Cyfrifeg a Chyllid Rhyngwladol, MSc

Gwella eich rhagolygon gyrfaol yn y dyfodol

Myfyrwyr

Trosolwg o'r Cwrs

Oes gennych ddawn am drin ffigurau ac awydd am yrfa fel cyfrifydd? Mae'n broffesiwn gyda galw. Mae’n cynnig lefel uchel o ddiogelwch swydd, cyflogau da a llawer o rolau diddorol i ddewis ohonynt mewn amrywiaeth o sectorau.

Bydd y cwrs MSc Cyfrifeg a Chyllid Rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe yn eich helpu i ddatblygu dealltwriaeth estynedig a manwl o bynciau allweddol ym maes cyfrifeg a chyllid a fydd yn rhoi hwb i'ch rhagolygon gyrfa yn y dyfodol.

Does dim angen cefndir mewn cyfrifeg neu gyllid arnoch i astudio’r cwrs trosi blwyddyn o hyd hwn. Mae wedi'i gynllunio i adeiladu ar eich astudiaethau israddedig a rhoi llwybr carlam i’ch galluogi i ffynnu yn y proffesiwn rydych wedi'i ddewis, unrhyw le yn y byd.

Mae'r rhaglen wedi'i hachredu gan Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA) ac mae'n cynnwys eithriad o hyd at saith o arholiadau sylfaenol y Gymdeithas. Mae hyn yn seiliedig ar eich dysgu blaenorol ac mae'n golygu na fydd rhaid i chi astudio'r un pynciau rydych chi wedi'u dysgu eisoes.

Yn ogystal, mae gan yr Ysgol Reolaeth gysylltiadau cryf â'r Sefydliad Ariannol Siartredig (CFA), Sefydliad y Bancwyr Siartredig, Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli (CIMA), y Sefydliad Siartredig ar gyfer Gwarantau a Buddsoddi a Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yn Lloegr a Chymru (ICAEW). Bydd y cysylltiad agos hwn â chyrff proffesiynol yn gwella'ch rhagolygon gyrfa ac yn rhoi mantais i'ch galluogi i ffynnu ym myd cystadleuol heddiw.

Pam Cyfrifeg a Chyllid Rhyngwladol yn Abertawe?

  • Cwrs trosi llawn y gellir ei gwblhau mewn blwyddyn
  • Ar agor i ymgeiswyr nad oes ganddynt unrhyw brofiad blaenorol o gyfrifeg, cyllid neu fusnes
  • Addysgir ein holl fodiwlau gan ein hacademyddion o'r radd flaenaf sy'n meddu ar wybodaeth academaidd a phrofiad proffesiynol
  • Achrediad corff proffesiynol sy'n gallu rhoi hwb i'ch gyrfa
  • Addysgir ein rhaglenni myfyrwyr yn adeilad gwerth £22 miliwn yr Ysgol Reolaeth ar gampws y Bae
  • Mae'r Ysgol Reolaeth wedi'i hachredu gan AACSB International, cymdeithas addysg fusnes fwyaf y byd, sy'n cysylltu ysgolion busnes, busnesau a dysgwyr, i greu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwych.

Eich Profiad Cyfrifeg a Chyllid Rhyngwladol

O'r funud rydych yn cyrraedd yr Ysgol Reolaeth, byddwn yn gweithio gyda chi i’ch helpu i feithrin eich sgiliau a'ch profiad er mwyn cyfoethogi'ch cyfleoedd gyrfa.

Cewch gyngor pwrpasol, un i un, diderfyn ar yrfaoedd gan ein tîm gyrfaoedd ymroddedig. Cewch gyfle i wneud lleoliad gwaith neu interniaeth drwy Rwydwaith Interniaeth â Thâl Abertawe (SPIN) neu'r fenter Wythnos o Waith.

Mae ein holl fyfyrwyr yn elwa o rannu'r safle arloesol ar Gampws y Bae â phartneriaid diwydiannol. Mae ein cyfleusterau'n cynnwys mannau wedi'u neilltuo i addysgu ac astudio, a chyfleusterau TG helaeth â'r galedwedd a'r feddalwedd arbenigol ddiweddaraf.

Cyfleoedd Cyflogaeth Cyfrifeg a Chyllid Rhyngwladol

Mae gennym brofiad helaeth o leoli ein graddedigion gyda chwmnïau amlwladol mawr.

Bydd eich rhaglen MSc Cyfrifeg a Chyllid Rhyngwladol, sydd wedi'i hachredu gan ACCA, yn profi i gyflogwyr bod gennych alluoedd ym mhob agwedd ar fusnes, a'ch bod yn feddyliwr strategol â gwybodaeth ariannol gref a chraffter busnes. 

Gallai eich cam nesaf fod yn unrhyw un o'r rolau hyn:

  • Dadansoddwr Cyllid Masnachol
  • Arweinydd Tîm Cyllid
  • Archwiliwr Cysylltiol
  • Dadansoddwr Ariannol Iau
  • Goruchwyliwr Cyllid
  • Rheolydd Credyd
  • Cyfrifydd Systemau Prosiect

Modiwlau

Ymwadiad: Gall dewis modiwlau newid