyfrifeg Broffesiynol, sy'n para blwyddyn, yn cynnig dau ddyddiad dechrau ym mhob blwyddyn academaidd.
Wrth astudio am ein MSc mewn Cyfrifeg Broffesiynol, byddwch yn tynnu ar gymdeithasau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol a bydd ehangder ymchwil, addysgu ac arbenigedd ymarferol ein tîm addysgu yn cyfoethogi eich datblygiad proffesiynol.
*Sylwer: nid yw’r cwrs hwn yn gymwys i dderbyn nawdd CAS dan y llwybr myfyrwyr sy’n fewnfudwyr. Caiff myfyrwyr rhyngwladol nad ydynt eisoes yn meddu ar statws mewnfudwyr sy’n eu galluogi nhw i astudio yn y Deyrnas Unedig eu cefnogi i ddod i’r Deyrnas Unedig fel Ymwelydd Safonol (Astudio).