Trosolwg o'r Cwrs
Ydych chi'n anelu at yrfa mewn cyllid neu fancio? Os felly, mae'r cwrs Cyllid hwn ym Mhrifysgol Abertawe yn ddelfrydol i raddedigion fel chi sydd am astudio rhaglen arbenigol i hwyluso eu llwybr i'w gyrfa gyffrous newydd.
Mae'r rhaglen uwch hon ar gyfer myfyrwyr sydd eisoes wedi astudio cyfrifeg a/neu gyllid ar lefel israddedig. Mae'r cwrs yn mabwysiadu ymagwedd a arweinir gan ddata at ddadansoddi marchnadoedd ariannol a gwybodaeth drefniadaethol. Mae'n cyfuno damcaniaeth academaidd cyllid â safbwynt ymarferol cryf, gan ddefnyddio tueddiadau cyfredol ac ymarfer y sector i lywio'r addysgu a'r trafod.
Byddwch yn datblygu dealltwriaeth gref o rôl a phwysigrwydd gwybodaeth gyfrifyddu mewn rheolaeth ariannol sefydliadau cymhleth ynghyd â dealltwriaeth gref o gyllid a'i ddisgyblaethau cysylltiedig.
Mae'r rhaglen yn ymdrin ag egwyddorion allweddol cyllid, modelu ariannol a marchnadoedd ariannol i'ch paratoi am yrfa ddynamig mewn cyllid, bancio ac amrywiaeth o sectorau eraill.