Cyllid a Bancio Rhyngwladol, MSc

Cyfle i ddatblygu dealltwriaeth feirniadol o fancio a chyllid rhyngwladol

myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd

Trosolwg o'r Cwrs

Ydych chi’n chwilio am radd arbenigol ym maes cyllid a fydd yn cynnig llwybr carlam i yrfa gyffrous mewn bancio, masnachu neu gyllid?

Mae bancio, fel y rhan fwyaf o ddiwydiannau, wedi datblygu yn yr unfed ganrif ar hugain ac mae'n cynnig amrywiaeth o gyfleoedd cyffrous mewn nifer mawr o sectorau, yma a thramor. Mae prinder sgiliau hefyd a galw mawr am bobl â'r cymwysterau iawn.

Wrth astudio Bancio a Chyllid Rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe, byddwch yn meithrin dealltwriaeth fanwl o egwyddorion a thechnegau cyllid, datblygiad, masnach a bancio rhyngwladol. Byddwch yn dysgu am weithgareddau'r marchnadoedd a'r sefydliadau ariannol mewn economïau datblygedig a datblygol, ac yn datblygu dealltwriaeth o rôl rheoli risg mewn sefydliadau cymhleth.

Mae'r rhaglen uwch hon ar gyfer myfyrwyr sydd eisoes wedi astudio cyfrifeg a/neu gyllid ar lefel israddedig.

Mae eich cwrs wedi'i achredu gan Sefydliad y Bancwyr Siartredig. Bydd y cysylltiad agos hwn â Sefydliad y Bancwyr Siartredig yn gwella'ch rhagolygon gyrfa ac yn rhoi mantais i'ch galluogi i ffynnu ym myd cystadleuol heddiw.

Pam Cyllid a Bancio Rhyngwladol yn Abertawe?

  • Rhaglen arbenigol uwch y gellir ei chwblhau mewn un flwyddyn
  • Wedi'i chynllunio ar gyfer graddedigion mewn meysydd ariannol sy'n chwilio am raglen arbenigol a fydd yn cynnig llwybr carlam i fancio a chyllid rhyngwladol
  • Addysgir ein holl fodiwlau gan ein hacademyddion o'r radd flaenaf sy'n meddu ar wybodaeth academaidd a phrofiad proffesiynol
  • Addysgir ein rhaglenni myfyrwyr yn adeilad gwerth £22 miliwn yr Ysgol Reolaeth ar gampws y Bae
  • Mae'r Ysgol Reolaeth wedi'i hachredu gan AACSB International, cymdeithas addysg fusnes fwyaf y byd, sy'n cysylltu ysgolion busnes, busnesau a dysgwyr, i greu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwych.

Eich Profiad Cyllid a Bancio Rhyngwladol

O'r funud rydych yn cyrraedd yr Ysgol Reolaeth, byddwn yn gweithio gyda chi i’ch helpu i feithrin eich sgiliau a'ch profiad er mwyn gwella'ch rhagolygon gyrfa.

Byddwch yn derbyn cyngor pwrpasol, un i un, diderfyn ar yrfaoedd gan ein tîm gyrfaoedd ymroddedig. Cewch gyfle i wneud lleoliad gwaith neu interniaeth drwy Rwydwaith Interniaeth â Thâl Abertawe (SPIN) neu'r fenter Wythnos o Waith.

Mae ein holl fyfyrwyr yn elwa o rannu'r safle arloesol ar Gampws y Bae â phartneriaid diwydiannol. Mae ein cyfleusterau'n cynnwys mannau wedi'u neilltuo i addysgu ac astudio, a chyfleusterau TG helaeth â'r galedwedd a'r feddalwedd arbenigol ddiweddaraf.

Cyfleoedd Cyflogaeth Cyllid a Bancio Rhyngwladol

Mae gennym brofiad helaeth o leoli ein graddedigion gyda chwmnïau aml-wladol mawr.

Bydd eich rhaglen MSc Cyllid a Bancio Rhyngwladol, sydd wedi'i hachredu gan Sefydliad y Bancwyr Siartredig, yn profi i gyflogwyr bod gennych alluoedd ym mhob agwedd ar fusnes, a'ch bod yn feddyliwr strategol â gwybodaeth ariannol gref a chraffter busnes. 

Gallai eich cam nesaf fod yn unrhyw un o'r rolau hyn:

  • Dadansoddwr Cyllid
  • Bancwr Buddsoddi
  • Ymgynghorydd Buddsoddi

Modiwlau

Byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau gorfodol a dewisol yn semestrau un a dau y cwrs hwn, cyn ymgymryd â phrosiect/traethawd hir annibynnol yn eich trydydd semester.

Ymwadiad: Gall dewis modiwlau newid