Trosolwg o'r Cwrs
Os ydych yn ystyried gyrfa ym maes cyllid, bydd y cwrs MSc Rheoli Ariannol Rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe'n rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i chi.
Bydd y rhaglen yn eich helpu i ddatblygu dealltwriaeth estynedig a manwl o ddamcaniaeth academaidd cyllid, ynghyd â gallu ymarferol cryf, a fydd yn rhoi mantais sylweddol i chi yn y sector byd-eang cystadleuol hwn.
Does dim angen cefndir mewn cyfrifeg neu gyllid arnoch i astudio'r cwrs trosi blwyddyn o hyd hwn. Mae'n addas i fyfyrwyr o unrhyw gefndir sy’n awyddus i ddechrau gyrfa ym maes cyllid. Mae wedi'i gynllunio i adeiladu ar eich astudiaethau israddedig a rhoi llwybr carlam i’ch galluogi i ffynnu yn y proffesiwn rydych wedi'i ddewis, unrhyw le yn y byd.
Mae’r rhaglen wedi’i hachredu gan Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig (ACCA) ac mae’n cynnwys eithriadau rhag sefyll hyd at chwech o arholiadau Sylfaenol yr ACCA. Mae hyn yn seiliedig ar eich dysgu blaenorol ac mae’n eich atal chi rhag gorfod astudio’r un pynciau rydych chi wedi’u dysgu eisoes.
Yn ogystal, mae gan yr Ysgol Reolaeth gysylltiadau cryf â Sefydliad y Dadansoddwyr Ariannol Siartredig (CFA), Sefydliad y Bancwyr Siartredig, Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli (CIMA), y Sefydliad Siartredig ar gyfer Gwarantau a Buddsoddi a Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yn Lloegr a Chymru (ICAEW). Bydd y cysylltiad agos hwn â chyrff proffesiynol yn gwella'ch rhagolygon gyrfa ac yn rhoi mantais i'ch galluogi i ffynnu ym myd cystadleuol heddiw.