Trosolwg o'r Cwrs
A ydych chi eisiau gyrfa ym meysydd arbenigol adrodd ar gynaliadwyedd neu fuddsoddi cynaliadwy?
Mae’r twf mewn buddsoddi cynaliadwy a’r fframwaith rheoleiddio cynyddol ar adrodd ar gynaliadwyedd a buddsoddi cynaliadwy wedi ysgogi’r galw am weithwyr proffesiynol sydd â dealltwriaeth sylfaenol o’r meysydd hyn. Bydd ein MSc Cyllid Cynaliadwy yn rhoi ymwybyddiaeth ddatblygedig i chi o risgiau’r newid yn yr hinsawdd, pwysigrwydd data o ansawdd da ar weithgarwch cynaliadwy corfforaethol, a’r dulliau gwahanol o fuddsoddi’n gynaliadwy.
Byddwn yn helpu i fodloni’r galw cynyddol am weithwyr cyllid proffesiynol sy’n arbenigo mewn cyllid cynaliadwy, gan roi sgiliau uwch i chi mewn adrodd ar gynaliadwyedd, dadansoddi gwybodaeth gorfforaethol yn ymwneud ag adrodd ar gynaliadwyedd, a buddsoddi yn y maes amgylcheddol, cymdeithasol, a llywodraethu, fel bod gennych y set sgiliau i fodloni’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu’r diwydiant cyllid yn sgil ymrwymiadau cenedlaethol a byd-eang i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Mae ein rhaglen ymarferol wedi’i hanelu at raddedigion sydd â gradd gyntaf mewn cyfrifeg, cyllid neu economeg, neu radd sy’n cynnwys ystod o fodiwlau ym meysydd cyllid, cyfrifeg neu economeg, ac sydd eisiau gwella eu hymwybyddiaeth a’u sgiliau ym maes cyllid cynaliadwy. Mae hefyd yn ddelfrydol ar gyfer gweithwyr proffesiynol mewn gwaith ar hyn o bryd, sydd eisiau atgyfnerthu eu gwybodaeth neu uwchsgilio yn eu maes. Yn yr un modd, caiff y sawl sydd â diddordeb mewn astudiaeth ychwanegol ar lefel ôl-raddedig eu paratoi i symud ymlaen i raglenni doethuriaeth.